• This website is available in English

Newyddion

  • Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 10% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.



    Categorïau: Diweddariadau data
  • Free Swimming1 Logo

    Darllennwch yr adroddiad dadansoddi diweddaraf am ddata Nofio Am Ddim sy’n dangos y tueddiadau yng Nghymru

    Gweithiwn ar y cyd â Chwaraeon Cymru i gasglu, dadansoddi ac adrodd am ddata Nofio am Ddim oddi wrth awdurdodau lleol yng Nghymru.

    Nod y gwaith hwn yw gwerthuso effaith y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru drwy ddefnyddio’r data yn effeithiol.

    Dysgwch fwy a gweld sut mae cyfranogiad yn eich awdurdod chi drwy fynd i’n hoffer Nofio am Ddim.

    I weld adroddiad 2017-18 cliciwch y ddelwedd isod. Sylwch fod yr adroddiad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.

    Free Swimming


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • #

    O ganlyniad i’r galw llethol, mae cofrestru wedi CAU. Wrth i fwy na 150 o gynadleddwyr gofrestru, mae’r tîm yma wrthi’n cwblhau’r trefniadau terfynol ac yn paratoi deunyddiau ar gyfer y digwyddiad.

    Os oes gennych ddiddordeb o hyd mewn bod yn bresennol, anfonwch e-bost at Jodie Phillips ac ychwanegwn eich manylion at restr wrth gefn.

     

    Byddwn yn cynnal ein chweched Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol ddydd Iau 22 Tachwedd 2018 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Rydym ni wedi llunio rhaglen gyffrous gydag amrediad o bartneriaid cenedlaethol
     

    Beth yw’r pwnc?

    Mae deddfwriaeth newydd, disgwyliadau newydd a dulliau gwahanol o weithio yn golygu bod angen i’r sawl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru feddwl yn wahanol am sut maent yn gwerthuso ac yn mesur effeithiolrwydd ac effaith polisïau, gweithredoedd ac ymyriadau. Bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar beth mae hyn yn ei olygu, yn cynnig syniadau ac atebion ymarferol ac yn dangos sut allai’r rhain gael eu cymhwyso. Hefyd bydd cyfle i gwestiynau ac ystyriaethau’r cynadleddwyr ar y pwnc hwn gael eu codi a’u trafod.

    Pwy ddylai fynychu?

    Dylech chi fynychu os ydych:

    • Yn chwarae rôl arweiniol mewn corff cyhoeddus, bwrdd gwasanaethau cyhoeddus neu gorff arall sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus.
    • Yn gyfrifol am gyflwyno, neu gefnogi, cynlluniau llesiant - gan gynnwys y cynlluniau ardal a chynlluniau llesiant lleol.
    • Eisiau gwybod mwy am fesur a gwerthuso effaith polisïau ac ymyriadau.

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • FS Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 1% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Mae wedi dod i’n sylw yma yn Data Cymru (Uned Ddata ~ Cymru gynt) bod ein hen gyfeiriadau e-bost (@dataunitwales.gov.uk) yn cael eu defnyddio i anfon sbam/post a allai fod yn faleisus.

    Byddwch yn wyliadwrus o bost sy’n cael ei anfon oddi wrth aelod.staff @dataunitwales.gov.uk – bellach byddai post yn dod oddi wrth staff.member@data.cymru.

    Fel arfer mae’r negeseuon e-bost hyn yn cynnwys camgymeriadau sillafu – nid yw ein llofnod Data Cymru ynddynt – a byddent  obosib yn cynnwys ffeiliau zip/pdf. Byddwch yn wyliadwrus gyda negeseuon e-bost sy’n honni dod oddi wrth ein hen gyfeiriad e-bost @dataunitwales.gov.uk, a byddwch yn dawel eich meddwl hefyd nad ydym wedi cael ein cyfaddawdu.

    Cysylltwch â ni oes oes gennych chi unrhyw amheuon.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • FS LogoCafodd adroddiad am ddata gweithlu arbenigol AAA awdurdodau lleol ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yng Ngorffennaf 2018.

    Cawsom ein comisiynu i gasglu data gweithlu gwasanaethau arbenigol AAA awdurdodau lleol a chynnal dadansoddiad. Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

    Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Suzanne Draper.

     


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • FS Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 4% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    Chris Beck

    Categorïau: Diweddariadau data
  • WfBGwyddom i gyd mai gweithlu corff yw ei ased mwyaf gwerthfawr. Mae hyn yn arbennig o wir yn y sector cyhoeddus lle mae’r mwyafrif o weithwyr yn uniongyrchol gyfrifol am gefnogi unigolion a chymunedau i ffynnu. O ddarparu addysg o’r radd flaenaf i’ch plant a gwneud yn siŵr bod eich ardal leol yn ddiogel ac yn lân, i sicrhau bod y sawl sydd angen gofal a chymorth yn eu derbyn, mae’r unigolion hyn yn chwarae rhan allweddol mewn ein helpu ni i gyflawni llesiant. Oni fyddai’n braf gwybod mwy am y gweithlu sy’n chwarae rhan mor bwysig yn ein bywydau ni i gyd? Wel, does dim angen edrych ymhellach…

    Cysylltu’r enwau â’r wynebau…

    Wel, ddim yn union, ond yr wythnos hon rydym ni wedi cyhoeddi set ddata ‘Gweithlu awdurdodau lleol’ newydd yn InfoBaseCymru. Mae’r set ddata, a welir dan thema ‘Llywodraeth leol’, yn rhoi rhywfaint o wybodaeth bennawd am weithlu pob un o awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys eu hoedran, eu rhywedd a’u cyflog. Bydd yn eich helpu i ddeall nodweddion y gweithlu presennol a sut allai’r sefyllfa newid yn y dyfodol.

    Ac yn ogystal…

    Mae’r data wedi cael ei gyhoeddi fel data agored o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored (OGL), sy’n golygu bod y data yn glir ac yn hygyrch er mwyn i unrhyw un gael ei ddefnyddio, ei ailddefnyddio a/neu ei ddefnyddio at ddiben arall yn rhad ac am ddim ac mewn unrhyw fformat a ddewisant.

    Mae’n rhan o fenter ehangach i ddatgelu data am y gweithlu ar draws y sector cyhoeddus i gyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r un wybodaeth am eu gweithlu hwythau hefyd a disgwyliwn i gyrff eraill drefnu bod eu data ar gael yn ystod y misoedd nesaf. Mae gwybodaeth bellach am y fenter hon ar gael ym mlog ‘Data a Digidol’ diweddar Llywodraeth Cymru.

    Gallwch weld data gweithlu awdurdodau lleol yn InfoBaseCymru.

    Mae data Llywodraeth Cymru ar gael yn StatsWales.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Population

    Cyhoeddedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrifon poblogaeth canol y flwyddyn 2017 ar 28 Mehefin 2018.

    Mae’r amcangyfrifon ar gael ar lefel blwyddyn oedran unigol ac awdurdod lleol. Rydym ni wedi eu cynnwys yn InfoBaseCymru fel bandiau oedran eang i’w gwneud yn haws eu defnyddio. Cysylltwch â ni os oes arnoch chi angen data am fandiau oedran gwahanol.

    Am fwy wybodaeth am ddata poblogaeth cysylltwch â Jenny Murphy.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • CandidatesMae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi nodweddion demograffig cynghorwyr etholedig ac ymgeiswyr na chawsant eu hethol am etholiadau llywodraeth leol yn 2017.

    Yn unol â Mesurau Llywodraeth Leol 2011, cefnogom ni awdurdodau lleol i gynnal arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr llywodraeth leol yn ystod, ac yn dilyn, etholiadau lleol Mai 2017. Mae’r arolwg yn cynnig gwybodaeth am broffil demograffig cynghorwyr ac ymgeiswyr awdurdodau lleol. Cafodd yr un arolwg ei gynnal yn 2012 hefyd.

    Am ragor o wybodaeth am yr arolwg neu adroddiad, cysylltwch â Jenny.Murphy@Data.Cymru.

     


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad