• This website is available in English
#
#
#

Dydd Iau 2 Mawrth 2017

Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd

Ddydd Iau 2 Mawrth cynhaliom ni’n pumped Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd.

Thema allweddol y digwyddiad oedd Cynllunio gyda’n gilydd i wella llesiant lleol: Beth sy’n gweithio?.

Denodd y digwyddiad dros 100 o bobl ac, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru, roedd cynadleddwyr hefyd o’r sector iechyd a’r trydydd sector.

Cafodd y digwyddiad ei agor gan Gadeirydd Bwrdd yr Uned Ddata, y Cynghorydd Jeff James, wedi ei ddilyn gan Christopher Stevens, Pennaeth Cangen Cynllunio a Phartneriaeth a Claire Germain Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru. Cynhaliodd Chris a Claire sesiwn holi ac ateb a symbylodd lawer o drafodaeth.

Hefyd clywsom oddi wrth Liz Zeidler, Prif Weithredwr Happy City. Rhannodd Liz brofiadau Happy City gan gynnwys eu dulliau a’u hymagweddau at lesiant cynaliadwy i bawb.

Yn ogystal, denodd y digwyddiad llawer o arddangoswyr:

Roedd nifer o sesiynau grwpiau trafod gyda siaradwyr o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Prifygsol Coventry, Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd, Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Cymdeithas, Iechyd a Llesiant Caerdydd (CISHeW).

Daeth Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, â’r diwrnod i ben gan rannu ei meddyliau ar yr asesiadau drafft ar lesiant lleol a’i disgwyliadau am y flwyddyn o’n blaen. Dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb gyda’r Comisiynydd.

Cyflwyniadau

Edrych yn ôl, edrych ymlaen

Christopher Stevens - Pennaeth Cangen Cynllunio a Phartneriaeth, Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Claire Germain - Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

Dysgu oddi wrth eraill (Saesneg yn unig)

Liz Zeidler - Cyfarwyddwr Gweithredol, Happy City

 

Sesiwn trafodaeth grŵp 1: Anghydraddoldebau llesiant – goblygiadau ar gyfer polisïau a chynlluniau

Matthew Steel - Pennaeth Cangen Ansawdd Bywyd, Tîm Ansawdd Bywyd, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

Cathryn Knight - Tîm Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

 

Sesiwn trafodaeth grŵp 4: Atal trais yn erbyn benywod a merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Emma Renold - Athro Astudiaethau Plentyndod, Prifysgol Caerdydd

Rhian Bowen-Davies - Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais arall ar Sail Rhywedd, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol, Llywodraeth Cymru

 

Sesiwn trafodaeth grŵp 5: O asesiadau o anghenion y boblogaeth i gynlluniau ardal

Tony Garthwaite - Cydymaith AGGC, Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGC)

Rebecca Cicero - Cydlynydd Rhaglenni, Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGC)

 

Sesiwn trafodaeth grŵp 6: Cefnogi cynllunio llesiant

Heledd Morgan a Tanya Nash, Penaethiaid Perfformiad, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

 

Sesiwn trafodaeth grŵp 7: Deall ac adeiladu cymunedau cydnerth

Dr. Eva Elliott - Ymchwilydd Academaidd ac Uwch Ddarlithydd, Sefydliad Cymdeithas, Iechyd a Llesiant Caerdydd (CISHeW)

 

Mae’r rhaglen ar gael yma. This document is also available in English.

  National intellignce Event cover

Y cyswllt - am ragor o wybodaeth

Jodie.Phillips@unedddatacymru.gov.uk