Ein pobl yw ein hased pennaf. Seilir ein polisïau a’n harferion ar egwyddorion cydraddoldeb a lles, gan sicrhau bod gan ein holl bobl brofiad gwaith cadarnhaol.
Rydym yn annog ac yn hyrwyddo datblygiad staff er mwyn darparu safonau gwasanaeth uchel. Rydym wedi cadw ein statws Buddsoddwyr mewn Pobl yn ddi-dor ers 2001.
Rydym yn cydnabod mai gwaith yw un agwedd yn unig ar fywyd rhywun – felly rydym wedi ceisio sicrhau bod gan ein pobl y rhyddid a’r hyblygrwydd i gyflawni eu gwaith yng nghyd-destun eu bywyd tu allan i’r gwaith. Er bod gennym ffocws cryf ar gyflawni, mae ein polisïau a’n hisadeiledd wedi eu dylunio i gefnogi gwaith hyblyg, o bell, gan ei gwneud yn haws i’n pobl gydbwyso galwadau cartref a gwaith.