• This website is available in English

#

Dydd Iau 22 Tachwedd 2018

Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd

Bydd Data Cymru yn cynnal ei chweched Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol ddydd Iau 22 Tachwedd 2018 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Rydym ni wedi llunio rhaglen gyffrous gydag amrediad o bartneriaid cenedlaethol

Beth yw’r pwnc?

Mae deddfwriaeth newydd, disgwyliadau newydd a dulliau gwahanol o weithio yn golygu bod angen i’r sawl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru feddwl yn wahanol am sut maent yn gwerthuso ac yn mesur effeithiolrwydd ac effaith polisïau, gweithredoedd ac ymyriadau. Bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar beth mae hyn yn ei olygu, yn cynnig syniadau ac atebion ymarferol ac yn dangos sut allai’r rhain gael eu cymhwyso. Hefyd bydd cyfle i gwestiynau ac ystyriaethau’r cynadleddwyr ar y pwnc hwn gael eu codi a’u trafod.

Pwy ddylai fynychu?

Dylech chi fynychu os ydych:

  • Yn chwarae rôl arweiniol mewn corff cyhoeddus, bwrdd gwasanaethau cyhoeddus neu gorff arall sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus.
  • Yn gyfrifol am gyflwyno, neu gefnogi, cynlluniau llesiant - gan gynnwys y cynlluniau ardal a chynlluniau llesiant lleol.
  • Eisiau gwybod mwy am fesur a gwerthuso effaith polisïau ac ymyriadau.

Y lleoliad

Stadiwm Dinas Caerdydd
Ffordd Lecwydd
Caerdydd
CF11 8AZ

0845 365 1155
http://www.cardiffcityevents.com

Bydd manylion pellach ynghyd â gwybodaeth am sut i gofrestru ar gael cyn hir.