Canllaw Cyflwyniadol Data Cymru i

Werthuso

Dysgwch fwy

Cefnogi'ch dealltwriaeth o beth yw gwerthuso a pham mae'n bwysig ar gyfer prosiectau, rhaglenni a pholisïau.

Dysgwch fwy

Rhoi'r wybodaeth sylfaenol i chi er mwyn i chi ddeall pam a phryd byddwch chi efallai'n ymgymryd â gwerthuso.

Dysgwch fwy

Rhoi cyfeiriad i chi o ran y dulliau a'r prosesu gallech chi eu defnyddio i werthuso'n effeithiol.

Dysgwch fwy

Cynnig cyfeiriadau at arweiniad a chymorth pellach.

Dysgwch fwy

Ein canllaw i werthuso

 
Bydd y canllaw hwn yn:
  • Cefnogi’ch dealltwriaeth o beth yw gwerthuso a pham mae’n bwysig ar gyfer prosiectau, rhaglenni a pholisïau.
  • Rhoi’r wybodaeth sylfaenol i chi er mwyn i chi ddeall pam a phryd byddwch chi efallai’n ymgymryd â gwerthuso.
  • Rhoi cyfeiriad i chi o ran y dulliau a’r prosesu gallech chi eu defnyddio i werthuso’n effeithiol.
  • Cynnig cyfeiriadau at arweiniad a chymorth pellach.
Nid canllaw diffiniadol i werthuso yw hwn. Ein nod yn hytrach yw cyfleu’r camau allweddol i ymgymryd â gwerthusiad effeithiol a chymesur a chynnig cynghorion ymarferol ar sut mae gwneud hynny.

Y Llyfr Magenta Book – arweiniad i werthuso (Saesneg yn unig) 

Am ganllawiau cynhwysfawr am y DU, rydym ni’n argymell yn fawr iawn eich bod chi’n cyfeirio at y Magenta guide, arweiniad Trysorlys Ei Mawrhydi ar werthuso, ac yn ei ddefnyddio fel eich adnodd hanfodol wrth werthuso.

Felly, beth yw gwerthuso a phryd ydy e’n cael ei ddefnyddio?

Mae gwerthuso yn broses wrthrychol o ddeall sut cafodd polisi neu ymyriad arall ei weithredu, pa effeithiau a gafodd, i bwy, sut a pham

- Magenta Book -

Yn gryno, mae gwerthuso’n broses sy’n cael ei chynnal gan sefydliadau er mwyn deall:

  • cynnydd ac ansawdd eu gwaith (gweithgareddau penodol, ymyriadau, allbynnau, a ffyrdd o weithio);
  • y canlyniadau a’r effaith neu’r gwahaniaeth maent yn ei wneud (e.e. i ddefnyddwyr gwasanaeth, rhanddeiliaid neu arianwyr); a
  • chyfleoedd i wella neu roi sylw pellach.

Gall gwerthuso gael ei ddefnyddio i asesu ansawdd ac effaith pob math o weithgarwch sefydliad a darpariaeth gwasanaethau o bolisïau graddfa fawr i raglenni prosiectau a gweithgareddau llai o faint. Gall ddigwydd cyn, yn ystod neu ar ôl darparu rhaglen ond mae’n fwyaf effeithiol o’i ddylunio’n gynnar, ochr yn ochr â chynllunio rhaglen.

Y broses werthuso

 

Dyma’r camau rydym yn awgrymu y gallech chi eu hystyried wrth gynllunio a chynnal gwerthusiad:

Evaluation Process flowchart

Fframweithiau neu fodelau gweledol i gefnogi gwerthuso

 
O’u datblygu’n gynnar mewn rhaglen yn hytrach nag yn benodol ar gyfer gwerthusiad, gall modelau Rhesymeg a Theori Newid fod yn ddynamig a chael eu diweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn cynlluniau, prosesau a chanlyniadau.

I werthuso rhaglen, mae’n ddefnyddiol cytuno ar gyfeirnod i farnu cynnydd neu lwyddiant yn ei erbyn. Beth ydym ni’n disgwyl ei gyflawni a pham? Pa newidiadau byddwn ni’n disgwyl eu gweld? ac ati.

