![hand book Blog](/data/style/datacymru/assets/img/blog/hand_book.jpg)
Cynhaliom ni’n digwyddiad data agored cyntaf ym Mae Colwyn yng Ngorffennaf a’r ail un yng Nglynebwy ym Medi. Diolch o galon i bawb a fynychodd. Cawsom gipolwg da ac adborth cadarnhaol. At ei gilydd, roedd yn dda iawn gen i weld cymaint o waith a oedd eisoes yn mynd yn ei flaen yng Nghymru a’r archwaeth i fwrw ymlaen a gwneud rhagor. Mae yna ymdeimlad gwirioneddol o fomentwm yn tyfu.
Dwedais i hyn yn ein digwyddiadau, ond ers ysgwyddo mantell data agored yn Data Cymru, mae un o’r heriau mwyaf dyrys wedi dod o ganlyniad i’n sefyllfa eithaf unigryw o fewn Cymru. Rydym ni’n sefydliad sy’n ymwneud â bron pob agwedd ar ddata – rydym ni’n ei gasglu gan awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, rydym yn ei gyrchu gan ddarparwyr data, rydym ni’n ei reoli yn ein systemau mewnol, ac yn ei ledaenu/rannu drwy lu o offer. Yn syml, rydym ni’n trafod bron popeth mewn perthynas â data!
Felly, rydym ni mewn sefyllfa ardderchog i hyrwyddo a gwneud Cymru yn wlad arloesol o ran defnydd data agored. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein pecyn cymorth yn briodol ac yn cael ei dargedu’n dda.
Mae’r digwyddiadau wedi helpu’n fawr iawn i egluro’r heriau rydych chi’n eu hwynebu a’r atebion y cawn ni eu cynnig.
Felly, beth yw’r prif heriau?
Gwneud yr achos busnes
Roeddem ni wedi clywed llawer o’r blaen sut gall achos busnes gael ei wneud o fewn cyrff cyhoeddus drwy ganolbwyntio ar bethau fel ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Gall y rhain lyncu amser ac arian - beth am ddim ond ryddhau’r data mewn fformat agored? Beth nad oeddem ni wedi ystyried yw pa mor anodd mae’n gallu bod i feintioli amser a chost rhyddhau’r wybodaeth hon - drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth ac mewn fformatau data agored. Sut mae gwneud achos busnes dros agor data os nad oes modd mesur yr arbedion busnes?
![head hands Blog](/data/style/datacymru/assets/img/blog/head_hands.jpg)
Trechu ofn
Mae pobl yn gallu ofni gosod data yn y parth cyhoeddus – boed oherwydd pryderon diogelu data, ofn y bydd y wasg yn hoelio sylw ar ffigurau sydd o bosib yn negyddol, neu bryderon am ansawdd/cadernid y data.
![blocks Blog](/data/style/datacymru/assets/img/blog/blocks.jpg)
Timau datgysylltiedig
Mae rhyddhau data yn gallu bod yn anodd pan fydd timau cyflenwi gwasanaethau, staff TG, a dadansoddwyr data yn aml yn ddatgysylltiedig gan eistedd yn eu parthau gwahanol ar draws awdurdod lleol. Gwyddom o brofiad fod angen i bawb gymryd rhan yn y broses.
Safonau
Mynegodd llawer o gydweithwyr bryderon am ansawdd data mewnol ac anhawster posibl ei gymharu ag eraill. Roeddent yn teimlo bod awdurdodau lleol, yn achos llawer o ddarnau o ddata, yn fwy na thebyg yn gwneud pethau ychydig yn wahanol i’w gilydd ac felly’n ansicr a allai’r data fod yn ddefnyddiol. Gwyddom o’n profiad ein hunain y gall gymryd cryn amser a gwaith i setiau data gael eu safoni a bod yn gyffredin ledled Cymru.
Dwyieithrwydd
Mae’r angen i ryddhau data yn ddwyieithog – yn enwedig gyda set dda o fetadata Cymraeg – yn gallu bod yn her.
