• This website is available in English

Nofio am Ddim yng Nghymru

Darllennwch yr adroddiad dadansoddi diweddaraf am ddata Nofio Am Ddim sy’n dangos y tueddiadau yng Nghymru

Gweithiwn ar y cyd â Chwaraeon Cymru i gasglu, dadansoddi ac adrodd am ddata Nofio am Ddim oddi wrth awdurdodau lleol yng Nghymru.

Nod y gwaith hwn yw gwerthuso effaith y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru drwy ddefnyddio’r data yn effeithiol.

Dyma rai o’r prif bwyntiau o ddata 2014-15:

  • Bu lleihad o 26% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl ifanc, o’u cymharu â 2013-14.
  • Mae’r grŵp oedran 60 ac yn hŷn wedi gweld lleihad o 9% mewn nofio cyhoeddus am ddim hefyd, o’u cymharu â 2013-14.

Dysgwch fwy a gweld sut mae cyfranogiad yn eich awdurdod chi drwy fynd i’n hoffer Nofio am Ddim.

I weld adroddiad 2014-15 cliciwch y ddelwedd isod. Sylwch fod yr adroddiad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Free Swimming Logo

Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
15/09/2015