• This website is available in English
National intellignce Event workshops
National intelligence Event data unit staff
National intelligence Event Andrew Stephens welcome
 

Ddydd Iau 3 Mawrth cynhaliom ni’n pedwerydd Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd.

Thema allweddol y digwyddiad oedd ‘Sut mae hi MEWN GWIRIONEDD’ – Deall llesiant – newid mawr yng Nghymru. Nod y digwyddiad oedd:

  • Gwella dealltwriaeth o rôl a phwysigrwydd yr asesiadau llesiant;
  • Archwilio’r gorgyffwrdd a’r gwahaniaeth rhwng asesiadau gwahanol;
  • Trafod defnydd data a thystiolaeth, a’r cwestiwn ‘beth os’;
  • Archwilio sut allwn ni gynnwys dinasyddion yn effeithiol ac ymgysylltu â nhw; a
  • Darparu modelau ac enghreifftiau ymarferol y gall cynrychiolwyr eu hystyried/eu hysgwyddo.

Denodd y digwyddiad 100 o bobl ac, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru, roedd cynadleddwyr hefyd o’r sector iechyd a’r trydydd sector.

Cafodd y digwyddiad ei agor gan Gadeirydd Bwrdd yr Uned Ddata, y Cynghorydd Jeff James, wedi ei ddilyn gan Christopher Stevens, Pennaeth Cangen Cynllunio a Phartneriaeth a Claire Germain Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru. Cynhaliodd Chris a Claire sesiwn holi ac ateb a symbylodd lawer o drafodaeth.

Clywsom ni hefyd oddi wrth Dr. Alan Netherwood o Netherwood Sustainable Futures a siaradodd am ei waith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ar Raglen Mabwysiadwyr Cynnar Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a gwaith am lywodraethu yn y dyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd i archwilio sut y gall anghenion cenedlaethau’r dyfodol gael eu cynrychioli mewn asesiadau llesiant.

Yn ogystal, denodd y digwyddiad arddangoswyr o’r sector cyhoeddus. Roedd yr arddangoswyr yn cynnwys:

Cyn ac ar ôl cinio, cafodd sesiynau trafod ysgogol eu cynnal a brociodd y meddwl. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar bynciau:

  • Cefnogi datblygiad Asesiadau o’r Boblogaeth
  • Nodau cenedlaethol, egwyddor datblygiad cynaliadwy a dyletswydd newydd yr Archwilydd Cyffredinol: sut mae cyflawni ymagwedd ystyrlon, gymesur, ar sail risg at archwilio?
  • Data cenedlaethol, tystiolaeth leol
  • Deall anghenion y dinesydd: Rôl cyfranogiad ac ymgysyllti effeithiol
  • Cenhedlaeth 2050: Mae angen heriau hirdymor ar gyfer strategaethau hirdymor
  • Dadansoddi ymatebion ar waith

Cafodd y sesiynau eu hwyluso a’u cefnogi gan gydweithwyr o Swyddfa Archwilio Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfranogiad Cymru, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Dinas a Sir Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Russell De’Ath, Cynghorydd Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, ddaeth â’r diwrnod i ben, gan siarad am sut mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn rhoi ffocws arbennig i Cyfoeth Naturiol Cymru wrth gyfathrebu risgiau a chyfleoedd mae rheoli adnoddau naturiol yn eu cynnig ar gyfer llesiant dynol, a sut maent yn mynd ati i ddelio â’r her newydd a sut y bydd hyn yn llywio asesiadau o lesiant a chynlluniau llesiant.

Cyflwyniadau

Llesiant yng nghyd-destun gofal a chymorth: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - Chris Stevens, Pennaeth Cangen Cynllunio a Phartneriaeth, Llywodraeth Cymru

Deall llesiant ardal: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 - Claire Germain, Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Asesiadau Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant: her ‘cyflwr’ a ‘lle’ - Dr. Alan Netherwood, Netherwood Sustainable Futures a Chymrawd Ymchwil Mygedol, Prifysgol Caerdydd

Bil yr Amgylchedd a llywio Asesiadau Llesiant – Deall cyfraniad ein Hadnoddau Naturiol tuag at nodau Llesiant - Russell De’ Ath, Uwch Gynghorydd Rheoli Adnoddau Naturiol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cefnogi datblygiad Asesiadau o’r Boblogaeth - Tony Garthwaite, Cydymaith AGGCa Rebecca Cicero, Cydlynydd Rhaglenni, Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol a Nicola Davies, Pennaeth Iechyd a Llesiant, Cwm Taf UHB

Nodau cenedlaethol, egwyddor datblygiad cynaliadwy a dyletswydd newydd yr Archwilydd Cyffredinol: sut mae cyflawni ymagwedd ystyrlon, gymesur, ar sail risg at archwilio? - Huw Rees, Rheolwr Archwilio Perfformiad a Mile Palmer, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, Swyddfa Archwilio Cymru

Data cenedlaethol, tystiolaeth leol - Andrew Stephens, Cyfarwyddwr Gweithredol, Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru a Nathan Lester, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Deall anghenion y dinesydd: Rôl cyfranogiad ac ymgysyllti effeithiol - Amanda Williams, Pennaeth Datblygu Busnes, Ymgynghori a Dysgu, Cyngor Gweithredu Gwirfiddol Cymru (WCVA) a Rheolwr Cyfranogaeth Cymru

Cenhedlaeth 2050: Mae angen heriau hirdymor ar gyfer strategaethau hirdymor - Tim Peppin, Cyfarwyddwr Materion Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Tanya Nash, Arweinydd Tîm Datblygiad Cynaliadwy, Dinas a Sir Abertawe

Dadansoddi ymatebion ar waith - Dr. Jamie Smith, Pennaeth Ymchwil Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a Jamie Thorburn, Rheolwr Ymchwil, Cyngor Sir Ceredigion

Mae fideos o’r prif gyflwyniadau wedi cael eu postio ar-lein hefyd. Mae’r rhain ar gael yma.

Y cyswllt - am ragor o wybodaeth

Jodie.Phillips@unedddatacymru.gov.uk