Ehangu graddfa/gwneud pethau 22 o weithiau
Ac ar ben hyn i gyd, mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Nid yw’n gwneud llawer o synwyr i bob un o’r 22 fod yn gwneud yr un pethau’n unigol, er enghraifft cyfieithu enwau eitemau data… Ond ar y llaw arall, mynegodd rhai cydweithwyr eu rhwystredigaeth gydag ymgeisiau blaenorol i weithio’n gydweithredol a’r heriau wrth ehangu graddfa ‘r agenda data agored.
Roedd gan bobl rai syniadau ardderchog, yr oedd rhai’n cyd-fynd â’n meddwl ni a rhai a oedd yn newydd…
Beth allwn ni ei gynnig?
Hyb Data Agored
Mae llawer yn galw am le canolog i gynnal data agored i Gymru. Gyda 22 awdurdod lleol, nid yw’n gwneud synwyr i bob un greu ei un ei hun. Mae rhai awdurdodau wedi dweud wrthym ni nad yw’n hyfyw’n ariannol iddynt weithio ar eu pen eu hun. Hefyd, drwy ddod â data ynghyd mewn un lle, mae’n gwneud pethau’n llawer haws i ddefnyddwyr data agored - a hefyd gallwn ymdrin ar y cyd â llawer o’r heriau rydym ni’n eu hwynebu. Rydym ni wrthi’n datblygu manyleb am ba olwg allai fod ar Hyb o’r fath a’r nodweddion a fydd ganddo. Mwy o fanylion i ddilyn!
![hands clasped Blog](/data/style/datacymru/assets/img/blog/hands_clasped.jpg)
Adeiladu’r gymuned data agored
Sut mae cyrraedd y bobl a fydd yn gwneud pethau arloesol gyda Data Agored? Beth oes arnyn nhw ei eisiau? Ydym yn gofyn iddyn nhw “Pa ddata dylwn ni ei ryddhau?” neu fabwysiadu ymagwedd “Crëwch ef a byddan nhw’n dod”? Dyma drafodaeth rydym ni wedi ei chlywed dro ar ôl tro. Mae angen i ni weithio gyda’n rhwydweithiau i holi’r sector preifat, dinasyddion-weithredwyr, ac academia… ond mae angen i ni gydnabod hefyd bod cymuned allan yno a fydd yn edrych ar ba ddata sydd ar gael, yn ‘chwarae’ gydag ef, ac yn cynhyrchu pethau gwych.
Cytuno ar set ddata data agored gychwynnol
Roedd awydd cryf i ni weithio gydag awdurdodau lleol i gytuno ar set ddata gychwynnol i Gymru gyfan i’w ryddhau fel ‘Data Agored’. Drwy wneud hyn, gallai Data Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i greu set ddata safonedig gwbl ddwyieithog o’r radd flaenaf yn gyflym.
![charts graphics Blog](/data/style/datacymru/assets/img/blog/chart_graphics.jpg)
Setiau offer
O ran gwaith beunyddiol, rydym yn cydnabod bod angen help ar rai cydweithwyr i ddeall beth yw Data Agored a beth all gael ei ryddhau. Tu allan i Gymru, mae gormod o enghreifftiau o ‘Hybiau Data Agored’ sgleiniog sy’n gwneud pob math o bethau ond yn cynnwys ychydig iawn o ddata. Rydym ni’n gweithio i greu ein hoffer ein hunain ac addasu rhai sy’n cael eu defnyddio gan y Sefydliad Data Agored (ODI) i helpu yn hyn o beth.
Felly, beth nesaf? Ein gobaith yw cadw’r drafodaeth i fynd wrth i ni lunio cynigion pendant. Rydym wedi creu’r Rhwydwaith Rhithwir Data Agored i gadw mewn cysylltiad â chydweithwyr a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am beth sy’n digwydd. Mae’r grŵp yn “agored” felly cysylltwch â ni os hoffech chi fod yn rhan ohono. Byddwn ni’n rhannu rhai o’n syniadau drwy gyfrwng y blog yma felly cadwch lygad allan am fwy o fanylion am yr Hyb Data Agored wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen!
Ynglŷn â’r awdur