• This website is available in English

Adroddiad Gwerthuso dull dyrannu Grant Amddifadedd Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru – ar gael nawr

Cawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i adolygu mecanwaith dyrannu presennol Grant Amddifadedd Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar a gwneud argymhellion a allai’r dull presennol gael ei wella’n ymarferol.

Wrth ymgymryd â’r adolygiad ystyriom ni:

  • addasrwydd y dull presennol o ddyrannu’r grant;
  • archwilio’r dull a fabwysiadwyd mewn gwledydd eraill am ariannu’r math hwn o gymorth ac ystyried eu haddasrwydd yng nghyd-destun Cymru; ac
  • ystyried rhai dulliau amgen posibl yn fanwl, gan gynnwys darparu darlun o sut allai’r dyraniad edrych; a
  • gofyn am farn awdurdodau lleol a sefydliadau dysgu.

Nid yw ein hadolygiad wedi nodi unrhyw broblemau sylfaenol gyda’r dull dyrannu presennol y Grant. Serch hynny, rydym wedi nodi nifer fach o welliannau posibl i’r dull presennol.

Cliciwch y ddelwedd isod i weld ein hadroddiad gwerthuso.

EYPDG image

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech drafod yr adroddiad, cysylltwch ag Andrew Stephens neu Ana Harries neu ffoniwch 029 2090 9500.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
06/06/2016
Categorïau: Cyhoeddiad