• This website is available in English

“Information is the oil of the 21st century, and analytics is the combustion engine"
Peter Sondergaard, Gartner Research

Gwyddor data

Gwyddor data yw maes echdynnu gwybodaeth a dirnadaeth o ddata, yn arbennig drwy gymhwyso dulliau gwyddonol a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r diagram Venn isod yn dangos sut mae gwyddor data yn pontio’r bwlch rhwng Mathemateg a Chyfrifiadureg i hybu ein dealltwriaeth o’r data rydym yn ei gadw.

Data Science Venn Diagram

Mae rhai technegau o wyddor data a meysydd cysylltiedig yn cynnwys:

  • cloddio data a sgafellu gwe;
  • modelu rhagfynegol a dadansoddi cyfres amser;
  • algorithmau clystyru a chategoreiddio;
  • Prosesu Iaith Naturiol (NLP);
  • dysgu peirianyddol, dysgu dwfn a deallusrwydd artiffisial; ac
  • Awtomeiddio Prosesau Robotig (RPA).

Rydym yn buddsoddi hefyd mewn dysgu o safonau ymarferwyr gwyddor data mewn meysydd fel:

  • piblinellau dadansoddol atgynhyrchadwy ac ymchwil atgynhyrchadwy;
  • defnyddio ystwyth;
  • codio tîm hyblyg a chyfrifol; a
  • peirianneg meddalwedd.

Ein ffocws strategol ni

Yn Data Cymru, rydym yn cydnabod gwerth cymhwyso dulliau gwyddor data yn y sector cyhoeddus. Mae gwyddor data yn ganolog i’n strategaeth hirdymor, gan gyfoethogi’r offer a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn ogystal â chefnogi’n heffeithlonrwydd mewnol. Rydym yn gwireddu’r strategaeth drwy Dîm Gwyddor Data a thrwy uwchraddio sgiliau staff mewn dulliau a thechnolegau cysylltiedig.

Mae ein Tîm Gwyddor Data yn hoelio sylw ar y meysydd allweddol dilynol:

Archwilio opsiynau delweddu data newydd yn ein hadroddiadau a’n cynhyrchion data
Dyfnhau ein mewnwelediad i setiau data Cymru gyda gwaith dadansoddi uwch
Uwchraddio sgiliau ein tîm mewn technolegau a dulliau newydd cyffrous
Cefnogi ein Strategaeth Data Agored
Gwella effeithlonrwydd ac ansawdd cyflenwi craidd trwy gydol y busnes
Datblygu offer busnes i foderneiddio’n gwybodaeth reoli fewnol

Llwyddiannau mewnol - R Shiny

Cynhaliom ni beilot defnydd mewnol gweinydd R Shiny yn hwyr yn 2019, a chyhoeddom ein hofferynnau cyntaf gan ddefnyddio’r gweinydd hwn yn gynnar yn 2020. Mae R Shiny yn dechnoleg sy’n defnyddio grym ystadegol iaith R i greu dangosfyrddau cyfoethog a sythweledol yn eich porwr gwe. Mae diddordeb arbennig gennym mewn defnyddio pecynnau mapio R Shiny fel Leaflet a Mapview, sy’n gallu cyfathrebu data daearyddol yn effeithiol.

Dangosir enghraifft o gymhwysiad R Shiny isod.

R Shiny Dashboard Example

Llwyddiannau mewnol - Peirianneg data ac Awtomeiddio Prosesau Robotig (RPA)

Yn Data Cymru, rydym yn cynnal sawl casgliad data rheolaidd, o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae’r gwaith rheoli data a gweinyddu cronfeydd data cysylltiedig yn cael ei yrru’n fawr iawn gan brosesau. Fel rhan o’n gwelliant parhaus, rydym yn awtomeiddio meysydd mwyaf ailadroddus ein gwaith sy’n llyncu amser ac yn agored i wallau. Ein nod yw cynyddu defnydd ein piblinellau dadansoddol atgynhyrchadwy ac archwilio cymhwysiad Awtomeiddio Prosesau Robotig (RPA) yn 2020.

Os hoffech siarad â ni am ein gwaith gwyddor data neu sut y gallem eich cefnogi yn y maes hwn, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni

Dr Rob Pascoe (PhD)

Mae Rob yn Wyddonydd Data yn Data Cymru. Ei rôl ef yw cyflawni atebion gwyddor data ac i feithrin ymagwedd fodern at ddata trwy gydol y sefydliad. Ar hyn o bryd mae’n datblygu cyrsiau uwchraddio sgiliau mewnol yn ieithoedd R a Python ac yn gweithio hefyd gyda’n partneriaid ar brosiectau lluosog.

029 2090 9569

Rob.Pascoe@data.cymru

Adnoddau defnyddiol

Dogfennau canllaw

Gwyddor data (UC Berkeley) (Saesneg yn unig)

Hanes gwyddor data (Forbes) (Saesneg yn unig)

Hyfforddiant

Gwyddor data er budd y cyhoedd (ONS Data Science Campus) (Saesneg yn unig)
Ar gael i fynychu Uwch Reolwyr yn y SYG neu'r GSS yn unig, ond mae'r sleidiau ar gael i'r cyhoedd.