Nod
Rhoi cyngor, offer ac adnoddau i’ch helpu i grynhoi data a darparu ystadegau hawdd eu deall.
Cynnwys
Mae ystadegyn cryno yn gyfrifiad sy’n cael ei gyflawni ar set ddata i ddisgrifio ei nodweddion. Er enghraifft, mae cymedr, canolrif, modd, isafswm, uchafswm, ystod, gwyriad safonol i gyd yn enghreifftiau o ystadegau cryno. Mae ystadegau cryno yn cael eu defnyddio’n aml i ymchwilio i ddata a’i ddisgrifio. Dyma flociau adeiladu’r rhan fwyaf o ddadansoddiad meintiol.
Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i ddeall sut i grynhoi’ch data yn ystadegau hawdd eu dehongi a’u deall.
Canlyniadau
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn deall:
- sut i ddehongli ystadegau
- y mesurau ystadegol mwyaf cyffredin
- sut allan nhw gael eu cyfrifo a phryd dylech chi eu defnyddio.
I bwy mae’r sesiwn
Bydd y cwrs hyn yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n defnyddio data’n rheolaidd – yn y bôn, pawb! Bydd yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sydd angen crynhoi data a darparu ystadegau hawdd eu deall ar gyfer cwsmeriaid, rhanddeiliaid, a dinasyddion. Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, gynnwys, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol o ystadegau.
Diddordeb gennych?
Mae cyrsiau'n para tua 2.5 awr ac yn costio £50 ynghyd â TAW y cyfranogwr. I gadw lle ar y cwrs hwn ewch i Tocyn Cymru i weld y dyddiadau a’r amserau sydd ar gael.
Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 am £750 a TAW. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau neu os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach, e-bost at ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.
Angen mwy o wybodaeth?
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Jonathan Owens. Jonathan yw ein Hystadegydd. Mae’n cefnogi ein gwaith dadansoddi a lledaenu data.
029 2090 9514
Jonathan.Owens@data.cymru