• This website is available in English

Newyddion

  • IBC Logo

    Yma fe welwch yr holl newyddion InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

    Diweddariadau data Iechyd meddwl (chwarter diweddaraf, 2022)

    Mae data Hydref - Rhagfyr 2022 am iechyd meddwl ar gael nawr yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Bydd y diweddariad nesaf ar gael ym mis Mai 2023.

    Tablau Daearyddiaeth (Chwefror 2023)

    Rydym ni wedi cyhoeddi tabl cyfeirio daeryddiaeth diweddaraf (Chwefror 2023) i’ch helpu i ddeall pa awdurdod lleol, ward neu fwrdd iechyd lleol mae cod post ynddo.

    Mae’r tabl hwn yn cynnwys enwau, disgrifiadau, a chodau adnabod daearyddiaethau ystadegol Cymru, o’r cod post trwodd i’r bwrdd iechyd lleol, a sut maent yn ymwneud â’i gilydd.

    Bydd y data yn cael eu diweddaru’n chwarterol yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

    Prisiau tai cyfartalog (Rhagfyr 2022)

    Mae’r data ar gyfer Rhagfyr 2022 am brisiau tai cyfartalog ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Gofrestrfa Tir yn ddiweddar.

    Cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (Ionawr 2023)

    Mae ffigyrau diweddaraf (Ionawr 2023) cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith nawr ar gael yn dilyn diweddariad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Data Unit Logo

    Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein dangosfwrdd ‘Plant mewn tlodi’, sy'n dod â data ynghyd i’ch helpu i ddeall faint o blant sy’n byw mewn tlodi ledled Cymru a sut mae hyn wedi newid dros amser.

    Mae’r dangosfwrdd yn caniatáu ichi weld y data ar lefel awdurdod lleol Cymru a’r DU.

    Mae’r data’n seiliedig ar fodel a gynhyrchwyd gan y Glymblaid Dileu Tlodi Plant (Saesneg yn unig).


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Data Unit Logo

    Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein dangosfwrdd, sy’n dod â data chwyddiant ynghyd mewn un man i’ch helpu i ddeall y tueddiadau allweddol.

    Mae effaith chwyddiant yn rhywbeth rydym ni i gyd yn ei theimlo. Ond nid pob pris sydd wedi codi ar yr un gyfradd.

    Mae’r dangosfwrdd yn gadael i chi edrych ar y data yn ôl categorïau ac is-gategorïau i’ch helpu i ddeall pa nwyddau a gwasanaethau sy’n gyrru codiadau mewn prisiau.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • People_population

    Cyhoeddwyd y bedwaredd rownd o ddata o gyfrifiad 2021 ar 29 Tachwedd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Mae data ar gael ar lefel awdurdod lleol ac ardal leol. Mae'n cynnwys:

    • Ethnigrwydd
    • Hunaniaeth
    • Iaith
    • Crefydd

    Mae'r data hwn ar gael yn ddwyieithog yn InfoBaseCymru.

    Am ragor o wybodaeth am ddata’r cyfrifiad, cysylltwch â Sam Sullivan.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • People_population

    Ar 2 Tachwedd cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr ail rownd o ddata o gyfrifiad 2021.

    Mae data demograffeg a mudo ar gael ar lefel awdurdodau lleol ac ardaloedd lleol. Mae’n cynnwys:

    • Pob aelwyd
    • Blwyddyn cyrraedd y DU
    • Hyd preswylio yn y DU
    • Pasbortau a ddelir
    • Gwlad enedigol
    • Poblogaeth breswyl arferol
    • Dwysedd poblogaeth
    • Strwythur oedran (bandiau oedran pum mlynedd) yn ôl rhyw
    • Statws priodasol
    • Strwythur oedran.

    I’ch helpu i ddefnyddio a deall y data, rydym ni wedi:

    Am ragor o wybodaeth am ddata’r cyfrifiad cysylltwch â Sam Sullivan.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Knowledge

    Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad y ddwy gyntaf yn ein cyfres o Gymunedau Ymarfer â ffocws ar ddata. Nod y cymunedau hyn yw galluogi rhannu gwybodaeth, yn gadarnhaol ac yn adeiladol, ledled sector cyhoeddus Cymru am bob peth yn ymwneud â data. A hoffem ni eich gwahodd chi / eich sefydliad i gymryd rhan.

    Mae’r rhai cyntaf o’r Cymunedau Ymarfer, yn canolbwyntio ar:

    • PowerBI; a
    • Gwella mynediad i ddata.

    Mae Cymuned Ymarfer PowerBI ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn sector cyhoeddus Cymru sector ac yn defnyddio PowerBI i greu a rhannu delweddiadau data, neu sy’n awyddus i wneud hynny. Fel aelod o’r gymuned, byddwch yn gallu creu cysylltiadau â defnyddwyr eraill PowerBI, rhannu gwybodaeth, gofyn cwestiynau a meithrin sgiliau.

