• This website is available in English

Ydych chi’n dymuno creu diwylliant data o fewn eich sefydliad chi?
Ydych chi am adeiladu gallu pobl i weithio gyda data?
Yna does dim angen edrych ymhellach…

DataBasicCymru: creu diwylliant data

DataBasicCymru yw eich helpu i greu diwylliant data o fewn eich sefydliad chi.

Os ydych chi am wneud hyn eich hunan, ein rhaglen hyfforddiant DataBasicCymru di-dâl, ar-lein, hunan-wasanaeth yw beth mae ei angen arnoch chi …

Ond, os byddai’n well gennych gael eich cefnogi yn ystod eich taith ddata, mae ein pecyn hyfforddiant DataBasicCymru+ yn cynnig llwybr wedi’i hwyluso drwy’r rhaglen.

DataBasicCymru

Databasics

Mae rhaglen hyfforddiant DataBasic (y Data Culture Project), a gafodd ei datblygu’n wreiddiol gan ymchwilwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT), wedi’i dylunio i helpu unrhyw un mewn sefydliad, p’un a oes ganddyn nhw gyfrifoldeb am ddata neu beidio ac ni waeth ar ba radd mae eu swydd, i ddod yn fwy hyderus gyda data.

Mae’r rhaglen hyfforddiant yn cynnwys cyfres o ymarferion ar-lein, hunan-wasanaeth, am ddim, gweithdai (y mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dibynnu ar bapur, ysgrifbin a thrafod) a nifer fach o offerynnau a fydd i gyd yn eich helpu i adeiladu’r sgiliau sylfaenol mae eu hangen er mwyn defnyddio data’n fwy effeithiol mewn ffordd ddifyr a chreadigol. Bydd y fideos a’r canllawiau hwyluso yn tywys defnyddwyr trwy gynnal y rhaglen, naill ai iddyn nhw eu hunain neu grŵp mwy o faint.

Wedi gweithio’n agos gydag MIT i ddatblygu fersiwn berthnasol, ddwyieithog o’r rhaglen i Gymru, rydym ni, mewn cydweithrediad â Data Orchard CIC, yn dod â hi i Gymru!

Ewch i wefan DataBasicCymru.

DataBasicCymru+

Yn ogystal â DataBasicCymru, rydym ni hefyd yn cynnig DataBasicCymru+, ein pecyn hyfforddiant gyda hwylusydd.

Mae rhaglen hyfforddiant DataBasicCymru yn gweithio orau pan fydd llawer o bobl o fewn sefydliad yn cofrestru i ddilyn y rhaglen. Wedi’r cyfan, er bod angen sgiliau dadansoddol neu dechnegol arbenigol ar rai pobl, mae angen sgiliau sylfaenol mewn defnyddio data’n fwy effeithiol ar bob gweithiwr, a’r hyder i gael sgyrsiau ynglŷn â data.

Gyda’n pecyn DataBasicCymru+, byddwch chi’n gadael y gwaith caled i gyd i ni. Bydd hwylusydd personol yn cael ei aseinio i chi a fydd nid yn unig yn arwain yr holl sesiynau hyfforddiant ond a fydd hefyd yn gweithio gyda chi, ymlaen llaw, i ddylunio’ch pecyn hyfforddiant pwrpasol.

Diddordeb gennych?

Gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy’n addas i chi am hyd at 20 o gynrychiolwyr. Y gost yw:

  • Tu allan i lywodraeth leol - £3,500 a TAW
  • - Awdurdodau lleol Cymru - £2,800 a TAW

Angen mwy o wybodaeth?

Ieuan Wade

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch ag Ieuan Wade, sy’n arwain cyflwyniad DataBasicCymru a DataBasicCymru+.

029 2090 9534

Ieuan.wade@data.cymru