• This website is available in English

Data Cymru Blog

  • Blog

    Ers 2017, mae Data Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, fel a bennir gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r safonau hyn yn gosod disgwyliadau clir i ni ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg i’n cwsmeriaid, a hyrwyddo defnydd y Gymraeg am ein holl wasanaethau. Mae’n cynnwys safonau y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw wrth gyflenwi gwasanaethau, llunio polisi, gweithrediadau a chadw cofnodion.

    ... darllenwch mwy
     

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Blog

    Gwnaethom ni, ynghyd â'n cydweithwyr yn nhîm Data a Digidol Llywodraeth Cymru, ddrafftio blog yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer dod â phobl at ei gilydd o bob rhan o'r sector cyhoeddus i drafod y materion data yr ydym i gyd yn eu hwynebulog.

    *************************************

    Os yw’r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf wedi dysgu unrhyw beth inni, pwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd yw hynny. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut y gall rhannu gwybodaeth ac arbenigedd helpu i ddelio â’r heriau anoddaf. Fodd bynnag, os ydych chi’n gweithio gyda data, p’un a ydych chi’n wyddonydd data, yn arbenigo mewn rheoli data, yn ymwneud â rhannu data neu’n syml yn defnyddio data fel rhan o’ch gwaith bob dydd, mae’n haws dweud na gwneud hyn weithiau. 

    ... darllenwch mwy
     

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Blog

    Wrth i ni lansio ein rhaglen hyfforddiant DataBasicCymru a’n pecyn hyfforddiant DataBasicCymru+, a gafodd eu datblygu mewn partneriaeth â Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) a Data Orchard, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n rhannu â chi’r dair prif wers rwyf i wedi’u dysgu o gael fy nhrochi yn natblygiad DataBasicCymru dros y 18 mis diwethaf.

    ... darllenwch mwy
     

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Blog

    Felly, mae f’wythnos olaf yn Data Cymru wedi cyrraedd. Wrth i’m hymddeoliad (cynnar!!) ddod yn realiti, rwy wedi bod yn myfyrio ar f’amser yn Data Cymru ac fy ngyrfa i’n fwy cyffredinol.

    ... darllenwch mwy
     

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Blog

    Mae’r crynodeb blynyddol hwn yn wahanol i bob un arall. Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn hynod o heriol i gymunedau ar hyd a lled Cymru ac i’r sefydliadau (cyhoeddus a phreifat) sy’n eu gwasanaethu. Mae teuluoedd wedi colli anwyliaid, roedd pwysau mawr ar wasanaethau, ac mae’r economi wedi dod dan straen. Fodd bynnag, ymhlith yr anawsterau hyn mae yna resymau am optimistiaeth. Parhaodd gwasanaethau i gael eu cyflenwi, mae cyflwyniad y rhaglen frechu yn symud ar garlam, mae’r mwyafrif o blant yn dychwelyd i’r ysgol, ac mae marwolaethau a niferoedd achosion yn lleihau. Ni fyddai’r un o’r pethau hyn wedi bod yn bosib heb ymroddiad a phroffesiynoliaeth ein cydweithwyr sector cyhoeddus, preifat, a thrydydd sector.

    ... darllenwch mwy
     

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Blog

    Mae’r wythnos hon yn gweld cyhoeddi tair tudalen we newydd, sy’n canolbwyntio ar data agored, ymchwil gymdeithasol a gwyddor data. Nod y tudalennau gwe hyn yw eich cyflwyno i’r pwnc, esbonio ein gweledigaeth am weithredu ledled sector cyhoeddus Cymru, a disgrifio’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud i helpu i wireddu’r weledigaeth honno. Hefyd cynhwyswn rai adnoddau defnyddiol am ddarllen pellach, fel dolenni â blogiau, astudiaethau achos, a chanllawiau defnyddwyr perthnasol ochr yn ochr â gwybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol ac unrhyw newyddion eraill a allai fod o ddiddordeb. Felly, cadwch lygad allan amdanyn nhw!

