• This website is available in English

Mesur perfformiad awdurdodau lleol 2018-19

PAMs guidanceYn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi canllawiau Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) 2018-19.

Mae’r set ddata hon wedi cael ei datblygu gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mewn ymgynghoriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae’n ceisio cynnig trosolwg eglur a syml o berfformiad llywodraeth leol.

Mae’r canllawiau yn cynnwys diffiniadau manwl ar gyfer pob mesur, gan gynnwys canllawiau cynhwysfawr am y mesurau hynny y byddwn yn casglu’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth ar sut y gall pob un o’r PAMs yn helpu awdurdodau lleol i ddangos sut maent yn cyfrannu at y saith nod llesiant.

Dylai ymholiadau am y dangosyddion PAMs neu’r canllawiau gael eu hanfon at pienquiries@data.cymru

Postio gan
Chris Beck
13/04/2018
Categorïau: Cyhoeddiad