• This website is available in English

Systemau lleol

Mae ffynonellau gwybodaeth cenedlaethol a rhai’r DU ar gael ac yn cynnig adnodd gwerthfawr i wneuthurwyr polisi. Fodd bynnag, yn gynyddol mae angen data ar lefel fwy lleol, gan gynnwys data y mae awdurdodau a’u partneriaid yn ei gael o ffynonellau lleol. Mae systemau gwybodaeth lleol yn caniatáu i wneuthurwyr polisi a dinasyddion gyrchu, dadansoddi, mapio a lawrlwytho setiau data lleol a chenedlaethol yn gymharol rwydd.

Arsyllfa Economaidd Gogledd Cymru

Data deallus i gefnogi a gwella busnesau presennol ac yn y dyfodol o fewn yr economi ranbarthol Gogledd Cymru.

Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol

Mae’r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ynghylch y farchnad lafur i gefnogi a chyflwyno gwybodaeth i’r rhai sy’n cymryd penderfyniadau yn y rhanbarth. Yn greiddiol i’r Arsyllfa mae system mapio ar-lein ryngweithiol sy’n galluogi defnyddwyr i weld a deall y data sydd ar gael.

Arsyllfa Sgiliau De-ddwyrain Cymru

Mae Arsyllfa Sgiliau De-ddwyrain Cymru (SEWSO) wedi cael ei datblygu gan y Bartneriaeth Dysgu, Sgiliau ac Arloesi (LSkIP) i gynorthwyo wrth gynhyrchu a dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, cynlluniau sgiliau rhanbarthol ac adolygiadau o’r ddarpariaeth sgiliau rhanbarthol.

Ein Cwm Taf

Mae Ein Cwm Taf yn dod â gwaith partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf ynghyd. Mae’n cynnig cyfle i bartneriaid a dinasyddion ymgysylltu â’r bwrdd a deall ei rôl allweddol yn well wrth iddo ddatblygu. Mae Ein Cwm Taf hefyd yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am y rhanbarth.

Porth Mewnfudo Cymru

Mae Porth Mewnfudo Cymru yn rhoi amrediad o ddata am fewnfudo a gwybodaeth gyd-destunol i ddefnyddwyr, a hynny’n ddwyieithog, ar ffurf tablau a mapiau.