Mae data agored, mae’n siŵr gen i, yn ymadrodd y bydd y mwyafrif ohonoch chi wedi dod ar ei draws yn ystod yr ychydig fisoedd/blynyddoedd diwethaf. Mae rhai ohonoch chi eisoes wedi dechrau croesawu’r cysyniad ac wedi dechrau trefnu bod peth o’ch data ar gael yn agored. Mae eraill ar fin cychwyn y daith a bydd eraill efallai’n dal i ymgynghori â’r map i benderfynu ar y llwybr gorau. Ni waeth ble ydych chi ar eich taith data agored, rydyn ni yma i helpu!
Beth yw data agored?
Yn syml, mae data agored yn ddata sy’n cael ei gyhoeddi mewn ffordd sy’n gadael i unrhyw un ei gyrchu a’i ddefnyddio’n rhwydd ac am ddim. Gallai hyn fod ar ffurf taenlen (.csv) agored, y gall peiriant ei darllen, a gyhoeddir ar wefan neu ar borthiant data agored sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu’n uniongyrchol â’ch data. Pa fformat bynnag a ddewiswch, mae’n rhaid i’r data gael ei labelu’n glir fel data agored.
Mae’n swnio’n syml, on’d ydy? Wel, felly y mae, yn arbennig pa fydd gennych chi gyrff fel ein corff ni sy’n gallu helpu!
Dechrau taith ‘data agored’…
Un o’n nodau pennaf dros y 5 mlynedd nesaf yw gweld codiadau sylweddol yn argaeledd a defnydd data agored yng Nghymru. Bwriadwn weithio gydag awdurdodau lleol, a chyrff eraill y sector cyhoeddus, i ddatblygu ecosystem data agored sector cyhoeddus. I wneud hyn, mae arnon ni angen eich help chi! Dymunwn ddeall ble ydych chi ar eich taith, pa rwystrau/heriau rydych chi’n eu hwynebu ac, yn hollbwysig, sut allwn ni eich helpu.
Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau, yr un cyntaf wedi’i drefnu ar gyfer yr haf, lle hoffem ddechrau edrych ar y cwestiynau hyn gyda chi. Bydd y digwyddiadau ar ffurf gweithdai yn caniatáu i chi ddysgu oddi wrth ei gilydd a, gobeithio, dod oddi yno gyda’r cymhelliant a’r wybodaeth i gymryd y camau nesaf.
Rydym yn awyddus i archwilio datblygu porth data agored cenedlaethol - gan adeiladu ar y gwaith rydym ni eisoes yn ei wneud drwy InfoBaseCymru a’n platfformau lledaenu data eraill. Gallai hyn fod yn adnodd ‘siop un-stop’ am ddata agored y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan weithredu’n blatfform cyhoeddi i gyrff sector cyhoeddus gyhoeddi eu data agored ohono. Byddai hefyd yn dod â data ynghyd sy’n cael ei gyhoeddi mewn mannau eraill yn barod mewn fformat agored mewn un lle. Rydym ni’n awyddus i glywed eich barn chi ar hyn.
Cyflawni’n ymarferol…
Yn ogystal â gweithio gyda chi i gefnogi mwy o argaeledd a defnydd gwell data agored ar draws y sector cyhoeddus, rydym yn edrych ar ein data agored ein hunain hefyd - rydym ni eisiau gwella ansawdd a swm y data agored rydym ni’n ei gyhoeddi ac yn ei ddefnyddio.
Rydym hefyd yn datblygu maes data agored ein gwefan. Yn ogystal â chynnig cysylltiadau ag adnoddau defnyddiol, bydd yn cynnwys gwybodaeth bellach am ein strategaeth agored, ein cynlluniau am gyflawni’r strategaeth a’n data agored.
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw awgrymiadau, os hoffech drafod ein cynlluniau ymhellach neu os hoffech gymryd rhan yn ein gweithdai data agored, cysylltwch â ni.
Ynglŷn â’r awduron