• This website is available in English

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg

O’r 25 Ionawr 2017, mae Data Cymru wedi ymrwymo i Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Safonau yma yn gosod disgwyliadau pendant arnom ni i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’n cwsmeriaid ac i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau.

Mae’r safonau iaith mae rhaid i ni gydymffurfio â wedi eu rhannu yn y pedwar dosbarth canlynol:

  • Cyflenwi Gwasanaethau
  • Llunio Polisi
  • Gweithredu
  • Cadw Cofnodion

Ceir manylion y safonau, sut rydym yn cydymffurfio â hwy a sut rydym yn bwriadu monitro ein cydymffurfiaeth yn y ddogfen Ein Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a sut rydym yn cydymffurfio, isod.

Os hoffech wneud cwyn, gweler ein polisi cwynion am fanylion ar sut i wneud hynny.

Mae gennych hefyd hawl i gyfarwyddo unrhyw gwynion sy'n ymwneud ag iaith Gymraeg i'r Comisiynydd y Gymraeg.

 

...

Adroddiad monitro

Mae ein hadroddiad monitro yn darparu gwybodaeth ar ein cydymffurfiaeth, unrhyw gamau gweithredu rydym wedi cynnal, yn ogystal â darparu gwybodaeth ar unrhyw gwynion yn ymwneud â’n gydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a dderbyniwyd.

...

Ein Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a sut rydym yn cydymffurfio

Gallwch weld pa safonau y dylai Uned Data gydymffurfio â hwy, yn ogystal â gwybodaeth ar sut rydym yn cydymffurfio a hefyd yn monitro ein cydymffurfiaeth.

...

Polisi cwynion

Mae ein polisi cwynion yn amlinellu'r weithdrefn ar gyfer gwneud cwyn am unrhyw un o'n gwasanaethau, gan gynnwys ein cydymffurfiaeth â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg. Mae'n diffinio beth yw cwyn, ac mae'n rhoi manylion ar sut i wneud cwyn.