• This website is available in English
 

Ein gwaith data

Chwaraewn rôl ganolog mewn sicrhau bod data yn bodloni anghenion ein cynulleidfa ‘graidd’ drwy gynrychioli barn llywodraeth leol yng Nghymru ar faterion fel y Cyfrifiad, a data am y boblogaeth a mudo. Hefyd cadwn gyfoeth o ddata ar gael mewn mapiau, tablau ac adroddiadau yn ein system genedlaethol InfoBaseCymru. I weld y data sydd gennym yn InfoBaseCymru, defnyddiwch y ddewislen ar y dde. Hefyd gallwch chi weld rhywfaint o’n data mwyaf poblogaidd drwy ddefnyddio’r dolenni isod.

Meincnodi

Yn ogystal â’r data cenedlaethol sydd ar gael yn ein system InfoBaseCymru, cefnogwn lywodraeth leol a’i phartneriaid i gasglu data arall. Gallwn gefnogi’ch corff chi gyda’i anghenion casglu data. Gweithiwn ar draws gwasanaethau awdurdodau lleol yn barod i roi cymorth am weithgarwch meincnodi. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys darparu ffurflenni casglu, rheoli’r gweithgarwch casglu a darparu data mewn fformatau deallus defnyddiadwy. Rhowch gefnogaeth ar draws y mwyafrif o wasanaethau sy’n gweithredu mewn awdurdodau lleol.

Arolygon

Gallwn ddarparu cymorth hefyd am gasglu gwybodaeth ansoddol drwy arolygon a holiaduron. Unwaith eto, mae’r cymorth y gallwn ei roi cyn amrywio ar sail anghenion yr unigolyn. Gallwn helpu i ddatblydu a phrofi cwestiynau, yn ogystal â chynnig gwasanaeth arolygon ar-lein sy’n defnyddio meddalwedd cwbl ddwyieithog. Gallwn ddadansoddi canlyniadau’r arolwg hefyd.

Cysylltwch â ni i drafod sut allwn ni gefnogi’ch anghenion data chi.

Data

Dewch o hyd i wybodaeth am amddifadedd eich ardal, data am dai, trosedd a chyfansoddiad eich poblogaeth.

Gweld y data

Dewch o hyd i wybodaeth am iechyd plant yn eich ardal, yn ogystal â data am sut maent yn perfformio yn yr ysgol. Hefyd gallwch chi weld data am beth mae pobl ifanc yn ei wneud ar ôl cyrraedd diwedd eu haddysg orfodol.

Gweld y data

Dewch o hyd i wybodaeth am faint a mathau’r busnesau yn yr ardal, lefel enillion, a gweithgarwch economaidd y boblogaeth oedran gweithio. Hefyd gallwch chi weld data am y Lwfans Ceisio Gwaith a mathau eraill o fudd-dal.

Gweld y data

Dewch o hyd i wybodaeth am dull o fyw eich poblogaeth, y sawl sy’n defnyddio gwasanaethau meddygol, a’r sawl sy’n dioddef anghylderau meddygol sydd i gyd yn cael eu cymryd o Arolwg Iechyd Cymru. Hefyd gallwch chi weld data am ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn eich ardal, yn ogystal ag iechyd plant o feichiogi a gwybodaeth ddefnyddiol arall am iechyd.

Gweld y data

Dewch o hyd i wybodaeth am yr amgylchedd ffisegol, allyriannau CO2, maint traffig, defnydd ynni a risg llifogydd. Hefyd gallwch chi weld data am ansawdd y rhwydwaith ffyrdd ac anafusion ar y ffordd.

Gweld y data

Dewch o hyd i wybodaeth o Gyfrifiad 2011 am gyfansoddiad y boblogaeth, sy’n amrywio o sgiliau Cymraeg, neu sut mae pobl yn teithio i’r gwaith i’w statws priodasol.

Gweld y data

Mae’n ofynnol i gynghorau lleol ledled Cymru adrodd ar nifer o Ddangosyddion Perfformiad bob blwyddyn. Mae dau fath o ddangosydd, sef –Dangosyddion Strategol Cenedlaethol a bennir gan Lywodraeth Cymru, a Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus a bennir gan lywodraeth leol. Mae’r wybodaeth a ddangosir yma yn gyfuniad o’r ddwy set hyn o ddangosyddion.

Pecyn sydd wedi ei ddylunio i helpu aelodau’r cyhoedd deall sut mae eu cyngor lleol yn perfformio o’i gymharu â chynghorau eraill ledled Cymru.

Gweld FyNghyngorLleol Gweld y data

Rhai o'n gwaith...

InfoBaseCymru

Mae InfoBaseCymru’n cynnig mynediad rhwydd i amrediad eang o wybodaeth am Gymru.

FyNghyngorLleol

Pecyn sydd wedi ei ddylunio i ddod â data perfformiad i’r cyhoedd yw FyNghyngorLleol.

Systemau lleol

Mae systemau gwybodaeth lleol yn caniatáu i wneuthurwyr polisi a dinasyddion gyrchu, dadansoddi, mapio a lawrlwytho setiau data lleol a chenedlaethol yn gymharol rwydd.

Fframwaith Meincnodi Llywodraeth Leol (Yr Alban)

Pecyn sydd wedi ei ddylunio i ddod â data perfformiad i gyhoedd yr Alban yw ‘Fframwaith Meincnodi Llywodraeth Leol (Yr Alban)’.

Ariannu’r trydydd sector

Dengys y dadansoddiad a gyflwynir ariannu’r trydydd sector gan gynnwys gwybodaeth am ariannu ar ffurf grantiau a thaliadau am wasanaethau.

Nofio am Ddim Cymru

Mae’r dadansoddiad a roddir ar Nofio Am Ddim Cymru yn dangos data ar fapiau themataidd o Gymru, graffiau tueddiadau dros amser, adroddiadau gwerth ychwanegol a thablau data a all gael eu hallforio.

 

 

Diweddariadau data

IBC Logo

Yma fe welwch yr holl newyddion InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

Data Allforion (chwarter diweddaraf, 2023)

Mae data Allforion Hydref 2023 – Rhagfyr 2023 ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).

Cyfrif hawlwyr (Chwefror 2024)

Mae’r data am Chwefror 2024 ar nifer y bobl o oedran gweithio sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Tablau Daearyddiaeth (Chwefror 2024)

Rydym ni wedi cyhoeddi tabl cyfeirio daeryddiaeth diweddaraf (Chwefror 2024) i’ch helpu i ddeall pa awdurdod lleol, ward neu fwrdd iechyd lleol mae cod post ynddo.

Mae’r tabl hwn yn cynnwys enwau a chodau adnabod daearyddiaethau ystadegol Cymru, o’r cod post trwodd i’r bwrdd iechyd lleol, a sut maent yn ymwneud â’i gilydd.

Bydd y data yn cael eu diweddaru’n chwarterol yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).


y Golygydd / the Editor