• This website is available in English

Yfory newydd

Blog

Felly, mae f’wythnos olaf yn Data Cymru wedi cyrraedd. Wrth i’m hymddeoliad (cynnar!!) ddod yn realiti, rwy wedi bod yn myfyrio ar f’amser yn Data Cymru ac fy ngyrfa i’n fwy cyffredinol.

Beth sydd wedi fy nharo i fwyaf yw pa mor gyflym mae’r amser wedi mynd. Ydy amser yn symyd yn gyflymach wrth i chi heneiddio? Wedi graddio mewn mathemateg a gwyddoniaeth, rwy eisiau dweud bod hynny’n amhosib. Ond yn sicr mae fy 18 mlynedd yn Data Cymru wedi hedfan heibio. Fel y mae fy 40 mlynedd mewn gwasanaeth cyhoeddus. Gochelwch, gydweithwyr ifancach!

Rwy wedi bod yn myfyrio ar ba mor ffodus rwy wedi bod i fwynhau gyrfa gyda chynifer o rolau gwahanol yn yr un maes yn fras, ac rwy wedi mwynhau pob un ohonyn nhw.

Er nad ydy rolau ystadegol yn y sector cyhoeddus yn hudolus o bell ffordd, rwy wedi llwyddo i gael ambell i daith tramor. Taith fendigedig i Ottawa a Toronto (a Niagara Falls!) i edrych ar ddulliau casglu data arloesol Canada, gan gynnwys cinio gwych mewn bwyty Ffrengig yn Québec. Taith gynhadledd hyfryd i Stockholm gyda chinio cofiadwy yn amgueddfa Vasa. A heb anghofio’r antipasti ardderchog a gafodd eu darparu gan wasanaeth ystadegol yr Eidal ym Milan. Rhai atgofion gwych am fwyd! Yn llai hudolus, rwy’n dal i gofio’r arswyd a’r panig pan gyrhaeddes i fy nghyfarfod Ewropeaidd cyntaf dim ond i ddarganfod bod fy magiau heb gyrraedd. A cherdded strydoedd Lwcsembwrg wrth i’r bore dilynol wawrio gan obeithio y byddai siop ddillad ar agor.

A beth am fy nghyfnod yn Data Cymru?

Bu llawer o bigion yn ystod f’amser yma. Ond mae’r atgofion y bydda i’n mynd â nhw gyda fi yn ymwneud yn bennaf â’r bobl rwy wedi gweithio gyda nhw, o fewn Data Cymru ac ar draws cymunedau llywodraeth leol ac ystadegol. Un o’r pethau mwyaf boddhaus i mi fu gweld staff sydd wedi ymuno â Data Cymru yn ffynnu ac yn gwneud cynnydd o fewn y sefydliad, ac yn aml mynd ymlaen i gyflawni llwyddiant pellach mewn sefydliadau eraill.

Blog

Rwy wedi myfyrio hefyd ar y cyfleoedd mae fy rôl wedi’u rhoi i mi’n bersonol i ddysgu a datblygu, gan gynnwys y gwersi rwy wedi’u dysgu o’r bobl rwy wedi cwrdd â nhw a gweithio gyda nhw. Yn sicr nid ydw i nawr y gwas sifil swil a thawel a drodd i fyny yn swyddfa Caerdydd yn ôl yn 2003. Gwaetha’r modd, meddai rhai!

Rwy’n dipyn o gronnwr, ac wrth glirio fy nesg, des i ar draws adroddiad a ysgrifennes i cyn ymuno â Data Cymru. Roeddwn i’n asesu datblygiadau technolegol a chysylltiedig tebygol a allai effeithio ar gymdeithas a byd gwaith yn 2025. Er nad ydyn ni yno eto, mae sawl elfen wedi dod yn realiti. Mae eraill yn dal yn ffansïol. Roedd ei ddarllen yn f’atgoffa faint mae technoleg wedi dylanwadu a newid ein gwaith gyda data a lledaenu. Sut rydyn ni wedi symud ymlaen o fy nyddiau cynnar yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, pan dreuliodd fy nhîm i wythnosau yn gweithio ar y monitor busnes blynyddol ar fasnach moduron y DU. Dim ond y sawl a oedd yn fodlon talu am y monitor copi caled a gafodd y data. Mae mynediad i ddata a sut rydyn ni’n ei ddefnyddio wedi newid yn aruthrol.

Felly, beth am ddata a’i rôl?

Am amser ofnadwy i fod yn gadael maes data a dealltwriaeth. Mae’r pandemig wedi bwrw goleuni ar ddata fel dim byd rwy wedi’i brofi yn fy negawdau o weithio yn y maes hwn. Bron dros nos, gwelson ni genedl o ddarllenwyr data COVID-19 yn dod i’r amlwg, y daeth llawer ohonyn nhw’n ddadansoddwyr ‘arbenigol’ hunan-benodedig. Ar yr un pryd, roedd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a darparwyr gwasanaethau eisiau data newydd a mwy cyfredol i’w cefnogi. Mae darparwyr data wedi codi i’r her, ond nawr mae angen adeiladu ar y momentwm yma. Ni fu erioed amser gwell i atgyfnerthu’r angen am ddefnyddio data, nac i wneud yr achos dros yr adnoddau angenrheidiol i gynhyrchu data a dealltwriaeth gysylltiedig. Cyfnod cyffrous iawn. Bydda i’n difaru peidio â bod yn rhan ohono.

Wrth i mi ffarwelio, bydda i’n gorffen drwy ailadrodd fy mod i’n teimlo’n ffodus iawn y bu gen i’r cyfle i arwain Data Cymru am gyfnod estynedig, a gweithio gyda thîm mor fendigedig o bobl. Rwy wedi cael amser wrth fy modd. Rwy’n gwybod fy mod i’n gadael y sefydliad mewn dwylo da a bod y dyfodol yn ddisglair ac yn gyffrous. Dymunaf bob llwyddiant iddo ac i deulu ehangach llywodraeth leol.

Ynglŷn â’r awdur

Andrew Stephens

Cafodd Andrew ein Cyfarwyddwr Gweithredol ers 18 mlynedd cyfrifoldeb am reolaeth y sefydliad o ddydd i ddydd. 

Postio gan
y Golygydd / the Editor
25/05/2021