• This website is available in English

Ymgysylltu â dinasyddion: Cyflwyniad i ddylunio a rhedeg grwpiau ffocws

Nod

I'ch cyflwyno i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i'ch helpu i ddylunio a rhedeg grŵp ffocws.

Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac wedi’i anelu at ddechreuwyr. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddylunio a rhedeg grŵp ffocws.

Cynnwys

Yn aml defnyddir grwpiau ffocws i ymgysylltu â grŵp bach o ddinasyddion i ddeall sut maen nhw'n teimlo am fater, polisi, cynnyrch, neu berson. Fel arfer maen nhw'n cynnwys chwech i wyth o gyfranogwyr yn cael eu harwain drwy drafodaeth gan un neu ddau o hwyluswyr.

Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i ddeall pam, sut a phryd byddech chi’n trefnu ac yn cynnal grŵp ffocws i gefnogi’ch gwaith chi.

Canlyniadau

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn deall:

  • beth yw grwpiau ffocws, eu pwrpas, a phryd i’w defnyddio
  • yr elfennau allweddol mae eu hangen i ddylunio grwpiau ffocws
  • sut i ddewis cyfranogwyr a sicrhau cyfranogiad, gan gynnwys dulliau i ennyn diddordeb - cyfranogwyr anodd-eu-cyrraedd
  • sut i redeg grŵp ffocws.
Image Lawrlwythwch ein canllaw rhad ac am ddim i gynllunio a chyflwyno grwpiau ffocws
A byddai 100% o fynychwyr yn argymell yr hyfforddiant hwn i gydweithiwr

“…bydd yr hyn a ddysgom yn llywio’r gwaith o gynllunio a chyflwyno sesiwn grŵp ffocws…”
Mynychwyr y cwrs

Diddordeb gennych?

I gadw lle ar y cwrs hwn ewch i TicketSoure i weld y dyddiadau a’r amserau sydd ar gael.

Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 o gynrychiolwyr. Y gost yw:

  • Tu allan i lywodraeth leol - £750 a TAW
  • Awdurdodau lleol Cymru - £600 a TAW

Angen mwy o wybodaeth?

Image

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Róisín Roberts. Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad ac Ymgysylltu Data. Mae hi'n cefnogi ein gwaith ymgysylltu a gwella. Mae hi hefyd yn arwain ein rhaglen waith meithrin gallu.

029 2090 9599

Roisin.Roberts@data.cymru