• This website is available in English

Cymunedau Ymarfer: dysgu, rhannu, tyfu

Mae Cymuned Ymarfer yn griw o bobl sy’n dod at ei gilydd i rannu syniadau, profiad ac arfer gorau mewn perthynas â diddordeb neu ddiben cyffredin. Mae cymuned lwyddiannus nid yn unig yn grymuso aelodau unigol i ddysgu a thyfu, ond mae hefyd yn gallu creu newid / gwelliant gwirioneddol trwy ymdrech gyfunol.

Gwybodaeth a rennir = Gwybodaeth2

Rydym ni am annog rhannu gwybodaeth yn gadarnhaol ac yn adeiladol fel hyn ar draws y sector cyhoeddus Cymru mewn perthynas â phob agwedd ar ddata. Byddwn ni felly yn cynnal, ac yn cyfrannu at, gyfres o gymunedau ymarfer an arweiniad y sector, sy’n canolbwyntio ar ddata.

Ein Cymunedau Ymarfer

Rydym yn cynnal y Cymunedau Ymarfer canlynol:

Cliciwch ar enw'r Gymuned Ymarfer am fwy o wybodaeth a manylion am sut i ymuno.

Bydd gan bob cymuned ‘hafan’ (grŵp) ar-lein ar y ‘Knowledge Hub’, platfform digidol mwyaf y DU am gydweithrediad ymhlith gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n bosibl hefyd y trefnwn gyfarfodydd rheolaidd, gwirfoddol, er mwyn hwyluso trafodaethau manylach.

Am fwy o wybodaeth am ein cymunedau, gan gynnwys y rheolau a'r cyfrifoldebau rydym yn disgwyl i bob aelod o'r gymuned ddilyn, gweler ein Cod Ymarfer.

Dod yn hyrwyddwr?

Rydym ni’n dibynnu ar dîm o ‘Hyrwyddwyr’ gwirfoddol i wneud yn siŵr bod ein cymunedau’n ffynnu ar-lein. Ein hyrwyddwyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod gweithgarwch a diddordeb yn y grŵp yn rheolaidd ac yn rhagweithiol. Gallai hyn olygu ychwanegu cynnwys newydd, cychwyn trafodaethau, annog cyfranogiad ac ymateb i sylwadau / cwestiynau. Os hoffech chi ddod yn hyrwyddwr am un o’n cymunedau, cysylltwch â ni.

Dweud eich dweud – pa bynciau eraill dylem ni ganolbwyntio arnyn nhw?

Rydym ni’n awyddus i sefydlu Cymunedau Ymarfer pellach, lle bydd archwaeth i wneud hynny. Cysylltwch â ni os oes unrhyw bynciau / meysydd hoffech chi weld cymuned yn rhoi sylw iddyn nhw.

Adnoddau defnyddiol

Dogfennau canllaw

Cod Ymddygiad Cymunedau Ymarfer (CoP)

Blogs

Mae tîm da yn gwneud data da (Llywodraeth Cymru a Data Cymru)

Cod Ymarfer Cymunedau Ymarfer

Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol:

Cymuned Ymarfer Adeiladu gwasanaethau dwyieithog
Cymuned Ymarfer cyfathrebu digidol
Cymuned Ymarfer dylunio cynnwys

Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru:
Cymuned Ymarfer Cyd-gynhyrchu

Future Care Capital:
Cymuned Ymarfer Dadansoddwyr data gofal cymdeithasol (Saesneg yn unig)

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CgGC):
Cymuned Ymarfer Diogelu

Cynnal Cymru:
Cymuned Ymarfer yr Economi Sylfaenol

Cysylltwch â ni

Suzanne Draper

Suzanne yw ein Pennaeth Mewnwelediad ac Ymgysylltu, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am ein cymorth gwella, cymorth partneriaeth a rhaglenni gwaith meithrin gallu. Mae Suzanne hefyd yn rhan o'n huwch dîm rheoli.

029 2090 9516

Suzanne.Draper@data.cymru