• This website is available in English

Proffilio Lleoedd Cymru: Diweddariad Mawrth!

Rydym wedi lansio’r datganiad diweddaraf i’n hofferyn Proffilio Lleoedd Cymru.

Nod yr offeryn yw cefnogi awdurdodau lleol Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, deall sut mae lleoedd yn newid dros amser a deall llesiant ar lefel gymunedol yn well. Mae’r offeryn yn cynnwys data am 192 o ddaearyddiaethau Ardal Adeiledig (BUA) gyda poblogaeth Cyfrifiad 2011 o 2,000 neu fwy.

Yn sgîl lansiad llwyddiannus ein hofferyn yn 2019, rydym wedi parhau i ddiweddaru a datblygu’r offeryn ymhellach, mae’r datganiad diweddaraf yn cynnwys:

  • mapio gorsafoedd trenau a data am gymudwyr;
  • cysylltu’r gwasanaethau iechyd a llesiant lleol â chyfeiriadur Dewis Cymru;
  • ychwanegu data MALlC 2019;
  • gwelliannau i fetadata’r Cyfrifiad; yn ogystal â
  • diweddariadau ymarferol eraill.

Mae gennym gynlluniau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio o Gyfrifiad 2021. Yn y cyfamser, byddwn yn chwilio am fewnbwn oddi wrth ddefnyddwyr wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Tom.brame @data.cymru.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
02/03/2020