• This website is available in English

“To achieve the goals of sustainable development, critical data must be open and available for reuse by anyone, anywhere, anytime"
-Syr Tim Berners-Lee, cyd-sylfaenydd y Sefydliad Data Agored (ODI)

Data agored

Data agored yw data sy’n cael ei gyhoeddi mewn modd sy’n caniatáu i unrhyw un ei gyrchu a’i ddefnyddio yn rhad ac am ddim ac yn rhwydd. Gall hyn fod ar ffurf taenlen agored sy’n cael ei chadw mewn fformat amherchenogol (fel ffeil .ods neu .csv) a gyhoeddir ar wefan neu borthiant data agored sy’n gadael i ddefnyddwyr gysylltu’n uniongyrchol â’r data. Pa fformat bynnag a ddewiswch, mae’n rhaid i‘r data gael ei labelu’n glir fel data agored.

Beth yw’r manteision?

Mae agor eich data i fyny yn cynnig rhai manteision gwirioneddol, nid yn unig i ddarpar ddefnyddwyr data, ond i chi fel busnes hefyd. Er enghraifft, mae’n galluogi mynediad cyflymach a haws i ddata o fewn eich sefydliad ac ar draws y sector cyhoeddus. Hefyd bydd yn gadael i bobl eraill ddefnyddio’r data i lywio ymchwil a dadansoddiad neu i greu offerynnau sy’n helpu i wella cymdeithas.

Yn yr un modd, ar adeg pan fo capasiti data ac ymchwil o fewn awdurdodau lleol yn fwyfwy cyfyngedig, mae gadael i bobl gyrchu’r data eu hunain yn golygu y byddwch chi’n treulio llai o amser yn darparu’ch data chi i amrywiol sefydliadau gwahanol sy’n gofyn amdano.

Yn olaf, ond efallai’n bwysicaf, mae’n dda i ddemocratiaeth. Bydd bod yn agored ac yn dryloyw nid yn unig yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ynoch chi fel sefydliad, ond, fel y dywed y Sefydliad Data Agored (ODI) yn eu blog What is ‘open data’ and why should I care?, mae’n gallu helpu hefyd i rymuso pobl i gymryd rhan:

“If citizens know about their governments they can hold leaders to account, make more informed decisions and demand better services. Open data can also help governments stay on their toes and make better policies for society, the economy and the environment.”
Sefydliad Data Agored (ODI)

DataAgoredCymru

Mae'n bleser mawr gennym ni gyhoeddi lansiad DataAgoredCymru – gwefan newydd sy’n gadael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill gyhoeddi eu data agored er mwyn iddo gael ei gyrchu a’i ddefnyddio’n ddi-dâl ac yn ddidrafferth.

Ein gobaith yw y bydd y wefan, sydd wedi’i datblygu a’i phrofi’n drylwyr dros y 18 mis diwethaf, yn dod yn ‘siop un stop’ am ddata agored sector cyhoeddus yng Nghymru. Ein ffocws nawr yw gweithio gyda’n cydweithwyr sector cyhoeddus i boblogi’r wefan.

Diddordeb mewn cyhoeddi’ch data chi ar DataAgoredCymru? Cysylltwch â ni yn enquiries@data.cymru

Ein ffocws strategol ni

Un o’n nodau yw gweld codiadau sylweddol yn argaeledd a defnydd data agored yng Nghymru – dymunwn i sector cyhoeddus Cymru fod yn chwaraewr allweddol ar y llwyfan data agored. Byddwn felly yn gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru, Llywodraeth Cymru, y Sefydliad Data Agored (ODI) a sefydliadau eraill y sector cyhoeddus, i ddatblygu eco-system data agored sector cyhoeddus Cymru.

I gefnogi hyn, byddwn yn:

Cefnogi awdurdodau lleol a chyrff eraill y sector cyhoeddus i gyhoeddi a defnyddio data agored
Gwella hygyrchedd data agored y sector cyhoeddus
Cynyddu swm ac ansawdd y data agored rydym yn ei gyhoeddi ac yn ei ddefnyddio

Gweler isod am fwy o wybodaeth am sut rydym yn bwriadu cyflenwi yn erbyn yr amcanion hyn.

Ymunwch â’r drafodaeth

Rydym yn cydlynu Cymuned Ymarfer ‘Gwella mynediad at ddata’r sector cyhoeddus’ – ‘cymuned’ o unigolion o bob rhan o’r sector cyhoeddus sydd am annog a hwyluso gwell mynediad at ddata, gan gynnwys data agored. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru, gweler ein tudalen we Cymunedau Ymarfer.

Ein cynlluniau

Adnoddau defnyddiol

Cysylltwch â ni

Suzanne Draper

Suzanne yw ein Pennaeth Mewnwelediad ac Ymgysylltu, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am ein cymorth gwella, cymorth partneriaeth a rhaglenni gwaith meithrin gallu. Mae Suzanne hefyd yn rhan o'n huwch dîm rheoli.

029 2090 9516

Suzanne.Draper@data.cymru