• This website is available in English

COFRESTRU WEDI CAU - Ydym ni’n gwneud gwahaniaeth? Deall ein heffaith ar lesiant

#

O ganlyniad i’r galw llethol, mae cofrestru wedi CAU. Wrth i fwy na 150 o gynadleddwyr gofrestru, mae’r tîm yma wrthi’n cwblhau’r trefniadau terfynol ac yn paratoi deunyddiau ar gyfer y digwyddiad.

Os oes gennych ddiddordeb o hyd mewn bod yn bresennol, anfonwch e-bost at Jodie Phillips ac ychwanegwn eich manylion at restr wrth gefn.

 

Byddwn yn cynnal ein chweched Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol ddydd Iau 22 Tachwedd 2018 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Rydym ni wedi llunio rhaglen gyffrous gydag amrediad o bartneriaid cenedlaethol
 

Beth yw’r pwnc?

Mae deddfwriaeth newydd, disgwyliadau newydd a dulliau gwahanol o weithio yn golygu bod angen i’r sawl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru feddwl yn wahanol am sut maent yn gwerthuso ac yn mesur effeithiolrwydd ac effaith polisïau, gweithredoedd ac ymyriadau. Bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar beth mae hyn yn ei olygu, yn cynnig syniadau ac atebion ymarferol ac yn dangos sut allai’r rhain gael eu cymhwyso. Hefyd bydd cyfle i gwestiynau ac ystyriaethau’r cynadleddwyr ar y pwnc hwn gael eu codi a’u trafod.

Pwy ddylai fynychu?

Dylech chi fynychu os ydych:

  • Yn chwarae rôl arweiniol mewn corff cyhoeddus, bwrdd gwasanaethau cyhoeddus neu gorff arall sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus.
  • Yn gyfrifol am gyflwyno, neu gefnogi, cynlluniau llesiant - gan gynnwys y cynlluniau ardal a chynlluniau llesiant lleol.
  • Eisiau gwybod mwy am fesur a gwerthuso effaith polisïau ac ymyriadau.
Postio gan
y Golygydd / the Editor
11/10/2018