• This website is available in English

Data 101: cyflwyniad i ddeall a defnyddio data (ar gyfer Cynghorwyr)

Image

Nod

Eich cyflwyno i’r awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i’ch helpu i ddeall a defnyddio data yn effeithiol.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei anelu’n benodol at Gynghorwyr awdurdod lleol. Mae’n canolbwyntio ar ddeall a defnyddio data mewn perthynas â’ch rôl chi fel Cynghorydd.

Cwrs cyflwyniadol, lefel uchel, yw hwn sy’n cael ei anelu at ddechreuwyr a’r sawl sydd ond yn dechrau defnyddio data. Mae’n fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddulliau a’i gynnwys. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata nac ystadegau.

Cynnwys

Mae data yn sylfaenol i sut rydym ni’n gweithredu fel bodau dynol. Rydym ni’n defnyddio data bob dydd, llawer o weithiau y dydd, a hynny heb yn wybod i ni, yn fwy na thebyg. Data sy’n ein helpu i ddeall beth sy’n mynd ymlaen a beth sydd angen ei wneud.

Mae’n bwysig, felly, bod gennym ni’r data cywir a’n bod yn gallu ei ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig arweiniad ymarferol i helpu i feithrin sgiliau a hyder wrth ddeall a defnyddio data. Yn ein cwrs byddwn yn siarad am y gwahanol fathau o ddata a sut mae dod o hyd iddo. Byddwn ni’n eich arwain trwy gyfres o gwestiynau sy’n bwriadu helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall y data rydych chi’n gweithio gydag ef. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan rai technegau i helpu i droi data yn wybodaeth.

Canlyniadau

Erbyn diwedd y cwrs byddwn chi’n deall:

  • beth yw data a sut mae dod o hyd iddo
  • y cwestiynau mae angen i chi eu gofyn wneud yn siŵr eich bod chi’n deall data
  • rhai technegau sylfaenol ar gyfer defnyddio data.

Diddordeb gennych?

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach, neu os hoffech chi gadw lle ar y cwrs hwn, e-bostiwch Róisín.roberts@data.cymru or call 029 2090 9599.

Angen mwy o wybodaeth?

Image

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Róisín Roberts. Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad ac Ymgysylltu Data. Mae hi'n cefnogi ein gwaith ymgysylltu a gwella. Mae hi hefyd yn arwain ein rhaglen waith meithrin gallu.

029 2090 9599

Róisín.roberts@data.cymru