    Yn yr un modd, mae Cymuned Ymarfer Gwella mynediad i ddata ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn sector cyhoeddus Cymru ac sydd am annog a hwyluso mynediad gwell i ddata. Fel aelod o’r gymuned hon, byddwch yn creu cysylltiadau â chydweithwyr o’r un anian er mwyn rhannu, datblygu a hyrwyddo arfer da mewn perthynas â mynediad i ddata a rhannu data.

    Felly, os credwch y byddech chi’n elwa o fod yn rhan o’r cymunedau newydd cyffrous hyn, cymerwch gip ar ein tudalen we Cymunedau Ymarfer webpage am fanylion sut mae cymryd rhan.

    Edrychwn ymlaen at gysylltu â chi.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • People_population

    Cyhoeddwyd y gyfran gyntaf o ddata o gyfrifiad 2021 ar 28 Mehefin gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae data ar gael ar lefel awdurdodau lleol ac yn cynnwys

    • Poblogaeth breswyl arferol yn ôl rhyw a grŵp oedran 5-mlynedd;
    • Dwysedd y boblogaeth breswyl arferol; a
    • Nifer yr aelwydydd.

    I’ch helpu i ddefnyddio a deall y data, rydym wedi datblygu cyfres o adnoddau, sy’n cynnwys:

    Am ragor o wybodaeth am ddata’r cyfrifiad, cysylltwch â Sam Sullivan.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Data Unit Logo

    Ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am gasglu a defnyddio data? Ydych chi’n gweithio gyda data ac eisiau cael rhagor o werth ohono? Ydych chi’n ystyried ehangu’ch sgiliau?

    Rydym ni wedi datblygu cyfres o gyrsiau hyfforddiant a fydd yn eich cyflwyno i:

    • Ystadegau cryno
    • Cyflwyno data
    • Dylunio a dadansoddi arolygon
    • Cynllunio a chyflwyno grwpiau ffocws.

     

    Mae cyrsiau wedi'u hanelu at gydweithwyr llywodraeth leol. Sylwch fod uchafswm o ddau gynrychiolydd y cyngor. I gyd-fynd â’r hyfforddiant hwn, byddwn yn cyhoeddi cyfres o arweiniadau yn ogystal. Cynhaliwn ni 16 o sesiynau am ddim drwy gydol y flwyddyn; un o bob un y chwarter! 

    Gallwch chi gadw lle ar ein cyrsiau trwy gyfrwng Tocyn Cymru, ein partner trefnu lleoedd.

    Dewis arall, os oes gennych bedwar neu fwy o bobl o un sefydliad sy’n ymddiddori mewn mynychu cwrs, yw i ni gyflwyno’r hyfforddiant i chi ar adeg a dyddiad sy’n addas i chi, a fydd efallai’n fwy cyfleus a chost-effeithiol. Cysylltwch â Sam Sullivan os hoffech chi drafod eich gofynion chi’n fanylach.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Data Unit Logo

    Rydym wedi cyhoeddi ein dangosfwrdd data llesiant Cymru.

    Mae dangosfwrdd yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol gan gynnwys:

    • Cymru lewyrchus
    • Cymru gydnerth
    • Cymru sy’n fwy cyfartal
    • Cymru Iachach
    • Cymru o Gymunedau Cydlynus
    • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynu
    • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

    Dangosir data, lle bo’n bosibl, ar lefel awdurdodau lleol. Pan nad yw data lleol ar gael, dangosir data ar lefel Cymru. Ei nod yw helpu defnyddwyr i ddeall y sefyllfa bresennol mewn perthynas â phob un o’r dangosyddion a sut mae hyn yn amrywio dros amser a thros Gymru.

    O’r dudalen hafan gallwch chi ddewis unrhyw rai o’r nodau llesiant. Dangosir gwybodaeth am lesiant yn yr ardal honno i chi gan ddefnyddio chwech o fesurau’r nod dan sylw. Yna gallwch chi ddewis edrych ar yr holl ddata am y nod hwnnw neu ddewis nod arall.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Data Unit Logo

    Rydym wrth ein bodd i lansio amrediad o gyfleoedd hyfforddiant fel rhan o’n rhaglen adeiladu capasiti.

    Mae ein cyrsiau hyfforddiant yn cael eu harwain gan arbenigwyr yn eu maes a byddant yn cael eu cyflwyno ar-lein.

    Cymerwch eich amser i bori trwy ein cyfres o gyrsiau hyfforddiant, sy’n hoelio sylw ar:

    I gyd-fynd â’r hyfforddiant hwn, byddwn yn cyhoeddi cyfres o arweiniadau hefyd.

    Gallwch chi gadw lle ar ein cyrsiau trwy gyfrwng Tocyn Cymru, ein partner trefnu lleoedd. Dewis arall, os oes gennych bedwar neu fwy o bobl o un sefydliad sy’n ymddiddori mewn mynychu cwrs, yw i ni gyflwyno’r hyfforddiant i chi ar adeg a dyddiad sy’n addas i chi, a fydd efallai’n fwy cyfleus a chost-effeithiol.

    Cysylltwch â Sam Sullivan os hoffech chi drafod eich gofynion chi’n fanylach.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor