• This website is available in English

Newyddion

  • Free Swimming1 Logo

    Darllennwch yr adroddiad dadansoddi diweddaraf am ddata Nofio Am Ddim sy’n dangos y tueddiadau yng Nghymru.

    Gweithiwn ar y cyd â Chwaraeon Cymru i gasglu, dadansoddi ac adrodd am ddata Nofio am Ddim oddi wrth awdurdodau lleol yng Nghymru.

    Nod y gwaith hwn yw gwerthuso effaith y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru drwy ddefnyddio’r data yn effeithiol.

    Dyma rai o’r prif bwyntiau o ddata 2016-17:

    • Bu lleihad 33% a 36% mewn cyfranogiad mewn nofio cyhoeddus am ddim yn y drefn honno ymhlith gwrywod a menywod 16 oed ac yn iau, o’i gymharu â 2015-16.
    • Mae’r grŵp oedran 60 ac yn hŷn wedi gweld cynnydd o 2% mewn cyfranogiad mewn nofio cyhoeddus am ddim, o’i gymharu â 2015-16.

    Dysgwch fwy a gweld sut mae cyfranogiad yn eich awdurdod chi drwy fynd i’n hoffer Nofio am Ddim.

    I weld adroddiad 2016-17 cliciwch y ddelwedd isod. Sylwch fod yr adroddiad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

    Free Swimming

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • IBC Logo

    Rydym wedi diweddaru ein cynnig ar gyfer data Prisiau tai cyfartalog ar InfoBaseCymru. Rydym nawr yn cynnwys data ar Brisiau tai cyfartalog am brynwyr tro cyntaf a’r Canran newid blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog. Mae'r rhain ar gael ar lefel awdurdod lleol.

    Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y data yma, plîs cysylltwch â ni ar ymholiadau@unedddatacymru.gov.uk neu 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 3% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    *Yn eithrio data ar gyfer un awdurdod lleol.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Yma fe welwch yr holl newyddion am InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

    Cyfrif Hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (Awst 2017)

    Mae ffigyrau diweddaraf (Awst 2017) cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith nawr ar gael yn dilyn diweddariad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Prisiau tai cyfartalog (Gorffennaf 2017)

    Mae’r data ar gyfer Gorffennaf 2017 am brisiau tai cyfartalog ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Gofrestrfa Tir yn ddiweddar.

    Data Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) 2016-17 wedi’u cyhoeddi

    Mae data Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) ar gyfer 2016-17 wedi cael eu cyhoeddi.

    Dylai ymholiadau am y data gael eu hanfon at PIenquiries.

    Terfynu set ddata budd-daliadau yn ôl math

    Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi terfynu ystadegau budd-daliadau yn ôl math ac felly ni fydd y data hwn yn cael ei ddiweddaru bellach.

    Byddwn yn ychwanegu rhai dangosyddion budd-daliadau newydd DWP yn ôl awdurdod lleol ac ardal leol cyn bo hir.

    Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan NOMIS.

    Absenoldeb o’r ysgol: Ysgolion Uwchradd (BA 2016-17)

    Mae’r data ar gyfer 2016-17 am absenoldeb o’r ysgol mewn ysgolion uwchradd ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Data digwyddiadau tân, thanau â phresenoldeb a larymau mwg (2016-17)

    Mae’r data ar gyfer 2016-17 am ddigwyddiadau tân, thanau â phresenoldeb a larymau mwg nawr ar gael yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Data Unit LogoRydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad monitro cyntaf o’n cydymffurfiaeth â’n Rheoliadau Safonau’r Gymraeg.

    O’r 25 Ionawr 2017, mae’r Uned Ddata wedi ymrwymo i Reoliadau Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Safonau yma yn gosod disgwyliadau pendant arnom ni i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’n cwsmeriaid ac i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau.

    Mae ein hadroddiad monitro yn darparu gwybodaeth ar ein cydymffurfiaeth, unrhyw gamau gweithredu rydym wedi cynnal, yn ogystal â darparu gwybodaeth ar unrhyw gwynion yn ymwneud â’n gydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a dderbyniwyd. Rydyn yn falch i ddweud nad ydym wedi derbyn unrhyw gwynion yn 2016-17.

    Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad yma.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Data Unit Logo

    Mae perfformiad awdurdodau lleol yn parhau i wella…

    Mae data am 2016-17 yn dangos bod perfformiad ALi wedi gwella mewn 64% o ddangosyddion

    Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Uned Ddata yn dangos bod perfformiad wedi gwella mewn 64% o ddangosyddion cymaradwy i’w gymharu a 2015-16.

    Mae’r bwlch mewn perfformiad (rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai gwaethaf) wedi’i gulhau mewn dros hanner o’r dangosyddion.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • MyLocalCouncil Logo

    Ffordd rwydd o weld sut mae FyNghyngorLleol yn perfformio

    Heddiw diweddarwyd gwefan sy’n bwriadu helpu’r cyhoedd i ddeall sut mae eu cyngor lleol yn perfformio gyda’r data diweddaraf am berfformiad awdurdodau lleol ar gyfer 2016-17.

    Mae’r wefan yn gadael i ddefnyddwyr weld sut mae eu hawdurdod nhw yn cymharu ag eraill ledled Cymru, sut mae’n cymharu â chyfartaledd Cymru, a sut mae ei berfformiad wedi amrywio dros y blynyddoedd diwethaf.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 10%* yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    *Yn eithrio data ar gyfer un awdurdod lleol.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Cyhoeddedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrifon poblogaeth canol y flwyddyn 2016 ar 22 Mehefin 2017.

    Mae’r amcangyfrifon ar gael ar lefel blwyddyn oedran unigol ac awdurdod lleol. Rydym ni wedi eu cynnwys yn InfoBaseCymru fel bandiau oedran eang i’w gwneud yn haws eu defnyddio. Cysylltwch â ni os oes arnoch chi angen data am fandiau oedran gwahanol.

    Am fwy wybodaeth am ddata poblogaeth cysylltwch â Jenny Murphy.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos cynnydd o 2%* yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    *Yn eithrio data ar gyfer un awdurdod lleol.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor