• This website is available in English

Beth yw CCSR?

Gwasanaeth yw’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant (CCSR) (https://www.ccsr-wales.net) sy’n bwriadu cefnogi’r broses o ddod o hyd i leoliadau gofal priodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Menter ar y cyd ydyw gan Gonsortiwm Comisiynu ar gyfer Plant Cymru, darparwyr gofal annibynnol ac Uned Ddata ~ Cymru.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan yr Uned Ddata ac wrth ei graidd mae cronfa ddata amser real sy’n caniatáu i ddefnyddwyr baru plant â darpariaeth ar sail proffil o’u hanghenion.

Pam dylwn i gofrestru?

Mae’r gronfa ddata yn dal manylion lleoliadau gofal a lleoedd gwag oddi wrth amrediad o ddarparwyr gwasanaeth, gan gynnwys cartrefi preswyl a gofalwyr maeth. Mae’r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson gan ddarparwyr gofal, gan sicrhau bod CCSR yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf bosibl.

Gall timau lleoli a chomisiynwyr mewn awdurdodau lleol ddefnyddio’r gronfa ddata i nodi lleoliadau addas ar gyfer plant yn eu gofal droi gofnodi manylion y plentyn a chynnal chwiliad. Yn ogystal gall awdurdodau lleol gyhoeddi atgyfeiriadau lleoli a chynnal proses dendro, gan ddefnyddio CCSR i greu rhestr fer o’r darparwyr sy’n berthnasol i anghenion y plentyn. Drwy ddefnyddio CCSR, mae darparwyr yn cynyddu gwelededd eu cynigion bob tro y bydd angen lleoliad ar blentyn.

Mae CCSR yn darparu’r system, y gronfa ddata, gwybodaeth reoli bwrpasol ac amrediad o gefnogaeth i randdeiliaid i alluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i ddod o hyd i’r lleoliad cywir ar yr adeg gywir ar gyfer eu plant sy’n derbyn gofal.

Faint fydd yn costio?

Cost cofrestru yw £500 (ynghyd â TAW) y flwyddyn. Am hyn, byddwch:

  • yn gallu rhestru’ch cynigion a’ch cyfleusterau gofal, er mwyn iddynt gael eu cynnwys yn y system a chael eu defnyddio i baru’ch cynigion chi ag anghenion plant ledled Cymru;
  • yn manteisio ar ddarpariaeth gwybodaeth reoli oddi wrth y system a fydd yn dangos i chi pa mor aml mae’r sawl sy’n chwilio am leoliadau yn edrych ar eich cynigion chi; a
  • hefyd yn derbyn cefnogaeth gan gynnwys canllawiau i hyfforddi defnyddwyr, cymorth ar ddefnyddio’r system, cyngor technegol a gallu gwneud cais am ddefnyddwyr ychwanegol (os oes angen).

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am CCSR, a/neu’r broses gofrestru, cysylltwch â ccsrenquiries@dataunitwales.gov.uk neu ffoniwch 029 2090 9540, neu cymerwch gip ar ein Cwestiynau Cyffredin.

I barhau â’ch cofrestriad cliciwch Nesaf.

 

Y cyswllt - am ragor o wybodaeth

Ana.Harries@data.cymru