Mae cynrychiolaeth weledol o’r gweithgareddau arfaethedig, yr allbynnau a’r canlyniadau a ddisgwylir yn gallu bod yn ffordd ddefnyddiol o gynllunio ac olrhain cynnydd a newid. Mae yna fodelau neu fframweithiau gallwch eu defnyddio i’ch helpu i wneud hyn. Bydd y rhain yn sefydlu “stori” rhaglen ac yn disgrifio sut mae prosesau a chanlyniadau’n cael eu cynllunio’n ddilyniannol, gan ddarlunio cysylltiadau achosol eglur rhwng pob un o elfennau rhaglen. Mae’r rhain yn ddefnyddiol i gynllunio rhaglenni ac ymyriadau yn ogystal â deall newid pan fydd yn bryd cynnal gwerthusiad. Trafodwn:

  • Fodelau rhesymeg: Mae’r rhain fel arfer yn gynrychioliadau graffigol o’r gadwyn gweithgareddau a phrosesau sy’n cael eu cynllunio, gan ddangos sut mae’r canlyniadau a ddymunir yn digwydd.
  • Theori Newid: Disgrifiad a darlun manwl yw hwn o sut a pham mae disgwyl i newid a ddymunir ddigwydd o safbwynt “darlun ehangach”. Mae’n canolbwyntio ar briodoli ac egluro pa ymyriadau neu weithgareddau sy’n gyfrifol am newid.

Mathau o werthusiad

 
Bydd y canlynol efallai’n dylanwadu ar eich penderfyniad: yr amser sydd ar gael, lefel y cynllunio gwerthuso rydych wedi’i gwneud cyn gweithredu prosiect, a pha fesurau sydd bwysicaf i’ch sefydliad a’ch

Man cychwyn gwerthusiad effeithiol yw penderfynu pa fath o werthusiad mae angen i chi ei gynnal. Bydd y cwestiynau mae angen i chi eu hateb a ble ydych chi yng nghylch bywyd prosiect yn pennu’r math o werthusiad mae arnoch ei angen. Rydym ni’n diffinio pum math o werthuso, sef:

  • Gwerthusiad ffurfiannol - mae’r rhain yn asesu dichonoldeb a photensial rhaglen, polisi neu ymyriad.
  • Gwerthuso prosesau – mae’r rhain yn asesu pa mor effeithiol mae rhaglen, polisi neu ymyriad yn cael, neu wedi cael, ei weithredu
  • Gwerthuso canlyniadau – mae’r rhain yn asesu i ba raddau mae rhaglen, polisi neu ymyriad wedi cyflawni’r canlyniadau a fwriadwyd.
  • Gwerthuso effeithiau – mae’r rhain yn archwilio ac yn asesu effeithiau tymor hwy, bwriadol neu fel arall, rhaglen, polisi neu ymyriad.
  • Gwerthuso economaidd – mae’r rhain yn asesu gwerth am arian rhaglen neu werthusiad.

Er bod mathau gwahanol o werthusiad, anaml iawn y bydd sefydliad yn cynnal un math o werthusiad. Mae angen i lawer o sefydliadau ddefnyddio gwerthusiadau i gael dealltwriaeth o’r prosesau; canlyniadau; effeithiau; a gwerth economaidd eu gwaith i lywio a siapio sut maen nhw’n gweithio yn y dyfodol. Eich dewis chi yw a ydych chi’n mesur un neu ddwy o’r elfennau hyn ar un adeg neu bob un ohonyn nhw ar yr un pryd.

Er enghraifft, efallai bod deall y gwahaniaeth a wnaed i fywydau pobl a gwerth economaidd yn flaenoriaeth i chi os ydych chi’n comisiynu ymyriad newydd. Byddai’r angen hwn yn cael ei gefnogi gan werthusiad effaith a gwerthusiad economaidd. Fel arall, os ydych yn dymuno gwella nifer y bobl sy’n mynychu’ch digwyddiadau neu raglenni, efallai y byddwch yn dymuno edrych yn agosach ar eich prosesau a chynnal gwerthusiad o brosesau.

Data a thystiolaeth

 

Data a thystiolaeth sydd wrth galon gwerthusiad effeithiol. Wedi cytuno ar y cwestiynau rydych eisiau eu hateb, y math o werthusiad rydych yn bwriadu ei ddefnyddio, a’ch stori gwerthuso, bydd angen i chi nodi’r data mae ei angen i gefnogi’r gwerthusiad.

