Rhif
|
Teitl; y sesiwn
|
Crynodebau
|
1
|
Gwella cysylltiadau ag Academia
|
Sut allwn ni wella cysylltiadau ag Academia? Pa fanteision allai hyn eu cynnig i bartneriaethau?
|
2
|
Arfer ar sail tystiolaeth
|
Pa adnoddau neu gefnogaeth ychwanegol fydd eu hangen arnoch i sefydlu a chynnal eich arfer ar sail tystiolaeth
|
3
|
Profiadau Negyddol yn ystod Plentyndod
|
Sut mae profiadau o’r fath yn effeithio ar ymddygiad troseddol? Sut ydych chi’n defnyddio’r profiadau hyn o fewn Cynlluniau Llesiant?
|
4
|
Unigrwydd ac arwahanrwydd
|
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi mesurau am unigrwydd yn Lloegr ym mis Rhagfyr 2018. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori at lunio strategaaeth yn y maes hwn. Ydy ymdrin ag unigrwydd yn flaenoriaeth yn eich ardal chi?
|
5
|
Mesur effaith
|
Sut ydych chi’n dangos bod eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth? Beth ydych chi’n ei wneud sy’n newydd ac yn wahanol?
|
6
|
Materion partneriaeth (PSBs ac RPBs)
|
Beth ydy’ch Partneriaeth yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd? Beth ydy’r ystyriaethau mawr ar eich agenda?
|
7
|
Gallu o ran ymchwil
|
Oes gan eich Partneriaeth neu sefydliad unrhyw allu o ran ymchwil? Sut ydych chi’n ei ddefnyddio? Oes gennych chi syniadau am waith ymchwil na allwch chi ei gychwyn?
|
8
|
Llesiant a data llesiant
|
Oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio data llesiant yn eich ardal chi? Ydych chi’n ceisio datblygu data llesiant lleol i gefnogi gwaith monitro?
|
9
|
Materion data cyffredinol
|
Unrhyw faterion data eraill hoffech chi eu rhannu, efallai mewn perthynas â bylchau mewn data neu broblemau datblygu data?
|
10
|
Adroddiadau blynyddol
|
Sut brofiad oedd cynhyrchu’ch Adroddiad Blynyddol cyntaf? Oes gennych chi unrhyw wersi neu arfer da i’w rhannu?
|
11
|
Ymgysylltu â’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth
|
Pa waith ymgysylltu ydych chi wedi’i wneud gyda’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth? Ydych chi’n ei chael yn anodd cychwyn y gwaith hwn neu ei wneud yn gywir?
|
12
|
Iechyd ymhlith pobl ifanc
|
Mae gennym ni weithdy sy’n edrych ar lesiant ymhlith plant oedran ysgol uwchradd. Ydych chi’n datblygu’ch data iechyd eich hun am bobl ifanc? A fyddai diddordeb gennych mewn clywed oddi wrth eraill sy’n gwneud gwaith tebyg yn barod?
|
13
|
Data gweithgarwch corfforol
|
Mae iechyd a llesiant corfforol, a chyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol, yn flaenoriaethau mewn llawer o ardaloedd. Pa ddata ydych chi’n ei ddefnyddio i fesur hyn? Ydych chi’n datblygu data neu wybodaeth yn lleol?
|
14
|
Presgripsiynu cymdeithasol
|
Ydych chi’n gwneud unrhyw waith ar bresgripsiynu cymdeithasol? Hoffech chi rannu syniadau a gwybod mwy am yr hyn mae pobl eraill yn ei wneud?
|
15
|
Defnyddio data gweinyddol a masnachol
|
Mae ystod o ddata yn bodoli tu hwnt i’r ffynonellau ‘normal’ (Swyddfa Ystadegau Gwladol, StatsWales, ac ati) a allai gefnogi’ch gwaith chi. Pa ddata gweinyddol neu fasnachol ydych chi’n eu defnyddio? Oes ffynonellau data eraill hoffech chi eu datblygu?
|
16
|
Data agored
|
Mae gan ddata agored y potensial i alluogi mynediad i ystod o ddata, ond mae’n gallu bod yn gymhleth ac yn anodd ei ddefnyddio. Beth yw’ch profiadau chi o ddefnyddio data agored? Oes diddordeb gennych mewn defnyddio data agored ond ddim yn gwybod ble i ddechrau?
|