Mae ‘Llefydd Llewyrchus Cymru’ â lansiwyd ar Ebrill 24 yn cyflwyno ffordd newydd ac arloesol o fesur llesiant a’r amodau sy’n caniatáu i bobl a llefydd ffynnu yng Nghymru.
‘Llefydd Llewyrchus Cymru’ yw’r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o’r ffordd mae amodau lleol ar gyfer llesiant yn amrywio ar draws Cymru. Caiff data ei ddangos ar lefel awdurdod lleol a’i asesu yn erbyn tri phrif ddimensiwn – amodau lleol, cynaliadwyedd a chydraddoldeb. Caiff y data ei ategu gan fwy na 50 mesur ar wahân sy’n trafod meysydd fel iechyd, addysg a gwaith.
Am fwy o wybodaeth am y teclyn, cysylltwch â Duncan Mackenzie.
Postio gan
y Golygydd / the Editor
24/04/2018