• This website is available in English

Posts From Medi, 2016

  • Darllennwch yr adroddiad dadansoddi diweddaraf am ddata Nofio Am Ddim sy’n dangos y tueddiadau yng Nghymru.

    Gweithiwn ar y cyd â Chwaraeon Cymru i gasglu, dadansoddi ac adrodd am ddata Nofio am Ddim oddi wrth awdurdodau lleol yng Nghymru.

    Nod y gwaith hwn yw gwerthuso effaith y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru drwy ddefnyddio’r data yn effeithiol.

    Dyma rai o’r prif bwyntiau o ddata 2015-16:

    • Bu lleihad 26% a 25% mewn cyfranogiad mewn nofio cyhoeddus am ddim yn y drefn honno ymhlith gwrywod a menywod 16 oed ac yn iau, o’i gymharu â 2014-15.
    • Mae’r grŵp oedran 60 ac yn hŷn wedi gweld lleihad o 4% mewn cyfranogiad mewn nofio cyhoeddus am ddim, o’i gymharu â 2014-15.

    Dysgwch fwy a gweld sut mae cyfranogiad yn eich awdurdod chi drwy fynd i’n hoffer Nofio am Ddim.

    I weld adroddiad 2015-16 cliciwch y ddelwedd isod. Sylwch fod yr adroddiad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.

    Free Swimming

    Free Swimming


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Perfformiad

    Mae perfformiad awdurdodau lleol yn parhau i wella…

    Mae data am 2015-16 yn dangos bod perfformiad ALi wedi gwella mewn 65% o ddangosyddion.

    Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddi gan yr Uned Ddata yn dangos bod perfformiad wedi gwella mewn 65% o ddangosyddion cymaradwy i’w gymharu a 2014-15.

    Mae’r bwlch mewn perfformiad (rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai gwaethaf) wedi’i gulhau mewn dros hanner o’r dangosyddion.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • MLC

    Ffordd rwydd o weld sut mae FyNghyngorLleol yn perfformio...

    Heddiw diweddarwyd gwefan sy’n bwriadu helpu’r cyhoedd i ddeall sut mae eu cyngor lleol yn perfformio gyda’r data diweddaraf am berfformiad awdurdodau lleol ar gyfer 2015-16.

    Mae’r wefan yn gadael i ddefnyddwyr weld sut mae eu hawdurdod nhw yn cymharu ag eraill ledled Cymru, sut mae’n cymharu â chyfartaledd Cymru, a sut mae ei berfformiad wedi amrywio dros y blynyddoedd diwethaf.

     


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor