• This website is available in English

Deall a defnyddio data perfformiad

Image

Nod

Eich cyflwyno i’r awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i’ch helpu i ddeall, herio a defnyddio data perfformiad yn effeithiol.

Cwrs cyflwyniadol, lefel uchel, yw hwn sy’n cael ei anelu at ddechreuwyr a’r sawl sydd ond yn dechrau defnyddio data. Mae’n fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddulliau a’i gynnwys. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata nac ystadegau.

Cynnwys

Mae data perfformiad yn gadael i chi ddeall i ba raddau rydych yn bodloni amcanion eich sefydliad a ble mae angen i chi wella o bosibl. O’i ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol, mae’n gadael i chi wneud yn siŵr bod anghenion yn cael eu diwallu a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth.

Yn yr un modd ag unrhyw ddata, mae’n bwysig bod gennym ni’r data cywir a’n bod yn gallu ei ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig arweiniad ymarferol i helpu i feithrin sgiliau a hyder wrth ddeall, herio a defnyddio data.

Mae’n cael ei argymell, ond nid yw’n hanfodol, eich bod chi’n mynychu ein cwrs hyfforddiant ‘Data 101: cyflwyniad i ddeall a defnyddio data’ o flaen y cwrs hwn.

Canlyniadau

Erbyn diwedd y cwrs byddwn chi’n deall:

  • beth yw data perfformiad a sut mae dod o hyd iddo
  • beth mae angen i chi ei ystyried wrth weithio gyda data perfformiad
  • sut i ddefnyddio data perfformiad.

Diddordeb gennych?

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach, neu os hoffech chi gadw lle ar y cwrs hwn, e-bostiwch Róisín.roberts@data.cymru or call 029 2090 9599.

Angen mwy o wybodaeth?

Image

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Róisín Roberts. Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad ac Ymgysylltu Data. Mae hi'n cefnogi ein gwaith ymgysylltu a gwella. Mae hi hefyd yn arwain ein rhaglen waith meithrin gallu.

029 2090 9599

Róisín.roberts@data.cymru