Tiwtorialau
Mae’r adran hon yn darparu cyfres o fideos tiwtorial sy’n trafod y camau mae angen eu cymryd i ailadrodd y fethodoleg sydd yn ‘Getting Started’ ac a gafodd eu trafod yn y cyrsiau hyfforddiant rhanbarthol. Defnyddiodd y cyrsiau hyfforddiant fersiwn 2010 o Microsoft Excel, ac efallai y bydd angen i rai awdurdodau lleol uwchraddio i’r fersiwn hon i sicrhau eu bod yn gallu dilyn y camau a drafodir yn y ffordd hawsaf.
Er mwyn gwylio’r fideos tiwtorial efallai y bydd ynrhaid i chi drefnu gosod Adobe Flash ar eich cyfrifiadur.
Mae’r fideos tiwtorial yn ymrannu’n dair adran gyffredinol, sy’n adlewyrchu’r cyrsiau hyfforddiant. Ond, ac eithrio’r ‘cyfrifiad o’r angen o ran tai’ na allwch chi ei wneud tan y diwedd, efallai y byddai’n well gennych gwblhau pob adran mewn trefn wahanol i weddu i’ch anghenion lleol eich hun ac yn dibynnu ar argaeledd y data.
Ewch i’r gwymplen ar y tab tiwtorialau i ddewis yr adran briodol.