• This website is available in English

Posts From Ionawr, 2020

  • IBC Logo

    Mae graddau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a data’r dangosyddion ar gael bellach yn InfoBaseCymru.

    Mae 1,909 o’r Ardaloedd hyn yng Nghymru, ar draws y 22 awdurdod lleol. Maent yn cael eu graddio o’r mwyaf amddifad i’r lleiaf amddifad yn erbyn yr wyth parth amddifadedd (Incwm, Cyflogaeth, Iechyd, Addysg, Mynediad i Wasanaethau, Diogelwch Cymunedol, yr Amgylchedd Ffisegol a Thai) yn ogystal ag am eu hamddifadedd cyffredinol.

    Mae pob parth yn cynnwys nifer o ddangosyddion ac mae data am y dangosyddion ar gael hefyd ochr yn ochr â graddau’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is.

    Mae’r data a’r graddau yn ffynhonnell werthfawr gwybodaeth er mwyn i awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, y sawl sy’n llunio polisi a’r cyhoedd ddeall sut mae amddifadedd yn bodoli ledled Cymru.

    I gyrchu’r data, ewch i InfoBaseCymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor