• This website is available in English

2020/21: Adolygiad o’r flwyddyn

Blog

Mae’r crynodeb blynyddol hwn yn wahanol i bob un arall. Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn hynod o heriol i gymunedau ar hyd a lled Cymru ac i’r sefydliadau (cyhoeddus a phreifat) sy’n eu gwasanaethu. Mae teuluoedd wedi colli anwyliaid, roedd pwysau mawr ar wasanaethau, ac mae’r economi wedi dod dan straen. Fodd bynnag, ymhlith yr anawsterau hyn mae yna resymau am optimistiaeth. Parhaodd gwasanaethau i gael eu cyflenwi, mae cyflwyniad y rhaglen frechu yn symud ar garlam, mae’r mwyafrif o blant yn dychwelyd i’r ysgol, ac mae marwolaethau a niferoedd achosion yn lleihau. Ni fyddai’r un o’r pethau hyn wedi bod yn bosib heb ymroddiad a phroffesiynoliaeth ein cydweithwyr sector cyhoeddus, preifat, a thrydydd sector.

Gweithio o gartref

Ar 16 Mawrth 2020 gwnaethon ni’r penderfyniad i weithio o gartref. Yn debyg i’r mwyafrif o sefydliadau, roedden ni’n meddwl y byddai’r trefniant hwn efallai’n para am ychydig o fisoedd. Yn amlwg, ni felly y bu hi.

Blog

Roedden ni’n gallu addasu i’r trefniant hwn yn gyflym iawn o ganlyniad i’n strwythur TG hyblyg; mae gliniadur gan bob aelod staff, defnyddiwn storio yn y cwmwl, a symudon ni i Microsoft Teams yn ystod gaeaf 2019/20.

Serch hynny, nid yw hynny’n golygu y bu gweithio o gartref yn gwbl rydd rhag heriau. Wrth reswm, roedd diffyg rhyngweithio cymdeithasol yn bryder i lesiant staff a rhediad y sefydliad. I liniaru hyn, gofynnon ni i reolwyr llinell gysylltu â staff yn rheolaidd drwy sgwrsio fideo, cynhaliwn ni gyfarfodydd rheolwyr amlach, ac anogwn ddefnydd rheolaidd a hyblyg ar wyliau blynyddol.

Un her benodol a gafodd ei hwynebu oedd recriwtio Ystadegydd ac Uwch Ystadegydd ym Medi. Cynhalion ni’r ymarfer reciwtio hywnnw a chymryd yr ymgeiswyr llwyddiannus (Hayley Randall a Jonathan Owens) ymlaen yn gwbl rithwir.

O ganlyniad i’r profiad hwn rydyn ni’n ymrwymo i weithio’n fwy hyblyg. Yn y dyfodol, bydd hyn yn agor cyfleoedd cyffrous o ran sut rydyn ni’n gweithio, ble rydyn ni’n gweithio, a’r hyn gallwn ni ei gyflenwi.

Ymateb i COVID-19 – data a oedd yn bodoli’n barod

Mae’r pandemig wedi gwneud ystadegau’n brif-ffrwd; bob dydd rydyn ni’n darllen am niferoedd achosion, cyfraddau trosglwyddo, cyfraddau marwolaeth, y rhif R ac yn y blaen. Mae’n debyg bod gwneuthurwyr polisi, newyddiadurwyr a’r cyhoedd wedi manteisio ar fwy o ystadegau yn y flwyddyn ddiwethaf nag ar unrhyw adeg arall mewn hanes diweddar. Yn benodol, sylwon ni ar gynnydd sylweddol yn y galw am ddata amser real sy’n gadael i ddefnyddwyr ddeall y sefyllfa sydd ohoni, a gweithredu arni.

Er mwyn bodloni’r galw hwn a sicrhau bod yr allbynnau COVID-19 rydyn ni’n eu cynhyrchu mor ddefnyddiol â phosib, treulion ni gryn dipyn o amser yn dod i ddeall pa ddata sydd ar gael, eu cryfderau a’u cyfyngiadau, a pha mor amserol maen nhw.

