Nod
Rhoi tipyn o gyngor, offer ac adnoddau i’ch helpu i baratoi a chynhyrchu arolygon.
Cynnwys
Mae arolygon yn cael eu defnyddio i gasglu gwybodaeth trwy holiaduron. Gall yr holiaduron hyn gael eu gweinyddu ar bapur, yn electronig, neu hyd yn oed trwy gyfweliad. Mae arolygon adnabyddus yn cynnwys y Cyfrifiad; holiaduron meddygol; a holiaduron adborth defnyddwyr.
Mae llawer o fathau o arolwg. Bydd pa un rydych chi’n ei ddewis yn dibynnu ar ddiben yr arolwg, yr amserlen am gasglu’r canlyniadau, a’r adnoddau sydd ar gael.
Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i bobl sydd angen paratoi, cynhyrchu a dylunio arolygon a dadansoddi’r data canlyniadol.
Canlyniadau
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:
- dylunio arolygon
- y technegau samplo mwyaf cyffredin
- sut i lunio cwestiynau arolwg
- sut i beilota a chynnal arolwg
- sut i ddadansoddi a chyflwyno’r canlyniadau.
I bwy mae’r sesiwn
Bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd angen creu arolwg neu ddefnyddio data arolwg. Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol o ddylunio neu gynnal arolwg.
Diddordeb gennych?
Mae cyrsiau'n para tua 2.5 awr ac yn costio £50 ynghyd â TAW y cyfranogwr. I gadw lle ar y cwrs hwn ewch i Tocyn Cymru i weld y dyddiadau a’r amserau sydd ar gael.
Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 am £750 a TAW. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau neu os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach, e-bost at ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.
Angen mwy o wybodaeth?
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Jonathan Owens. Jonathan yw ein Hystadegydd. Mae’n cefnogi ein gwaith dadansoddi a lledaenu data.
029 2090 9514
Jonathan.Owens@data.cymru