Mae gwerthuso’n rhywbeth ar wahân i raglen fonitro. Mae monitro’n cynnwys casglu data i wneud yn siŵr bod eich rhaglen yn dilyn y trywydd cywir. Gall yr wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol i gefnogi ymarferion gwerthuso a chynnig rhywfaint o’r data eilaidd mae ei angen i

Mae dau brif fath o ddata, sef:

  • Data eilaidd: Data eilaidd yw unrhyw fath o wybodaeth sy’n bodoli’n barod y cewch ei defnyddio i’ch helpu i ateb y cwestiynau. Mae’n gallu cynnwys: data gweinyddol, monitro rhaglenni, ffigurau a chofrestri presenoldeb, ystadegau swyddogol, adroddiadau rhaglen ac ati. Gall y mathau hyn o ddata fod yn ddefnyddiol mewn unrhyw fath o werthusiad, ond yn arbennig gwerthusiadau economaidd, canlyniadau a phrosesau y mae angen yn aml iddynt fanteisio ar wybodaeth sy’n bodoli’n barod i ddangos tystiolaeth o’r arian a arbedwyd, yr allbynnau a’r canlyniadau sydd wedi eu gwella. Dylai argaeledd ffynonellau data eilaidd addas gael ei ystyried yn y lle cyntaf i osgoi gwaith a chost data diangen ychwanegol.
  • Data sylfaenol: Data sylfaenol yw’r gwaith ymchwil a monitro rydych yn ei wneud ar gyfer y gwerthusiad neu’r astudiaeth bresennol. Gall fod yn ansoddol neu’n feintiol a chynnwys: arolygon; grwpiau ffocws; cyfweliadau; a dulliau arbrofol a chreadigol – mae llawer o opsiynau. Mae’r mathau hyn o ddata yn cefnogi pob math o werthusiad ac yn arbennig o ddefnyddiol i werthuso effeithiau lle mae angen rhoi tystiolaeth o newid cymhleth a hirdymor, nad oes modd ei gyfathrebu’n hawdd drwy ystadegau a niferoedd presennol.

Cytuno ar drefniadau gwerthuso

 

Ar ôl i chi asesu’ch holl anghenion gwerthuso, sy’n cynnwys: stori a rhesymeg eich rhaglen; math eich gwerthusiad; a’ch anghenion am ddata a thystiolaeth, byddwch efallai am ystyried a chynllunio’ch trefniadau rheoli a chyflawni’ch gwerthusiad. Bydd meddwl am yr holl sgiliau mae eu hangen i gynnal gwerthusiad effeithiol yn eich helpu i bennu pa sgiliau sydd gennych o fewn eich sefydliad a’r rhai mae angen eu cyrchu o’r tu allan, a’r goblygiadau canlyniadol o ran adnoddau ac amser.

Rydym yn awgrymu eich bod yn meddwl am:

  • Cynllunio a rheoli
  • Monitro, a chasglu a choladu data
  • Sgiliau ymchwil (Ansoddol a Meintiol)
  • Dadansoddi data a hysbysrwydd (Ansoddol a Meintiol)
  • Lledaenu ac adrodd
  • Sgiliau ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau
  • Yr adnoddau mae eu hangen, gan gynnwys cyllid, amser a darpariaethau eraill
  • Cwmpas a chyfyngiadau’r gyllideb.

Fframwaith galluoedd (Saesneg yn unig)

Mae’r fframwaith hwn yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol am y sgiliau sy’n cefnogi gwerthuso effeithiol.

Manteisio i’r eithaf ar ganlyniadau gwerthusiad

 

Mae gwerthuso’n effeithiol pan gaiff ei ddefnyddio i ddangos sut mae newid a gwelliant yn digwydd ac i gryfhau darpariaeth gwasanaethau’n gyson. Dylai allu dangos hefyd a ydy rhaglen yn aneffeithiol neu hyd yn oed yn wrthgynhyrchiol a’r rhesymau am hyn ac felly a ddylai gael ei hatal neu ei hail-ddylunio. Er mwyn i werthuso fod yn effeithiol yn y dulliau hyn, byddwch efallai am feddwl am y gwahaniaeth y gallai canfyddiadau gwerthusiad ei wneud, eich cynlluniau lledaenu a chyfathrebu, yn ogystal â chyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar y gwersi sydd wedi cael eu dysgu. Rydym yn awgrymu eich bod yn meddwl am:

