• This website is available in English

Telerau ac Amodau Safonol ar gyfer Archebion Prynu.

Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru (“Data Cymru”)

  • Data Cymru – Prynwr – Ni
  • Y Cyflenwr – Gwerthwr – Chi

Nwyddau a Gwasanaethau (gan gynnwys holl ddefnyddiau a gweithiau)

  • 1. Mae’r holl dermau, amodau tendr ac unrhyw dermau penodol neu dermau sy’n cael eu cyfeirio at, yn ffurfio’r cytundeb hwn. Rhaid cytuno unrhyw derm(au) arall ar bapur.
  • 2. Wrth dderbyn yr archeb hon, rydych yn derbyn ein telerau ac amodau.
  • 3. Rhaid nodi rhifau archeb ar bob danfoneb, anfoneb ac ar unrhyw gyfathrebiad.
  • 4. Rhaid anfon pob anfoneb at Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru, Tŷ Llywodraeth Leol, Rhodfa Drake, Caerdydd, CF10 4LG, hyd yn oed os ydy’r nwyddau yn cael eu danfon i gyfeiriad gwahanol.
  • 5. Os ydych chi yn ymwybodol am unrhyw amrywiaeth mewn pris, ansawdd neu swm o’r hyn wedi’i nodi yn ein harcheb, rhaid i chi adael i ni wybod am hyn. Rhaid i ni gytuno ar hyn cyn i’r nwyddau cael eu danfon, neu cyn i chi darparu eich gwasanaethau, fel arall, ni fyddwn yn sicrhau taliad.
  • 6. Dim ond y gwerthwr wedi’i h/enwi ar yr archeb a gaiff ei th/dalu. Gwnawn daliad i enwebai’r gwerthwr trwy drefniant arbennig o flaen llaw yn unig.
  • 7. Rhaid i’r holl nwyddau a gwasanaethau cydymffurfio â safonau uchaf Sefydliad Safonau Prydeinig, heb law ein bod ni yn (a) cytuno safon is; neu (b) rydych chi yn ein hysbysu ni nad oes unrhyw safon berthnasol. Yn y ddau achos, wrth dderbyn hyn, rhaid i ni gytuno, o flaen llaw, ar bapur.
  • 8. Nid oes hawl gennych drosglwyddo budd yr archeb, neu ran ohoni, i berson arall heb ein caniatâd.
  • 9. Rhaid i ni gadarnhau unrhyw ildiad hawl neu ddiwygiad i unrhyw un neu’n fwy o’r termau hyn ar bapur. Os nad ydym, ni fydd yr ildiad hawl na’r diwygiad ag unrhyw effaith.
  • 10. Mae’r cytundeb wedi’i lywodraethu gan gyfraith Saesnig/Cymreig.

Nwyddau (gan gynnwys holl ddefnyddiau)

  • 11. Rhaid i chi sicrhau’r gost o gludiant a thâl post. Rhaid i chi ddanfon y nwyddau at y lleoliad wedi’i nodi ar yr archeb, neu efallai y caiff eu gwrthod.
  • 12. Rhaid i chi gael derbynneb ar gyfer yr holl nwyddau wedi’u danfon a rhoi copi i ni yn ôl y gofyn. Nid oes rhaid i ni dalu am unrhyw nwyddau tan i ni dderbyn tystiolaeth bod y nwyddau wedi’u danfon.
  • 13. Rhaid i chi gadw at ddyddiad ac amser danfon os ydym wedi nodi a chytuno hyn o flaen llaw. Os nad ydym wedi nodi dyddiad neu amser penodol, fe fydd y dyddiad ar y 14eg diwrnod yn dilyn dyddiad yr archeb am 3.00pm/15:00. Os ydy’r 14eg diwrnod yn cwympo ar ddiwrnod lle bod ein swyddfeydd ni ar gau, fe fydd y dyddiad danfon ar y diwrnod nesaf y bydd ein swyddfeydd ar agor. Mae ein swyddfeydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8yb/08:00 hyd at 5.00yp/17:00.
  • 14. Fe fydd yr holl eiddo sy’n berthnasol i’r nwyddau a defnyddiau sy’n gysylltiedig â’r archeb hon yn cael ei drosglwyddo i ni wrth iddynt gael eu danfon. Er hynny, os ydym ni wedi rhoi taliad neu randaliad i chi o flaen llaw sy’n gysylltiedig â’r archeb hon, fe fydd yr holl eiddo yn cael eu trosglwyddo i ni wrth i ni roi’r taliad i chi.
  • 15. Rydym yn cymryd yn ganiataol fod y prisiau wedi’u nodi gennych chi yn cynnwys yr holl gostau ar gyfer defnydd pacio a danfon, heb law i chi nodi fel arall ar bapur o flaen llaw cyn i chi dderbyn ein harcheb.
  • 16. Rhaid i chi nodi’n glir ar y ddanfoneb a’r anfoneb os, er enghraifft, mae’n rhaid i ni anfon unrhyw ddefnydd pacio yn ôl atoch. Fel arall, fe fyddwn ni yn ail defnyddio neu yn cael gwared â’r defnydd.
  • 17. Rhaid i chi symud unrhyw nwyddau o’n hadeilad o fewn 48 awr o’u danfon atom ni ar draul eich hunain os nad ydynt yn cydweddu â’r nwyddau wedi’u nodi yn yr archeb benodol.
    Os nad ydych yn gwneud hyn fe fyddwn ni’n trefnu bod y nwyddau yn cael eu hanfon yn ôl atoch ar draul eich hunain. Os ydym yn canfod, wrth i’r nwyddau cael eu danfon, nad ydynt yn cydweddu â’r disgrifiad yn yr archeb, fe fyddent yn cael eu symud o’n adeilad ar unwaith ar draul eich hunain.
  • 18. Rydym yn disgwyl i chi ad-dalu am unrhyw golled, difrod neu ddiffygion i’r nwyddau nad ydym ni yn gyfrifol am eu hachosi o fewn 14 diwrnod o dderbyn hysbysiad ar bapur oddi wrthym ni.
  • 19. Rhaid i chi farcio unrhyw nwyddau peryglus yn glir gyda’r arwydd rhyngwladol am sylweddau peryglus a’u henw yn Saesneg. Rhaid i’r nwyddau gael eu pacio, eu labeli a’u cludo yn unol â deddfwriaeth gyfredol, neu gytundebau sydd wedi’u cytuno’n gydwladol. Rhaid i chi roi’r wybodaeth i ni sy’n gysylltiedig â’r driniaeth, storfa, a defnydd cywir o’r nwyddau peryglus, yn Saesneg. Wrth i chi dderbyn a chytuno i’r termau ac amodau hyn, rydych yn ein hindemnio ni, ein staff a’n asiantaethau yn erbyn unrhyw golled, difrod neu niwed os ydych yn methu i gydymffurfio a’r termau ac amodau hyn.
  • 20. Ni fydd unrhyw daliad neu ran daliad wedi’u talu gennym ni, ar gyfer y nwyddau wedi’u nodi yn yr archeb benodol, yn golygu ein bod yn derbyn fod y nwyddau yn cydymffurfio â’r disgrifiad, ansawdd a’r swm o’r nwyddau wedi’u harchebu. Ni fydd unrhyw daliad o’r math yn rhagfarnu ein hawl i wrthod y nwyddau yn hwyrach.

Gwasanaethau (gan gynnwys gweithiau)

  • 21. Fe fydd y gwerthwr yn darparu’r holl lafur, nwyddau, offer a chyfarpar sydd angen er mwyn cyflawni’r gwasanaeth(au).
  • 22. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau cadarnhad ar bapur o unrhyw gyfarwyddiadau yr ydych yn derbyn ar lafar wrth weithio.
  • 23. Rhaid i chi ddarparu eich gwasanaeth(au) yn ystod ein horiau gwaith arferol, heb law i ni gytuno fel arall o flaen llaw, ar bapur.
  • 24. Rhaid i chi ad-dalu unrhyw ddiffygion sy’n bodoli neu sy’n ymddangos o fewn 12 mis o’r dyddiad i chi gwblhau’r gwasanaeth(au), ar draul eich hunain.
  • 25. Rhaid i chi gadw cofnodion digonol a chywir o’r gwasanaeth(au) yr ydych yn eu darparu, gan gynnwys amseroedd. Rhaid i chi gyflwyno’r cofnodion hyn i ni ar ddiwedd eich cyfnod o wasanaeth, neu ar bryd arall os ydym wedi cytuno mewn papur o flaen llaw.
  • 26. Rhaid i chi roi tystiolaeth o’ch statws treth i ni yn ôl y gofyn.
  • 27. Os ydych yn gweithio ar safle yn ein hadeilad, rhaid i chi gadw eich ardal gwaith yn lân ac yn daclus, a rhaid i chi gael gwared ag unrhyw nwyddau neu wastraff sy’n ormod yn rheolaidd.
  • 28. Heblaw i ni gytuno fel arall, rydym yn cymryd yn ganiataol fod y prisiau wedi’u nodi gennych yn cynnwys eich holl dreuliau cynhaliaeth a thrafaelio.