• This website is available in English

Ymgysylltu â dinasyddion: Cyflwyniad i ddylunio a rhedeg grwpiau ffocws

Nod

I'ch cyflwyno i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i'ch helpu i ddylunio a rhedeg grŵp ffocws.

Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac wedi’i anelu at ddechreuwyr. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddylunio a rhedeg grŵp ffocws.

Cynnwys

Yn aml defnyddir grwpiau ffocws i ymgysylltu â grŵp bach o ddinasyddion i ddeall sut maen nhw'n teimlo am fater, polisi, cynnyrch, neu berson. Fel arfer maen nhw'n cynnwys chwech i wyth o gyfranogwyr yn cael eu harwain drwy drafodaeth gan un neu ddau o hwyluswyr.

Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i ddeall pam, sut a phryd byddech chi’n trefnu ac yn cynnal grŵp ffocws i gefnogi’ch gwaith chi.

Canlyniadau

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn deall:

  • beth yw grwpiau ffocws, eu pwrpas, a phryd i’w defnyddio
  • yr elfennau allweddol mae eu hangen i ddylunio grwpiau ffocws
  • sut i ddewis cyfranogwyr a sicrhau cyfranogiad, gan gynnwys dulliau i ennyn diddordeb - cyfranogwyr anodd-eu-cyrraedd
  • sut i redeg grŵp ffocws.

Diddordeb gennych?

Mae cyrsiau'n para tua 2.5 awr ac yn costio £50 ynghyd â TAW y cyfranogwr. I gadw lle ar y cwrs hwn ewch i TicketSoure i weld y dyddiadau a’r amserau sydd ar gael.

Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 am £750 a TAW. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau neu os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach, e-bost at ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Angen mwy o wybodaeth?

Image

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Sam Sullivan. Sam yw ein Pennaeth Ystadegau ac Ymchwil, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros ein holl waith lledaenu, arolygu a dadansoddi data.

029 2090 9581

Sam.Sullivan@data.cymru