  1. Pwy sydd angen gwybod am ganfyddiadau a gwersi’ch gwerthusiad, a sut fyddwch chi’n cyfathrebu ac yn lledaenu’r wybodaeth hon yn effeithiol?
  2. Ym mha ddulliau gallai canfyddiadau’ch gwerthusiad wneud gwahaniaeth i’ch sefydliad, a/neu i ddarpariaeth eich gwasanaethau:
    • Byddai angen gwneud addasiadau i ddarpariaeth bresennol rhaglenni?
    • Byddai gwersi’ch gwerthusiad yn llywio rhaglenni a chynllunio yn y dyfodol?
    • Pa mor eang hoffech i’r newidiadau hyn gael eu teimlo – ar lefel darpariaeth leol; lefel sefydliadol; ar draws rhaglenni lluosog o fewn un ardal neu’n rhanbarthol?
  3. Pwy fyddai angen cymryd rhan mewn penderfynu a gwneud y newidiadau hyn – pa randdeiliaid a staff, a sut a phryd fyddai angen i chi eu cynnwys?
  4. Pa brosesau fyddai angen i chi eu gweithredu i ddechrau cynllunio a gweithredu newidiadau? Er enghraifft, fyddech chi’n mynd drwy sesiynau cynllunio camau gyda rhanddeiliaid; sesiynau generadu syniadau tîm; sesiynau crynhoi ac yn y blaen?
  5. Gallai’r prosesau newid gael eu cynnal yn fewnol neu fyddai angen i chi eu comisiynu?
  6. Sut ac i bwy fyddech chi’n cyfathrebu’r newidiadau hyn?
  7. Fyddai angen i chi adolygu a gwerthuso’r newidiadau hyn? Sut fyddech chi’n gwneud hyn ac ar ba adegau?

Gallai gofyn ac ymdrin â’r cwestiynau hyn eich arwain at ddechrau cylch arall o werthuso.

Adnodd defnyddiol:

Tystiolaeth er da – Sut mae elusennau’n defnyddio tystiolaeth i hybu eu dylanwad a’u heffaith (Saesneg yn unig)

Mae'r arweiniad hwn am ddefnydd effeithiol tystiolaeth yn dangos sut y gall gwerthuso ac ymchwil sbarduno newid ystyrlon.

Fframweithiau neu fodelau gweledol

 

Fel y nodwyd yn gynharach, mae sawl fframwaith neu fodel sy’n gallu’ch cefnogi wrth gynllunio a gwerthuso. O ran gwerthuso, maent yn gallu eich helpu i wneud y canlynol:

  • Cynllunio, mapio ac adnabod y gweithgareddau a’r mewnbynnau sy’n arwain at ganlyniadau, cefnogi gwerthusiadau prosesau; a
  • Deall y newidiadau mae eu hangen a phwy fyddai’n atebol amdanynt, sy’n cefnogi gwerthusiadau o ganlyniadau ac effeithiau.

Modelau rhesymeg

Modelau rhesymeg
  • Mae modelau rhesymeg yn mapio’n glir y ffactorau gwahanol a gynhwysir yn oes rhaglen ac ym mha drefn mae angen eu hystyried. Drwy restru’r elfennau amrywiol ac ar ba gamau mae angen ymdrin â nhw, cewch ddeall pa wybodaeth mae angen ei mesur yn y broses werthuso hon a phryd.
  • Maent yn ddull da o gefnogi gwerthusiadau o brosesau, lle mae gweithgareddau ac allbynnau llinol yn cael eu hadolygu. Maent yn gallu cael eu cymhwyso hefyd i werthuso ffurfiannol wrth fapio cyfleoedd a rhwystrau posibl i weithrediad rhaglen. Maent yn ddefnyddiol hefyd wrth werthuso canlyniadau, wrth asesu’r canlyniadau a gafodd eu cyflawni a’r allbynnau a’r gweithgareddau a’u hategodd.

Theori Newid

Theori Newid
 
  • Mae Theori Newid yn dweud stori fanwl ac aml-ddimensiwn newid
  • Mae’n hyrwyddo ymagwedd meddwl beirniadol at ddylunio gwerthusiad
  • Mae’n annog gwerthuswyr, staff a rhanddeiliaid i briodoli llwyddiant yn ofalus drwy ystyried:
    • ffactorau allanol
    • ymyriadau a rhagdybiaethau lluosog mewn stori lwyddiant. Mae gwneud hynny’n gadael i chi ystyried a ydy cyd-destun polisi cymhleth rhaglen yn cael ei gyflawni ac yn golygu y gall llwyddiant realistig a net ddechrau cael ei briodoli i’r rhaglen sy’n cael ei gwerthuso
  • • Mae ei fapio proses manwl yn gadael i chi werthuso prosesau, ond mae’n addas iawn hefyd i werthusiadau canlyniad ac effaith cymhleth.

Adnodd defnyddiol:

Mathau o werthusiad

 

Nid oes unrhyw restr gynhwysfawr o fodelau gwerthuso am eu bod yn esblygu’n gyson, ac mae’n iawn i ddylunio’ch model eich hun (ar yr amod eich bod yn gwybod eich math o werthusiad, a’ch stori werthuso).

