Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn gofod3, y digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o'i fath yng Nghymru.
Trefnir gofod3 gan CGGC ar y cyd â’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Eleni, am y tro cyntaf ers 2019, mae gofod3 yn cael ei gynnal fel digwyddiad wyneb yn wyneb ar 5 Mehefin 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Rydym yn falch iawn o fynychu gofod3 fel arddangoswr! Dewch i gwrdd â ni ynghyd ac ystod eang o arddangoswyr o’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat yn y farchnad ryngweithiol a gwneud cysylltiadau a allai helpu i fynd â’ch gwaith i’r lefel nesaf.
Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwyr neu’n bob un o’r rhain, gofod3 yw eich gofod unigryw i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.