• This website is available in English

Cynllunio’r Gweithlu Gweithwyr Cymdeithasol 2015-16

Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar am ddata Cynllunio’r Gweithlu Gweithwyr Cymdeithasol 2015-16. Nod yr adroddiad yw cefnogi awdurdodau lleol a Chyngor Gofal Cymru (nawr Gofal Cymdeithasol Cymru) wrth gynllunio am anghenion y gweithlu yn y dyfodol a llywio comisiynu hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.

Dengys yr adroddiad nifer y gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a hynny mewn Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a meysydd eraill. Mae’n edrych hefyd ar dueddiadau’r gweithlu dros amser a throsiant staff a’r gweithlu rhagamcanol dros y tair blynedd nesaf.

I weld adroddiad 2015-16 cliciwch y ddelwedd isod.

SWWP

Postio gan
y Golygydd / the Editor
13/04/2017
Categorïau: Cyhoeddiad