Gwerthuso ffurfiannol

Beth maent yn ei fesur

Mae’r gwerthusiadau hyn yn asesu ymarferoldeb prosiect a chynnydd dros dro ac yn digwydd cyn neu yn ystod darparu rhaglen. Gallant ddigwydd cyn darparu rhaglen er mwyn asesu’r effaith debygol a gaiff ar wasanaeth a’i ddefnyddwyr ac asesu ei hymarferoldeb. Maent yn gallu digwydd hefyd wrth ddarparu rhaglen i ddarparu gwersi amserol am ba welliannau mae angen eu gwneud a sut i’w gwneud.

Dulliau

Mae’r gwerthusiadau hyn yn tueddu i fanteisio ar ddulliau ymchwil ansoddol). Yn nodweddiadol maent yn gofyn a fydd rhaglen yn gweithio ac yn archwilio’r ffactorau a fydd yn rhwystro neu alluogi ei llwyddiant. Os bydd gwerthusiad yn digwydd yn ystod gweithrediad rhaglen, gall dulliau meintiol fod yn ddefnyddiol hefyd.

Enghraifft

Mae’r rhaglen Allgymorth Cydweithredol Cenedlaethol yn bwriadu cynyddu cynrychiolaeth myfyrwyr anfanteisiol mewn Addysg Uwch. Mae’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch yn comisiynu gwerthusiad ffurfiannol pedair-blynedd y rhaglen i ddarganfod beth sy’n gweithio’n dda a pham.

 

 

Gwerthuso prosesau

Beth maent yn ei fesur

Mae’r gwerthusiadau hyn yn asesu pa mor effeithiol mae rhaglen wedi cael ei gweithredu. Maent yn olrhain y cynnydd tuag at weithgareddau, allbynnau a thargedau arfaethedig rhaglen. Mae hyn yn gadael i chi weld lle mae llwyddiant yn digwydd neu’n methu digwydd a dechrau deall pam. Gallant ddigwydd ar ddiwedd rhaglen, ond yn fwy defnyddiol ar adegau penodol o fewn rhaglen i ddysgu gwersi a gwella effeithiolrwydd darpariaeth. Byddwch yn sylwi y gall hyn achosi gorgyffwrdd rhwng gwerthuso ffurfiannol a gwerthuso prosesau.

Dulliau

Mae’r gwerthusiadau hyn yn manteisio ar bob math o ddata, gan gynnwys ffynonellau sylfaenol ac eilaidd, a gallwch ddefnyddio dulliau ymchwil cymysg hefyd i ateb cwestiynau gwerthuso. Maent yn nodweddiadol yn cwestiynu llwyddiant gweithgareddau sydd yn yr arfaeth, gan gynnwys ffigurau presenoldeb, boddhad cwsmeriaid, nifer y gweithgareddau sy’n cael eu cyflenwi a’u heffeithlonrwydd. Gallant ddadansoddi effeithiolrwydd adnoddau (neu fewnbynnau) a ddefnyddiwyd i weithredu’r rhaglen hefyd. Mae dulliau meintiol ac ansoddol yn ategu’r gwerthusiadau hyn, gan gynnwys arolygon, cyfweliadau, astudiaethau achos, grwpiau ffocws, arsylwadau, astudiaethau empirig, a mwy.

Enghraifft

Comisiynodd yr Adran Gwaith a Phensiynau werthusiad o broses ei Rhaglen Fit for Work. Roedd y rhaglen wedi’i hanelu at gyflogeion ar absenoldeb salwch hirdymor, neu mewn perygl o hynny, a’r systemau rheoli sydd ar waith i’w osgoi a’i leihau. Cwestiynodd yn benodol effeithiolrwydd y systemau a’r prosesau hynny.

 

Adnodd defnyddiol

Corff Iechyd y Byd (Saesneg yn unig)

Arweiniad Corff Iechyd y Byd (WHO) ar werthuso prosesau.

 

Gwerthuso canlyniadau

Beth maent yn ei fesur

Caiff y gwerthusiadau eu defnyddio’n draddodiadol mewn rhaglenni a ariennir yn gyhoeddus er mwyn asesu a ydyn nhw wedi cyflawni canlyniadau arfaethedig a chanlyniadau uniongyrchol rhaglen, ac i ba raddau. Er bod gwerthusiadau o broses yn gallu dweud wrthych faint o bobl a fynychodd gwrs, gall gwerthuso canlyniadau ddweud wrthych faint o bobl a enillodd gymhwyster neu a gafodd gyflogaeth o’i herwydd. Gan hynny mae gwerthuso canlyniadau yn tueddu i ddigwydd yn union ar ôl i raglen ddod i ben, neu ar ddiwedd amserlen i’w darparu.

Dulliau

Mae’r gwerthusiadau hyn yn elwa ar ddefnyddio dulliau a data lluosog i ddeall canlyniadau rhaglen. Er enghraifft, gall arolygon meintiol gael eu defnyddio i gipio faint o bobl sydd mewn swyddi nawr, yn ogystal â grwpiau ffocws ansoddol a all archwilio sut mae dealltwriaeth pobl o bwnc wedi gwella. Gall astudiaethau empirig ac arbrofol gael eu defnyddio hefyd sy’n cymharu cynnydd un grŵp â grŵp arall na chafodd yr ymyriad. Nid dyma bob un o’r opsiynau.

Enghraifft

Trefnodd y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr i werthusiadau o ganlyniadau gael eu cynnal ar ddau ymyriad trais domestig i fesur eu heffeithiolrwydd wrth leihau achosion o aildroseddu.

 

Adnodd defnyddiol

Mae arweiniad y Sefydliad dros Astudio Plant, Teuluoedd a Materion Cymdeithasol ar werthuso canlyniadau yn seiliedig ar eu gwerthusiad o raglenni Cychwyn Cadarn ond gall fod yn gyflwyniad cyffredinol i werthuso canlyniadau rhaglen hefyd.

Byddwch chi efallai’n dymuno edrych hefyd ar:

 
 

Gwerthuso effeithiau

Beth maent yn ei fesur

Mae’r gwerthusiadau hyn yn asesu’r newidiadau hirdymor ac eang mae rhaglen yn eu gwneud. Yn aml ni all y newidiadau hyn gael eu gweld na’u hasesu tan tipyn ar ôl i raglen ddechrau. Oherwydd eu natur hirdymor ac yn aml eang, nid yw’n hawdd priodoli newid i un rhaglen neu ymyriad penodol a gallant fynnu dyluniadau gwerthuso soffistigedig. Cynghorir peidio â’u drysu â chanlyniadau cynlluniedig, uniongyrchol a byrdymor rhaglen, a ddylai gael eu hasesu drwy werthusiadau o ganlyniadau.

Dulliau

Mae’r gwerthusiadau hyn yn tueddu i ofyn cwestiynau lefel uchel a phenagored sy’n caniatáu casglu data a gwybodaeth amrywiol a chyfoethog. Maent yn gofyn am ddyluniadau soffistigedig sy’n gadael i gysylltiadau gael eu gwneud rhwng ymyriad a’i effeithiau, weithiau blynyddoedd ar ôl i’r rhaglen ddechrau. Y dyluniadau sy’n cael eu ffafrio yw’r rhai ar sail theori sy’n gofyn am ddulliau ansoddol neu ar sail empirig sy’n gofyn am ddulliau gwerthuso meintiol.

Enghraifft

Comisiynodd UNICEF werthusiad effaith ar Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Malawi ar gyfer plant amddifad a phlant eraill sy’n agored i niwed. Nod yr astudiaeth oedd deall i ba raddau roedd y Cynllun Cenedlaethol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant.

 

Rhywbeth i’w gofio: Mae gwerthusiad da o effeithiau yn deall y gall fod modd priodoli newid i ffactorau lluosog, nid un ymyriad yn unig.

 

Gwerthusiadau economaidd

Beth maent yn ei fesur

Mae’r gwerthusiadau hyn yn dangos sut mae canlyniadau rhaglen yn cyfiawnhau’r gost o ran amser ac arian. Hefyd maent yn gallu dangos gwerth hirdymor am arian. Mae pedwar math gwahanol, sef:
Enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad (SROI): Mae’r gwerthusiadau hyn yn eich helpu i ddeall a meintoli’r gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mae rhaglen yn ei gyfrannu.
Dadansoddi cost-effeithiolrwydd: Yn y gwerthusiadau hyn, byddai dwy neu fwy o raglenni yn cael eu cymharu er mwyn nodi’r opsiwn mwyaf cost-effeithiol. Byddai hyn yn digwydd drwy ddadansoddi cost pob rhaglen yn erbyn y gwerth a gâi ei ychwanegu gan eu canlyniadau cymharol.
Dadansoddi cost budd: Mae’r gwerthusiadau hyn yn cyfrifo buddion posibl rhaglen, a’u cymharu â chostau cysylltiedig ei chynnal.

Dulliau

Gan fod y gwerthusiadau hyn yn cael eu seilio o amgylch asesu rhaglen, fel arfer yn nhermau ariannol, a’i chostau, mae angen dadansoddiad ariannol manwl.

Ffaith ddiddorol: Mae enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad yn manteisio ar fodelau rhesymeg hefyd, fel Theori Newid i wneud synnwyr o effaith economaidd ymyriadau. Mae hyn yn golygu y gwelwch o bosib rywfaint o dechnegau ansoddol a chwestiynau o fewn y gwerthusiadau hyn.

