• This website is available in English

Gwefan Dewis Cymru – y lle ar gyfer llesiant yng Nghymru

Mae gwefan i helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau cymorth lleol yng Nghymru
a dod o hyd i wybodaeth a chyngor mae arnyn nhw ei angen i wella eu llesiant ar gael nawr.

Mae gwefan Dewis Cymru, a gafodd ei lansio yng Nghynhadledd Genedlaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddatblygiad pwysig cwbl newydd i Gymru – un pwynt mynediad clir a dibynadwy y mae’r cyhoedd yn gallu ei ddefnyddio, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol gwasanaethau gofal ledled Cymru, i helpu i gefnogi pobl i gyflawni eu nodau llesiant.

Mae’r wefan yn rhan o ddarpariaeth barhaus Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), sy’n amlygu sut mae darpariaeth gwybodaeth o’r radd flaenaf yn chwarae rhan ganolog wrth helpu pobl i arro syn annibynnol, rheoli eu llesiant a siapio’r gwasanaethau gofal maen nhw’n eu derbyn.

Ar hyn o bryd mae gan Dewis Cymru wybodaeth leol am Ogledd Cymru, Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Bydd gwybodaeth leol am ardaloedd eraill yn cael ei hychwanegu cyn bo hir.

Ewch i Dewis Cymru yn www.dewis.cymru.

Dilynwch ni ar Twitter @dewiscymru a’n hoffi ni ar Facebook.com/dewiscymru neu cysylltwch â ni drwy e-bost yn help@dewis.wales.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
28/07/2016