• This website is available in English

Newyddion Diweddaraf InfoBase - Mehefin

IBC Logo

Yma fe welwch yr holl newyddion InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

Prisiau tai cyfartalog (Ebrill 2024)

Mae’r data ar gyfer Ebrill 2024 am brisiau tai cyfartalog ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Gofrestrfa Tir yn ddiweddar.

Cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (Mai 2024)

Mae ffigyrau diweddaraf (Mai 2024) cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith nawr ar gael yn dilyn diweddariad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Set data'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (2023) - hunaniaeth genedlaethol

Mae’r set data 2023 hunaniaeth genedlaethol nawr ar gael yn dilyn diweddariad diweddar yr Arolwg Poblogaeth Flynyddol.

Data'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (2023) - ethnigrwydd

Mae setiau data 2023 ar gyfer ethnigrwydd ar gael yn dilyn diweddariad diweddar yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Data Allforion (chwarter diweddaraf, 2024)

Mae data Allforion Ionawr 2024 – Mawrth 2024 ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).

Cyfrif hawlwyr (Mai 2024)

Mae’r data am Mai 2024 ar nifer y bobl o oedran gweithio sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Tablau Daearyddiaeth (Mai 2024)

Rydym ni wedi cyhoeddi tabl cyfeirio daeryddiaeth diweddaraf (Mai 2024) i’ch helpu i ddeall pa awdurdod lleol, ward neu fwrdd iechyd lleol mae cod post ynddo.

Mae’r tabl hwn yn cynnwys enwau a chodau adnabod daearyddiaethau ystadegol Cymru, o’r cod post trwodd i’r bwrdd iechyd lleol, a sut maent yn ymwneud â’i gilydd.

Bydd y data yn cael eu diweddaru’n chwarterol yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Postio gan
y Golygydd / the Editor
30/05/2024
Categorïau: Diweddariadau data