    ... darllenwch mwy
     

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Blog

    Yn ôl yn 2016, awgrymodd astudiaeth a gyhoeddwyd gan IBM ("10 key marketing trends for 2017" Saesneg yn unig) fod 90% o ddata’r byd wedi cael ei greu yn y deuddeg mis blaenorol, gyda llawer o ddadansoddwyr data yn rhagweld y byddai’r bydysawd digidol 40 gwaith yn fwy erbyn 2020. Er bod y ffigur yma, ar yr wyneb, yn edrych yn syfrdanol, efallai nad yw’n gymaint o syndod pan ystyriwn ni faint o ddata rydym ni’n ei gasglu bob dydd, yn arbennig mewn cyd-destun proffesiynol. Mae’r cyfleoedd mae hyn yn eu cyflwyno i ddysgu mwy am ein cymunedau, eu hanghenion a’u profiadau yn ysbrydoliaeth. Ac eto, mae’n gallu bod yn llethol hefyd – sut mae datgloi’r ddirnadaeth? Ble ydw i’n dechrau?

    ... darllenwch mwy
     

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Blog

    Yn ein blog blaenorol, esboniom ni sut roedd eich ymgysylltiad yn ein digwyddiadau data agored cychwynnol wedi amlygu’r angen i ni greu ‘porth’ ar-lein i’ch cefnogi wrth gyhoeddi eich data agored. Roeddem yn cydnabod yr angen i hyn fod yn ymdrech gydweithredol. Wedi’r cyfan, rydym am wneud yn siŵr bod y porth yn hawdd i bawb ei ddefnyddio.

    Felly, beth ydym ni wedi ei wneud hyd yma?...

    ... darllenwch mwy
     

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Blog

    Cynhaliom ni’n digwyddiad data agored cyntaf ym Mae Colwyn yng Ngorffennaf a’r ail un yng Nglynebwy ym Medi. Diolch o galon i bawb a fynychodd. Cawsom gipolwg da ac adborth cadarnhaol. At ei gilydd, roedd yn dda iawn gen i weld cymaint o waith a oedd eisoes yn mynd yn ei flaen yng Nghymru a’r archwaeth i fwrw ymlaen a gwneud rhagor. Mae yna ymdeimlad gwirioneddol o fomentwm yn tyfu.

    Dwedais i hyn yn ein digwyddiadau, ond ers ysgwyddo mantell data agored yn Data Cymru, mae un o’r heriau mwyaf dyrys wedi dod o ganlyniad i’n sefyllfa eithaf unigryw o fewn Cymru. Rydym ni’n sefydliad sy’n ymwneud â bron pob agwedd ar ddata – rydym ni’n ei gasglu gan awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, rydym yn ei gyrchu gan ddarparwyr data, rydym ni’n ei reoli yn ein systemau mewnol, ac yn ei ledaenu/rannu drwy lu o offer. Yn syml, rydym ni’n trafod bron popeth mewn perthynas â data!

    Felly, rydym ni mewn sefyllfa ardderchog i hyrwyddo a gwneud Cymru yn wlad arloesol o ran defnydd data agored. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein pecyn cymorth yn briodol ac yn cael ei dargedu’n dda.

    Mae’r digwyddiadau wedi helpu’n fawr iawn i egluro’r heriau rydych chi’n eu hwynebu a’r atebion y cawn ni eu cynnig.

    ... darllenwch mwy
     

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Mae data agored, mae’n siŵr gen i, yn ymadrodd y bydd y mwyafrif ohonoch chi wedi dod ar ei draws yn ystod yr ychydig fisoedd/blynyddoedd diwethaf. Mae rhai ohonoch chi eisoes wedi dechrau croesawu’r cysyniad ac wedi dechrau trefnu bod peth o’ch data ar gael yn agored. Mae eraill ar fin cychwyn y daith a bydd eraill efallai’n dal i ymgynghori â’r map i benderfynu ar y llwybr gorau. Ni waeth ble ydych chi ar eich taith data agored, rydyn ni yma i helpu!

    ... darllenwch mwy