• This website is available in English

GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018

Mae’r deddfwriaethau hyn yn nodi sut y bydd angen i sefydliadau drin data personol i wella hawliau’r bobl y cedwir data amdanynt, a rhoi mwy o reolaeth iddynt drosto.

Mae ein Polisi Diogelu Data yn esbonio sut rydym yn sicrhau bod y Data Personol a gasglwn yn cael ei brosesu mewn modd cywir a diogel, yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a deddfwriaeth gysylltiedig arall. Bydd yn berthnasol i wybodaeth ni waeth ym mha ffordd caiff ei chasglu, ei defnyddio, ei chofnodi, ei storio a’i gwaredu, ac ni waeth a yw’n cael ei chadw mewn ffeiliau papur neu’n electronig.

Os ydych o’r farn bod Data Cymru wedi camddefnyddio’ch data, mae gennych hawl i gwyno. Gallwch chi gysylltu â’n Pennaeth Ystadegau ac Ymchwil (sam.sullivan@data.cymru / 029 2090 9581) a byddwn yn datrys y mater cyn gynted â phosibl er mwyn atal unrhyw gamdrafod pellach. Gweler ein Polisi Cwynion am wybodaeth bellach.

Mae gennych hawl hefyd i gwyno i’n Swyddog Diogelu Data:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW 

diogeludata@caerdydd.gov.uk​

Mae gennych hawl hefyd i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Polisi Diogelu Data

Mae ein Polisi Diogelu Data yn esbonio sut rydym yn sicrhau bod y Data Personol a gasglwn yn cael ei brosesu mewn modd cywir a diogel, yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a deddfwriaeth gysylltiedig arall.