• This website is available in English

Posts From Mai, 2016

  • Data Unit Logo

    Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod gofyniad ar Fwrdd Gwasanaethau Lleol (PSB) i baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant yn ei ardal. Caswom gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ‘set ddata cyffredin’ er mwyn gynorthwyo’r gwaith.

    Rydym wedi datblygu’r set ddata gan ddefnyddio’r pedair thema: llesiant cymdeithasol; economaidd; diwylliannol; ac amgylcheddol gan geisio adeiladu ar brofiad asesiadau blaenorol a cyhoeddiad diweddar y set o ddangosyddion cenedlaethol.

    Mae ymgysylltu â chydweithwyr partneriaeth, a chael eu mewnbwn, wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygu’r set ddata ac rydym wedi defnyddio rhwydweithiau lleol a rhanbarthol yn ogystal â grwpiau rhwydwaith cenedlaethol sefydledig i ategu hyn.

    Gall y set ddata hon fod yn fan cychwyn i PSBs ledled Cymru ddechrau asesu llesiant yn yr ardal a chynhyrchu’r asesiad. Bydd yn rhan yn unig o’r sylfaen dystiolaeth y bydd PSBs yn dymuno ei defnyddio i ategu eu hasesiadau, sy’n debygol o gynnwys tystiolaeth a gwybodaeth leol hefyd gan gynnwys barn dinasyddion. Nod y set ddata gyffredin hon yw cynyddu cysondeb a lleihau dyblygu gwaith wrth ddatblygu’r asesiadau ledled Cymru. Bwriedir iddi ganiatáu am hoelio mwy o sylw ac adnoddau ar ddadansoddi’r data a chysondeb rhwng partneriaid sy’n cefnogi mwy nag un PSB.

    Mae’r set ddata ar gael nawr yma.

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech drafod sut gall yr Uned Ddata gynnig cefnogaeth bellach, cysylltwch â Chris Perkins neu ffoniwch 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Rydym wedi diweddaru’n cynnig ar gyfer data rhaglen mesur plant yn InfoBaseCymru. Erbyn hyn mae gennym ddata am nifer y bechgyn, merched a phlant sy’n ordrwm neu’n ordew. Mae hyn ar gael ar lefel yr awdurdod lleol. Dengys y data fod 26.2% o blant yn Nghymru yn ordrwm neu’n ordew ym MA 2014/15, o’u cymharu ag 26.5% yn 2013/14.

    Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y data hwn, cysylltwch â ni yn ymholiadau@unedddatacymru.gov.uk neu 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • IBC Logo

    Rydym wedi diweddaru’n cynigion ar gyfer data Rhaglenni dysgu seiliedig ar waith (Prentisiaethau) yn InfoBaseCymru. Erbyn hyn cadwn ddata ar niferoedd y rhaglenni dysgu seiliedig ar waith fesul sector diwydiant. Mae hyn ar gael ar lefel awdurdodau lleol.

    Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y data hwn, cysylltwch â ni yn ymholiadau@unedddatacymru.gov.uk neu 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Roeddem ni wrth ein bodd i fwy na 100 i gynadleddwyr ddod i’r digwyddiad, gan gynrychioli dros 40 o sefydliadau.

    Mae’r adborth o’r digwyddiad wedi bod yn bositif iawn. Yn ôl dadansoddiad o’r ffurflenni gwerthuso:

    Roedd 100% o’r ymatebwyr yn meddwl bod y cynnwys yn berthnasol

    Roedd 100% o’r ymatebwyr yn meddwl bod y cynnwys yn ddefnyddiol

    Roedd canmoliaeth fawr am ein trefniadau cyn y digwyddiad hefyd, gyda 98% o’r ymatebwyr yn cytuno iddynt dderbyn yr holl fanylion angenrheidiol i’w galluogi i fynychu’r gynhadledd.

    O ran trefniadaeth gyffredinol y digwyddiad, dwedodd 91% o’r ymatebwyr ei bod yn dda iawn.

    Roedd sylwadau’n cynnwys:

    ‘Un o’r cynadleddau gorau, mwyaf defnyddiol dwi wedi eu mynychu ers sbel.’

    ‘Roedd cynnwys y digwyddiad – y siaradwyr/ y cyflwyniadau a’r gweithdai a fynychais o ansawdd uchel, yn berthnasol i’r pwnc ac i’m rôl a chyfrifoldebau i.’

    ‘Roedd amseriad y sesiwn yn berffaith am gyflwyniad y deddfau newydd ac roedd y ffocws ar y materion ymarferol yn werthfawr iawn ac yn union y math o beth dylai’r digwyddiadau hyn ei wneud.’

    Mae fideos o’r prif gyflwyniadau wedi cael eu postio ar-lein hefyd. Mae’r rhain ar gael ar sianel YouTube Uned Ddata Cymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: NIE
  • Homepage Welsh image

    Dylai’r dyluniad a’r diwyg newydd ei gwneud yn haws i chi welywio a dod o hyd i’r hyn rydych ei eisiau’n gyflym. Ymhlith y nodweddion newydd sy’n haeddu sylw mae:

    • cynnwys wedi ei ystwytho
    • mynediad uniongyrchol a chyflym i ddata
    • portffolio newydd sy’n arddangos ein gwaith.

    Gobeithiwn eich bod chi’n hoffi’n gwefan newydd. Cysylltwch â ni a rhowch wybod beth yw’ch barn chi!


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Rydym ni’n diweddaru ac yn cynnwys data newydd yn InfoBaseCymru yn rheolaidd ac rydym ni nawr wedi mynd cam ymhellach.

    Rydym wedi diweddaru ei olwg ac addasu diwyg y data er mwyn iddi fod yn haws i chi welywio a dod o hyd i’r data mae arnoch ei eisiau’n gyflym.

    Mae newidiadau eraill yn cynnwys:

    • Trendio – y 5 eitem ddata ac adroddiad mwyaf poblogaidd;
    • Nodweddion – mynediad cyflym i’r dulliau arloesol rydym ni’n defnyddio’r data; a
    • Llithrydd newyddion – ffordd apelgar o amlygu data pynciol.

    Byddwn yn parhau i ychwanegu data newydd wrth iddo ddod ar gael ac i adolygu’r cynnwys yn gyson i wneud yn siŵr ei fod yn bodloni’ch anghenion chi.

    Mae’r gwelliannau yn golygu y bydd rhai o’r dolenni rydych o bosib wedi bod yn eu defnyddio wedi newid. Os oes angen unrhyw help arnoch chi, mae ond angen cysylltu â ni.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar am ddata Cynllunio’r Gweithlu Gweithwyr Cymdeithasol 2014-15. Nod yr adroddiad yw cefnogi awdurdodau lleol a Chyngor Gofal Cymru wrth gynllunio am anghenion y gweithlu yn y dyfodol a llywio comisiynu hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.

    Dengys yr adroddiad nifer y gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a hynny mewn Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a meysydd eraill. Mae’n edrych hefyd ar dueddiadau’r gweithlu dros amser a throsiant staff a’r gweithlu rhagamcanol dros y tair blynedd nesaf.

    I weld adroddiad 2014-15 cliciwch y ddelwedd isod.

    SWWP image


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor