• This website is available in English

Gwyliwch ddarnau fideo o Ddigwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol 2016!

Roeddem ni wrth ein bodd i fwy na 100 i gynadleddwyr ddod i’r digwyddiad, gan gynrychioli dros 40 o sefydliadau.

Mae’r adborth o’r digwyddiad wedi bod yn bositif iawn. Yn ôl dadansoddiad o’r ffurflenni gwerthuso:

Roedd 100% o’r ymatebwyr yn meddwl bod y cynnwys yn berthnasol

Roedd 100% o’r ymatebwyr yn meddwl bod y cynnwys yn ddefnyddiol

Roedd canmoliaeth fawr am ein trefniadau cyn y digwyddiad hefyd, gyda 98% o’r ymatebwyr yn cytuno iddynt dderbyn yr holl fanylion angenrheidiol i’w galluogi i fynychu’r gynhadledd.

O ran trefniadaeth gyffredinol y digwyddiad, dwedodd 91% o’r ymatebwyr ei bod yn dda iawn.

Roedd sylwadau’n cynnwys:

‘Un o’r cynadleddau gorau, mwyaf defnyddiol dwi wedi eu mynychu ers sbel.’

‘Roedd cynnwys y digwyddiad – y siaradwyr/ y cyflwyniadau a’r gweithdai a fynychais o ansawdd uchel, yn berthnasol i’r pwnc ac i’m rôl a chyfrifoldebau i.’

‘Roedd amseriad y sesiwn yn berffaith am gyflwyniad y deddfau newydd ac roedd y ffocws ar y materion ymarferol yn werthfawr iawn ac yn union y math o beth dylai’r digwyddiadau hyn ei wneud.’

Mae fideos o’r prif gyflwyniadau wedi cael eu postio ar-lein hefyd. Mae’r rhain ar gael ar sianel YouTube Uned Ddata Cymru.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
12/05/2016
Categorïau: NIE