Enghraifft

Gofynnodd Cymdeithas Clybiau Berkshire i Bobl Ifanc am werthusiad enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad a edrychodd ar effaith ariannol ymyriadau am eu llawer o grwpiau rhanddeiliaid.

 

Ychwanegedd: Mae ychwaneged yn ystyried i ba raddau mae rhywbeth yn digwydd o ganlyniad i ymyrraeth neu raglen na fyddai wedi digwydd yn ei absenoldeb. Mae’r arweiniad hwn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr iawn o gysyniadau allweddol mewn gwerthuso economaidd:

Arweiniad i ychwanegedd (Saesneg yn unig)

Mae Adran Cartrefi a Chymunedau Llywodraeth y DU yn cynnig arweiniad cynhwysfawr ar sut i asesu ychwaneged.

Canllawiau a chymorth pellach

 

Rydym wedi ceisio cadw’r canllawiau hyn yn fyr ac yn eglur yn fwriadol.

Gobeithio eu bod yn cynnig digon o fanylion i roi dealltwriaeth eglur o beth yw gwerthusiad ac i’ch rhoi ar ben y ffordd wrth gynnal gwerthusiad. Gobeithio hefyd y byddant yn eich symbylu i ddymuno gwybod mwy. Efallai yr hoffech gael arweiniad pellach ar y manylion neu ddarllen am y theori a’r arferion.

Yn rhan hon y canllawiau, rydym wedi cynnwys dolenni â deunydd cefnogol arall a allai fod o fudd i chi.

Gobeithiwn ddatblygu’r canllawiau ymhellach ymhen amser gyda chyfraniad defnyddwyr.

Y Llyfr Magenta Book – arweiniad i werthuso (Saesneg yn unig)

Mae’r Magenta Book a gynhyrchwyd gan Drysorlys EM, yn arweiniad cydnabyddedig i beth i feddwl amdano wrth ddylunio a chynnal gwerthusiad. Mae’n esbonio sut all canlyniadau gael eu dehongli a’u cyflwyno, a beth ddylai gael ei ystyried yn y broses hon. Er mai llywodraeth ganolog sy’n ei ddefnyddio’n bennaf, mae’n ddefnyddiol hefyd i wneuthurwyr polisi mewn llywodraeth leol, elusennau a’r sector gwirfoddol.

Gwerthuso – Canllawiau Ymarferol (Saesneg yn unig)

Mae hwn yn arweiniad ar gyfer ymchwilwyr sy’n ceisio ennyn diddordeb cynulleidfaoedd cyffredinol yn eu pwnc er mwyn gwerthuso gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd.

Y Ganolfan dros Theori Newid (Saesneg yn unig)

Nod y Ganolfan dros Theori Newid yw cefnogi dealltwriaeth o ymagwedd Theori Newid a’r hyn mae ei angen i gefnogi ei gweithredu’n llwyddiannus. Mae ei gwefan yn cynnwys canllawiau ar y model a’i ddefnydd.

Tystiolaeth er da – Sut mae elusennau’n defnyddio tystiolaeth i hybu eu dylanwad a’u heffaith (Saesneg yn unig)

Mae’r arweiniad hwn am ddefnydd effeithiol tystiolaeth yn dangos sut gall gwerthuso ac ymchwil sbarduno newid ystyrlon.

Geirfa

 

Priodoli: Mewn gwerthusiadau, mae priodoli yn cyfeirio ar yr actorion a’r ymyriadau sy’n gyfrifol am gynnydd a newid.

Cydgynhyrchu: Mae hon yn ffordd o weithio sy’n mynd ati i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a dinasyddion wrth ddylunio, cynllunio, cyflenwi a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Gweler Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Gwrth-ffeithiol: Mae’r gwrth-ffeithiol yn gofyn “beth fyddai wedi digwydd o hyd” neu “beth fyddai wedi digwydd beth bynnag” i grwpiau, cymunedau neu unigolion os nad oedd y rhaglen, polisi neu ymyrraeth sy’n cael ei gwerthuso ar waith. Mae’n cefnogi ymagwedd Theori Newid at werthuso.

Astudiaethau/gwerthusiadau empirig:Mae’r astudiaethau hyn yn defnyddio dulliau ac arbrofion gwyddonol i ddeall effaith ymyriad neu raglen, gan gynnwys Hap-brofion Wedi’u Rheoli a Lled-arbrofion.

Dulliau ymchwil cymusg: Mae hyn yn nodweddiadol yn golygu defnyddio dulliau ymchwil sy’n gadael i ddata ansoddol a meintiol gael ei gasglu.

Data sylfaenol: Data sylfaenol yw’r ymchwil a’r dystiolaeth sy’n cael eu casglu’n benodol ar gyfer yr astudiaeth neu’r ymchwil bresennol. Mae’n gallu bod yn ansoddol neu’n feintiol ac yn cynnwys: arolygon; grwpiau ffocws; cyfweliadau; a dulliau arbrofol a chreadigol – mae llawer o opsiynau. Mae’r mathau hyn o ddata yn cefnogi pob math o werthusiad. Mae data sylfaenol yn cefnogi pob math o werthusiad, yn arbennig pan nad oes unrhyw ddata (eilaidd) a oedd yn rhag-fodoli ar gael i ddangos newid, effaith a chynnydd. Wrth werthuso effeithiau, lle mae angen cyfleu newid hir a chymhleth, mae data sylfaenol yn gallu bod yn ddull effeithiol o ddangos newid annisgwyl sy’n dod i’r amlwg.

Data ansoddol: Mae data ansoddol yn disgrifio yn hytrach nag yn mesur. Yn nodweddiadol, mae’n disgrifio ansawdd rhywbeth, neu brofiad neu ganfyddiad unigolion a grwpiau o rywbeth. Yn nodweddiadol, caiff geiriau, delweddau, a dulliau creadigol eu defnyddio i gyfleu canfyddiadau.

Data meintiol: Data meintiol yw unrhyw ddata a all gael ei fesur yn rhifiadol. Gall fesur pobl (er enghraifft, nifer y bobl mewn un ardal), pethau, nodweddion (e.e. nifer y bobl sy’n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith, tymheredd rhywbeth), a phrofiad (nifer y bobl a raddiodd wasanaeth yn uchel). Caiff rhifau eu defnyddio i gyfleu canfyddiadau.

Lled-Arbrofion: Mae Lled-Arbrofion yn ddull procsi o bennu’r gwrth-ffeithiol, sef “beth fyddai wedi digwydd beth bynnag” heb fodolaeth y rhaglen neu’r ymyrraeth dan sylw. Yn aml, mae modd manteisio ar ddata gweinyddol a data sy’n bodoli’n barod i weld y gwahaniaeth mae rhaglen wedi’i wneud mewn poblogaeth neu grŵp lle mae rhaglen wedi’i threialu o’u cymharu â phoblogaeth neu grŵp heb yr ymyrraeth. Lle nad yw’n bosibl cynnal Hap-dreialon wedi’u Rheoli, mae Lled-Arbrofion yn cael eu defnyddio’n aml.

Hap-brofion wedi’u Rheoli: Mae Hap-dreialon wedi’u Rheoli yn ymagwedd empirig ac arbrofol at brofi effeithiolrwydd neu effaith ymyrraeth neu raglen. Mae pobl â nodweddion tebyg yn cael eu haseinio ar hap i grŵp ymyrraeth neu grŵp heb yr ymyrraeth. Mae’r ddau grŵp yn cael eu hasesu er mwyn pennu effaith rhaglen neu ymyrraeth ar y grŵp ymyrraeth o’u cymharu â’r grŵp heb yr ymyrraeth. Mae hyn yn cael ei dderbyn yn eang fel dull cwbl ddibynadwy o sefydlu’r gwrth-ffeithiol, sy’n cyfleu beth fyddai wedi digwydd heb ymyrraeth neu raglen ar waith.

Data eilaidd: Data eilaidd yw unrhyw wybodaeth a oedd yn bodoli’n barod y cewch ei defnyddio i’ch helpu i ateb cwestiynau. Mae’n gallu cynnwys: data gweinyddol, monitro rhaglenni, ffigurau a chofrestri presenoldeb, ystadegau swyddogol, adroddiadau rhaglenni ac ati. Gall y mathau hyn o ddata fod yn ddefnyddiol mewn unrhyw fath o werthusiad, ond yn arbennig gwerthusiadau economaidd, canlyniadau a phrosesau y mae angen iddynt ddefnyddio gwybodaeth sy’n bodoli’n barod yn aml i roi tystiolaeth o arian sydd wedi cael ei arbed, allbynnau gwell a chanlyniadau gwell

Astudiaethau/gwerthusiadau ar sail theori: Caiff y dyluniadau hyn eu defnyddio i asesu’n ansoddol sut mae rhaglen neu ymyriad wedi dylanwadu ar ganlyniadau ac effeithiau. Mae’n asesu i ba raddau mae rhaglen wedi dylanwadu ar ganlyniadau ac yn edrych ar y rhesymau am hyn, gan gyfeirio ato fel arfer at Theori Newid.