• This website is available in English

Posts From Ionawr, 2025

  • DataCymru

    Yn barod i hybu’ch sgiliau? Dyma’r amser perffaith! Tan 31 Mawrth 2025, prynwch unrhyw un o’n cyrsiau hyfforddiant ar-lein a chael ail gwrs AM DDIM* (*y cwrs rhatach sydd am ddim).

    Rhaid prynu a thalu am bob cwrs erbyn 31 Mawrth 2025, ac mae cyflenwi ar gael hyd 31 Gorffennaf 2025, fel y gallwch amserlennu’ch dysgu am adeg sy’n gyfleus i chi.

    Cymerwch yr un cwrs dwywaith gyda charfannau gwahanol (20 cynrychiolydd y garfan) neu dewiswch ddau gwrs gwahanol—chi biau’r dewis! Mae pob cwrs yn para am ddwy awr yn fras.

    Dewiswch o gyrsiau fel:

    Cyflwyno Data

    Ystadegau Cryno

    Dylunio Arolygon

    Grwpiau Ffocws

    Data 101

    Deall Data Perfformiad

    Peidiwch â cholli’r cyfle anhygoel hwn i ehangu’ch sgiliau a dyblu’ch effaith.

    Diddordeb? Cysylltwch â Róisín Roberts ar 029 2090 9599 neu e-bostiwch roisin.roberts@data.cymru i drafod eich gofynion.

     

    Telerau ac amodau

    • Ar gyfer awdurdodau lleol mae cyrsiau’n dechrau am £480 +TAW ac ar gyfer rhai nad ydynt yn awdurdodau lleol, mae cyrsiau'n dechrau am £600 + TAW.
    • Nid yw’r cynnig hwn yn ddilys gydag unrhyw gynnig neu ddisgownt arall, oni nodir fel arall.
    • Nid yw DataBasicCymru na DataBasicCymru+ yn gymwys am y cynnig hwn.
    • Mae Data Cymru yn cadw’r hawl i ganslo neu addasu’r cynnig hwn ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw.
    • Rhaid prynu a thalu erbyn 31 Mawrth 2025. Mae cyflenwi ar gael hyd at a chan gynnwys 31 Gorffennaf 2025.
    • Cyflenwir cyrsiau hyfforddiant ar-lein yn unig.
    • Caiff cyrsiau hyfforddiant eu cyflenwi trwy gyfrwng Saesneg. Darperir yr holl ddeunyddiau yn y Gymraeg a Saesneg.

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor