• This website is available in English

Newyddion

  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 12% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar am ddata Cynllunio’r Gweithlu Gweithwyr Cymdeithasol 2016-17. Nod yr adroddiad yw cefnogi awdurdodau lleol a Gofal Cymdeithasol Cymru wrth gynllunio am anghenion y gweithlu yn y dyfodol a llywio comisiynu hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.

    Dengys yr adroddiad nifer y gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a hynny mewn Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a meysydd eraill. Mae’n edrych hefyd ar dueddiadau’r gweithlu dros amser a throsiant staff a’r gweithlu rhagamcanol dros y tair blynedd nesaf.

    I weld adroddiad 2016-17 cliciwch y ddelwedd isod.

    SWWP image


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Thriving Places Wales logo

    Mae ‘Llefydd Llewyrchus Cymru’ â lansiwyd ar Ebrill 24  yn cyflwyno ffordd newydd ac arloesol o fesur llesiant a’r amodau sy’n caniatáu i bobl a llefydd ffynnu yng Nghymru.

    Llefydd Llewyrchus Cymru’ yw’r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o’r ffordd mae amodau lleol ar gyfer llesiant yn amrywio ar draws Cymru. Caiff data ei ddangos ar lefel awdurdod lleol a’i asesu yn erbyn tri phrif ddimensiwn – amodau lleol, cynaliadwyedd a chydraddoldeb. Caiff y data ei ategu gan fwy na 50 mesur ar wahân sy’n trafod meysydd fel iechyd, addysg a gwaith.

    Am fwy o wybodaeth am y teclyn, cysylltwch â Duncan Mackenzie.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • PAMs guidanceYn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi canllawiau Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) 2018-19.

    Mae’r set ddata hon wedi cael ei datblygu gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mewn ymgynghoriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae’n ceisio cynnig trosolwg eglur a syml o berfformiad llywodraeth leol.

    Mae’r canllawiau yn cynnwys diffiniadau manwl ar gyfer pob mesur, gan gynnwys canllawiau cynhwysfawr am y mesurau hynny y byddwn yn casglu’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth ar sut y gall pob un o’r PAMs yn helpu awdurdodau lleol i ddangos sut maent yn cyfrannu at y saith nod llesiant.

    Dylai ymholiadau am y dangosyddion PAMs neu’r canllawiau gael eu hanfon at pienquiries@data.cymru


    Postio gan
    Chris Beck

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 15% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Strategy image

    Gyda brand newydd dynamig mae ein cynllun strategol yn disgrifio dyfodol newydd cyffrous a fydd yn gweld Data Cymru ar flaen y gad mewn perthynas â data yng Nghymru!

    Gallwch chi ddarllen ein cynllun yma.

    Os hoffech chi siarad â ni am gyfleoedd i gydweithredu yn y daith gyffrous hon, mae pob croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio ymholiadau@data.cymru neu ffonio 029 2090 9500.

     


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Vacancy image

    Rydym yn falch o fod wedi cefnogi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn datblygu eu Porth ar-lein newydd. Mae’r lansiad yn nodi cam cyntaf pwysig yn dwyn tystiolaeth ynghyd am y trydydd sector yng Nghymru mewn un adnodd deinamig sengl. Lansiwyd y Porth yn nigwyddiad gofod3 y WCVA ar 8 Mawrth. Mae’r Porth Data, sy’n unigryw i Gymru, yn rhoi’r trydydd sector o dan chwyddwydr, gan ddatgelu ymdrechion arwrol elusennau, mentrau cymdeithasol a chyrff eraill sy’n darparu manteision sylweddol, yn aml i’r rhai mwyaf bregus. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r WCVA i ddatblygu’r Porth ymhellach.

    Er mwyn cael mynediad i’r Porth ymwelwch â gwefan y WCVA os gwelwch yn dda.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 8%* yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    *Yn eithrio data ar gyfer un awdurdod lleol.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Save the children report

    Rydym wedi bod yn gweithio gydag Achub y Plant ar ymchwil i ddeall faint o blant yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi ac sydd heb fynediad i Ddechrau’n Deg.

    Mae eu hadroddiad “Darnaru Bach. Darlun Mawr”, yn cyflwyno ffigyrau o’n dadansoddiad o ddata incwm isel MALlC i amlygu lle efallai bydd plant yn cael mantais o allu hygyrchu darpariaeth Dechrau’n Deg.

    Roedd ein gwaith yn cynnwys dwyn ynghyd ddata perthnasol a'i chyflwyno drwy ddadansoddi, mapio rhyngweithiol ac adrodd. Rydym yn cynnig amrediad o wasanaethau i’n cwsmeriaid, os credwch y gallem ni eich cefnogi, neu os ydych ond am drafod sut y gallwn eich helpu chi â’ch gwaith, cysylltwch â ni.

    Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Jenny Murphy.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 1%* yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    *Yn eithrio data ar gyfer un awdurdod lleol.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor