• This website is available in English

Mae tîm da yn gwneud data da

Gwnaethom ni, ynghyd â'n cydweithwyr yn nhîm Data a Digidol Llywodraeth Cymru, ddrafftio blog yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer dod â phobl at ei gilydd o bob rhan o'r sector cyhoeddus i drafod y materion data yr ydym i gyd yn eu hwynebu.

***********************************************************************************************************

Mae tîm da yn gwneud data da

Os yw’r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf wedi dysgu unrhyw beth inni, pwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd yw hynny. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut y gall rhannu gwybodaeth ac arbenigedd helpu i ddelio â’r heriau anoddaf.    

Fodd bynnag, os ydych chi’n gweithio gyda data, p’un a ydych chi’n wyddonydd data, yn arbenigo mewn rheoli data, yn ymwneud â rhannu data neu’n syml yn defnyddio data fel rhan o’ch gwaith bob dydd, mae’n haws dweud na gwneud hyn weithiau. Mae llawer ohonom yn gweithio mewn sefydliadau lle ni yw’r unig rai sy’n arbenigo mewn data yn ein maes, os nad data yn gyffredinol. Fodd bynnag, pa mor aml ydych chi wedi dyheu am y cyfle i siarad â phobl o’r un anian am faterion rydych chi’n eu hwynebu, cael cyngor a hyd yn oed rhoi eich syniadau ar brawf, o bosibl? Wel, y newyddion da yw bod gennym yng Nghymru lond gwlad o bobl sy’n arbenigo mewn data, ond efallai nad ydym yn gweithredu gyda’n gilydd cystal ag y gallem. Rydym eisiau i hynny newid.

So, Felly, beth sydd i’w wneud?

Yn gynharach eleni, wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, fe wnaethom ddwyn ynghyd ystod o arbenigwyr data ac arweinwyr data. Er bod y ffocws ar ddatblygu’r strategaeth, daeth yn amlwg pa mor ddefnyddiol ydoedd i bobl o bob rhan o’r sector cyhoeddus ddod ynghyd o sectorau gwahanol i drafod materion cyffredin o ran data y mae pawb ohonom yn eu hwynebu.

Nid ni oedd yr unig rai â’r meddylfryd hwn, gyda chydweithwyr yn Data Cymru hefyd o’r un farn. Felly, gyda’n gilydd fe wnaethom ddechrau ystyried sut y gallem ddod, nid yn unig ag arweinwyr data o bob cwr o Gymru ynghyd, ond y gymuned data ehangach. Yn amlwg, mae’n haws dweud na gwneud hyn pan feddyliwn am ddata yn ei gyfanrwydd a’r gwahanol feysydd arbenigedd.

Ymddengys mai dull gweithredu deuol oedd y datrysiad gorau; grŵp trosfwaol o arweinwyr data yn ymdrin â’r gwaith mwy strategol law yn llaw â rhwydwaith o gymunedau yn canolbwyntio ar feysydd penodol. Rhywbeth tebyg i’r canlynol:

Blog

Mae’r grŵp trosfwaol, yr ydym wedi’i enwi yn Rhwydwaith Arweinwyr Data Cymru, newydd gael ei sefydlu ac yn ddiweddar, cynhaliodd ei gyfarfod cyntaf. Yn gryno, nod y grŵp hwn fydd gweithredu fel fforwm i arweinwyr data gyda’r nod o wella sut y mae data yn cael ei reoli, ei ddefnyddio a’i rannu. Wrth wneud hynny, gobeithir y byddant yn rhoi cyfarwyddyd clir i gyrff cyhoeddus yng Nghymru, datblygu prosiectau penodol ar draws sectorau neu argymell datrysiadau i broblemau yr ydym yn eu hwynebu. Yn y cyfarfod cyntaf, fe wnaethom drafod yr ymgynghoriad presennol ar ddiwygion diogelwch data (Saesneg yn unig), and a goblygiadau’r Tasglu Data Cynhwysol (Saesneg yn unig).

Yn nhermau’r cymunedau data, y bwriad yw i’r rhain ganolbwyntio ar feysydd penodol megis data geo-ofodol, safonau data, data agored etc. Rydym yn deall y bydd pobl wrthi’n gweithio yn y meysydd hyn yn ogystal â phobl sy’n awyddus i wybod mwy, felly bydd angen inni ystyried hyn wrth sefydlu’r cymunedau amrywiol. Rydym hefyd yn cydnabod bod rhaid i bawb ohonom gydweithio, er mwyn i’r cymunedau hyn weithio a bod yn gynaliadwy. Un ffordd yr ydym yn gobeithio gwneud hyn yw drwy sefydliadau gwahanol yn hwyluso’r cymunedau gwahanol.

Beth sydd ei angen arnom gennych chi?

Wel, fel y gallwch ddychmygu, ni fydd dim o hyn yn gweithio heb eich cyfranogiad chi, p’un a yw hynny fel aelod o’r Rhwydwaith Arweinwyr Data, yn cymryd rhan mewn cymuned data neu hyd yn oed yn hwyluso un. Mae a wnelo hyn â phawb ohonom yn dod ynghyd ac yn gweithio gyda’n gilydd – yr hyn a roddwch i mewn a gewch.

Yn y lle cyntaf, byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe baech yn gallu rhoi eich sylwadau ar y cwestiynau canlynol ynghylch cymunedau data drwy e-bostio: Suzanne.draper@data.cymru

  • A oes unrhyw gymunedau data penodol y mae arnom eu hangen, yn eich tyb chi (mae’r llun uchod yn cynnwys rhai awgrymiadau)?
  • Pa grwpiau neu cymunedau data ydych chi’n ymwybodol ohonynt sydd eisioes yn bodoli?
  • Pa gymunedau data y dylem ganolbwyntio ar eu sefydlu yn gyntaf – nodwch eich tair prif gymuned, efallai?
  • A fyddech chi’n fodlon hwyluso cymuned data (dewch ‘laen, rydych chi’n gwybod eich bod chi eisiau)? Os felly, pa un?

Hefyd, mae croeso ichi gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau eraill ynghylch sut y credwch y gall pawb ohonom weithio’n well gyda’n gilydd ar bopeth yn ymwneud â data. Neu os ydych chi’n credu eich bod yn arweinydd data yng Nghymru sy’n teimlo nad ydych chi wedi cael eich cynnwys yn y gwaith hwn, cysylltwch.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
16/12/2021