O ganlyniad i’r gwaith hwn, cynhyrchon ni gyfres o ddangosfyrddau sy’n cofnodi nifer yr achosion coronafeirws, profion amdano, a brechiadau yn ei erbyn, nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r pandemig, a’r effaith mae’r pandemig wedi’i chael ar yr economi.

Blog

Yn ogystal, cynhyrchon ni adroddiadau a nodiadau briffio ad-hoc i bartneriaid a fanteisiodd ar ffynonellau data llai adnabyddus. Er enghraifft, defnyddion ni Adroddiadau Symudedd Cymunedol COVID-19 Google (Saesneg yn unig) i ddeall sut roedd gwahanol ofodau’n cael eu defnyddio yn ystod y cyfnodau cyfyngiadau symud yng Nghymru.

Rydyn ni’n dal i weithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru i sicrhau bod y data cywir ar gael i’r sefydliadau cywir ar yr adeg gywir. Roedd, ac mae, rhannu data yn hanfodol i gysylltu’r ddealltwriaeth o’r pandemig a’r ymateb iddo. Mae’r cydweithredu cynyddol sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn gadarnhaol iawn ac wedi bod yn holl-bwysig i gyflenwi gwasanaethau ledled Cymru.

Yng ngoleuni’r sylw presennol ar ddata ac ystadegau, mae gennyn ni gyfle i gadarnhau’r llwyddiannau hyn wrth rannu data a chario arfer da yn ei flaen. Gweithiwn ni gyda llywodraeth leol a’r sector cyhoeddus a thrydydd sector ehangach i gefnogi’r gwaith hwn i mewn i 2021/22.

Ymateb i COVID-19 - casglu data

Gan fod rhai o’r ymatebion polisi i’r pandemig yn gwbl newydd, yn aml nid oedd unrhyw ddata’n bodoli’n barod i elwa arnyn nhw. Fel y cyfryw, gwnaethon ni ddylunio a chynnal cyfres o gasgliadau data yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r rhain yn ymrannu’n gasgliadau addysg, economaidd, a gorfodi.

Roedd ein casgliadau mewn perthynas ag addysg yn cynnwys casglu data am nifer y plant a oedd yn defnyddio hybiau addysg yn ystod y cyfnod cyfyngiadau cyntaf, cymhwystra am brydau ysgol am ddim a’r nifer yn eu bwyta, a’r niferoedd a ddewisodd addysgu eu plant yn y cartref.

Roedd ein casgliadau ynglŷn â’r economi yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol i gofnodi cyflwyniad grantiau busnes bach ac i ddeall effaith ariannol debygol y pandemig.

Cofnododd ein casgliad mewn perthynas â gorfodi weithgarwch a gafodd ei wneud i gefnogi offerynnau cyfreithiol cysylltiedig â’r pandemig.

Rydyn ni’n falch o’n gallu i ymgymryd â’r casgliadau pwysig hyn mor gyflym ac rydyn ni mewn sefyllfa gryf i adeiladu ar y llwyddiant hwn i mewn i 2021/22.

Ymateb i COVID - ymgysylltu

Mae’r pandemig wedi amlygu’r angen am ymgysylltu clir a rheolaidd ac, ar yr un pryd, wedi lleihau ein gallu i wneud hynny wyneb yn wyneb. Ond nid yw’r newyddion i gyd yn ddrwg! Tra roedden ni’n arfer ymweld â phartner(iaid) yn y gorffennol, a olygai amser teithio a chostau, yn ystod y pandemg rydyn ni wedi cwrdd yn hytrach dros gyfres o alwadau fideo. Mae hyn wedi caniatáu i ni roi mwy o amser ymroddedig i bartneriaid a phrosiectau, a gynyddodd gynhyrchedd ac ymgysylltu yn y broses.

Ar ben hynny, mae rhan bwysig o’n hymgysylltu bob amser wedi bod i ofyn am a gwrando ar eu dirnadaeth nhw, i ddarparu cyd-destun i’r data. Heb y gallu i ymweld, mae mewnbwn oddi wrth bartneriaid ‘ar y llawr’ wedi dod yn fwyfwy pwysig wrth greu darlun o beth sy’n digwydd mewn cymunedau lleol. Gan nad yw effaith y pandemig wedi’i ddosbarthu’n gyfartal ar draws Cymru, nid yw’n syndod ein bod yn gweld mwy a mwy o ‘odrwyddau’ yn y data rydym yn gweithio gyda nhw. Mae partneriaid lleol wedi bod, ac y parhau i fod, yn amhrisiadwy wrth ddehongli’r newidiadau hyn.

Er anghraifft, trwy ein gwaith gyda’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, bu’n bosibl i ni gael dealltwriaeth lawer gwell o’r farchnad lafur a’r Cyfrifiad Hawlwyr Budd-daliadau yng Nghymru drwy dreiddio i feysydd sy’n ymddangos eu bod yn goroesi’n weddol dda yn wyneb diweithdra cynyddol.

Wrth i ni symud allan o’r pandemig, mae’n rhaid i ni barhau i adeiladu ar y perthnasoedd hyn, gan fod rhaid i ddirnadaeth leol fod wrth ganol gwaith cynllunio am adferiad a’r ‘normal newydd’.

Ymateb i COVID-19 - lledaenu

Nid yw erioed wedi bod yn hawdd distyllu ystyr o wybodaeth ond, ar adegau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi bod yn arbennig o anodd. I sicrhau bod negeseuon yn torri trwy’r sŵn, mae eglurdeb wedi dod yn bwysicach nag erioed. I’r perwyl hwn, rydyn ni wedi buddsoddi’n drwm mewn technoleg newydd sy’n gadael i ni symleiddio a thargedu’n hallbynnau. Yn benodol, rydyn ni wedi cynyddu’n defnydd ar PowerBI yn sylweddol. Mae’r offeryn lledaenu hwn yn gadael i ni greu allbynnau sy’n rhyngweithiol, wedi’u hystwytho, ac yn hawdd eu defnyddio.

Blog

Yn ogystal, rydyn ni wedi cynhyrchu allbynnau mewn Microsoft Sway. Mae’r offeryn hwn yn ein galluogi i fewnosod allbynnau o becynnau meddalwedd eraill, fel Excel a PowerBI, gan droi adroddiad traddodiadol yn brofiad rhyngweithiol.

Hefyd, rydyn ni wrthi’n profi cydweddoldeb ieithoedd codio R a Python â PowerBI i greu allbynnau pwrpasol. Bydd y gwaith cyffrous hwn yn caniatáu i ni gael rheolaeth lwyr dros weithrediad a theimlad allbynnau yn y dyfodol.

 

Gweithgarwch busnes fel arfer

Ochr yn ochr â’r ymateb i’r pandemig, llwyddon ni i gyflenwi’r cynigion busnes craidd hefyd.

Cynhalion ni’n casgliadau data rheolaidd, datblygon ni wefannau, pyrth data a dangosfyrddau pwrpasol, yn ogystal â chyflwyno nifer o adroddiadau (gwerthuso) meintiol ac ansoddol.

Ar ben hynny, rydyn ni’n datblygu cynnig hyfforddiant cyffrous a gaiff ei gyflwyno’n gynnar yn 2021/22; hyfforddiant dylunio arolwg a grwpiau ffocws, yn ogystal â chanllawiau ar ystadegau cryno a chyflwyno data.

Edrych ymlaen

Wrth edrych ymlaen, rydyn ni wrthi’n gweithio i adeiladu ar y diddordeb cynyddol mewn ystadegau a data sydd wedi’i greu gan y pandemig, i gryfhau cysylltiadau â phartneriaid, ac i ategu’r diwylliant data sy’n dod i’r amlwg ledled llywodraeth leol yng Nghymru. Caiff mwy o fanylion eu cyhoeddi cyn bo hir drwy ein cynllun strategol. Cadwch lygad allan am hynny!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, bydden ni wrth ein bodd i glywed oddi wrthych chi.

Ynglŷn â’r awdur

Sam Sullivan

Sam sy’n arwain ein gwaith ystadegau ac ymchwil, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros ein holl waith lledaenu, arolygu a dadansoddi data. Yn ogystal, mae Sam yn rhan o’n huwch dîm rheoli.

Cyswllt

029 2090 9581

Sam.Sullivan@data.cymru

Postio gan
y Golygydd / the Editor
16/03/2021