• This website is available in English

Posts From Medi, 2015

  • Darllennwch yr adroddiad dadansoddi diweddaraf am ddata Nofio Am Ddim sy’n dangos y tueddiadau yng Nghymru

    Gweithiwn ar y cyd â Chwaraeon Cymru i gasglu, dadansoddi ac adrodd am ddata Nofio am Ddim oddi wrth awdurdodau lleol yng Nghymru.

    Nod y gwaith hwn yw gwerthuso effaith y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru drwy ddefnyddio’r data yn effeithiol.

    Dyma rai o’r prif bwyntiau o ddata 2014-15:

    • Bu lleihad o 26% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl ifanc, o’u cymharu â 2013-14.
    • Mae’r grŵp oedran 60 ac yn hŷn wedi gweld lleihad o 9% mewn nofio cyhoeddus am ddim hefyd, o’u cymharu â 2013-14.

    Dysgwch fwy a gweld sut mae cyfranogiad yn eich awdurdod chi drwy fynd i’n hoffer Nofio am Ddim.

    I weld adroddiad 2014-15 cliciwch y ddelwedd isod. Sylwch fod yr adroddiad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

    Free Swimming Logo

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Data Unit Logo

    Mae perfformiad awdurdodau lleol yn parhau i wella

    Mae data am 2014-15 yn dangos bod perfformiad ALi wedi gwella mewn 63% o ddangosyddion

    Mae adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mercher Medi 2 yn dangos bod perfformiad wedi gwella mewn 63% o ddangosyddion cymaradwy i’w gymharu a 2013-14. Mae’r bwlch mewn perfformiad (rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai gwaethaf) wedi’i gulhau mewn dros hanner o’r dangosyddion.

     


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • MyLocalCouncil Logo

    Ffordd rwydd o weld sut mae FyNghyngorLleol yn perfformio

    Diweddarwyd gwefan FyNghyngorLleol sy’n bwriadu eich helpu i ddeall sut mae’ch cyngor lleol yn perfformio gyda’r data diweddaraf am berfformiad awdurdodau lleol ar gyfer 2014-15.

    Mae’r wefan yn gadael i chi weld sut mae’ch awdurdod yn cymharu ag eraill ledled Cymru, sut mae’n cymharu â chyfartaledd Cymru, a sut mae ei berfformiad wedi amrywio dros y blynyddoedd diwethaf.

    I gyd-fynd â chyhoeddi data perfformiad 2014-15, mae rhai cyfleusterau newydd wedi cael eu hychwanegu at y safle. Erbyn hyn gallwch chi:

    • Weld adroddiad ‘Perfformiad cenedlaethol’ sy’n rhoi crynodeb o berfformiad Cymru ar draws y dangosyddion cenedlaethol a sut mae’n cymharu â blynyddoedd blaenorol.
    • Gweld gwybodaeth am boblogaeth eich cyngor i helpu i roi perfformiad eich cyngor lleol yn ei gyd-destun.
    • Gweld adroddiad ‘Perfformiad cryno’ sy’n dangos sut mae perfformiad eich cyngor chi’n cymharu â blynyddoedd blaenorol a sut mae’n cymharu â pherfformiad cynghorau eraill. Mae’n dangos hefyd sut mae pobl sy’n byw yn eich ardal chi yn teimlo am y cyngor.
    • Gweld adroddiadau eraill mewn perthynas â pherfformiad y cyngor a ddewiswch, gan gynnwys y rhai a gynhyrchir gan y cyngor a’r rhai a gynhyrchir gan ei reoleiddwyr.
    • Chysylltu’n syml â’r tîm perfformiad o fewn y cyngor a ddewiswch drwy glicio botwm.

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor